Llys Ifor hael, gwael yw'r gwedd, - yn garnau
mewn gwerni mae'n gorwedd;
drain ac ysgall mall a'i medd,
mieri lle bu mawredd.
Yno nid oes awenydd, - na beirddion,
na byrddau llawenydd,
nac aur yn ei magwyrydd,
na mael, na gw^r hael a'i rhydd.
I Ddafydd gelfydd ei gân - oer ofid
roi Ifor mewn graean;
mwy echrys fod ei lys lân
yn lleoedd i'r dylluan.
Er bri arglwyddi byr glod, - eu mawredd
a'u muriau sy'n darfod;
lle rhyfedd i falchedd fod
yw teiau ar y tywod.