Marwnad Llywelyn ap Gruffudd

Gruffudd ab yr Ynad Coch

Oer calon dan fron o fraw - allwynin
Am frenin, dderwin ddôr, Aberffraw.
Aur dilyfn a delid o'i law,
Aur dalaith oedd deilwng iddaw.
Eurgyrn eurdëyrn ni'm daw, - llewenydd
Llywelyn, nid rhydd im rwydd wisgaw.
Gwae fi am arglwydd, gwalch diwaradwydd;
Gwae fi o'r aflwydd ei dramgwyddaw.
Gwae fi o'r golled, gwae fi o'r dynged,
Gwae fi o'r clwyed fod clwyf arnaw.
Gwersyll Cadwaladr, gwaesaf llif daradr,
Gwas rhudd ei baladr, balawg eurllaw.
Gwasgarawdd alaf, gwisgawdd bob gaeaf,
Gwisgoedd amdanaf i amdanaw.
Bucheslawn arglwydd ni'n llwydd ein llaw!
Buchedd dragywydd a drig iddaw.

Ys mau llid wrth Sais am fy nhreisiaw,
Ys mau rhag angau angen gwynaw,
Ys mau gan ddeunydd ddieniwaw - Duw,
A'm edewis hebddaw.
Ys mau ei ganmawl heb dawl, heb daw,
Ys mau fyth bellach ei faith bwyllaw,
Ys mau i'm dynoedl amdanaw - afar,
Can ys mau alar, ys mau wylaw.
Arglwydd a gollais, gallaf hirfraw,
Arglwydd tëyrnblas a las o law;
Arglwydd cywir gwir, gwarandaw - arnaf,
Uched y cwynaf: och o'r cwynaw!
Arglwydd llwydd cyn lladd y deunaw,
Arglwydd llary, neud llawr ysy daw,
Arglwydd glew fal llew yn llwyiaw - elfydd,
Arglwydd aflonydd ei afluniaw.
Arglwydd canadlwydd, cyn adaw - Emrais:
Ni lyfasai Sais ei ogleisiaw.
Arglwydd, neud maendo ymandaw - Cymry,
O'r llin a ddyly ddaly Aberffraw.
Arglwydd Grist, mor wyf drist drostaw,
Arglwydd gwir, gwared i ganthaw.
O gleddyfawd trwm tramgwydd arnaw,
O gleddyfau hir yn ei ddiriaw,
O glwyf am fy rhwyf ysy'n rhwyfaw,
O glwyed lludded llyw Bodfaeaw,
Cwbl o was a las o law - esgeraint,
Cwbl fraint ei hynaint oedd ohonaw.
Cannwyll tëyrnedd, cadarnllew Gwynedd,
Cadair anrhydedd, rhaid oedd wrthaw.

O laith Prydain faith, cwynllaith canllaw,
O ladd llew Nancoel, llurig Nancaw.
Llawer deigr hylithr yn hwyliaw - ar rudd,
Llawer ystlys rhydd a rhwyg arnaw,
Llawer gwaed am draed wedi ymdreiddiaw,
Llawer gweddw â gwaedd i amdanaw,
Llawer meddwl trwm yn tramwyaw,
Llawer mab heb dad gwedi ei adaw.
Llawer hendref fraith gwedi llwybr goddaith,
A llawer diffaith drwy anrhaith draw;
Llawer llef druan fal ban fu Gamlan,
Llawer deigr dros ran gwedi'r greiniaw.

O leas gwanas, gwnanar eurllaw,
O laith Llywelyn cof dyn ni'm daw.
Oerfelawg calon dan fron o fraw,
Rhewydd fal crinwydd ysy'n crinaw.

Poni welwch chwi hynt y gwynt a'r glaw?
Poni welwch chwi'r deri'n ymdaraw?
Poni welwch chwi'r môr yn merwinaw - 'r tir?
Poni welwch chwi'r gwir yn ymgweiriaw?
Poni welwch chwi'r haul yn hwyliaw - 'r awyr?
Poni welwch chwi'r sy^r wedi r' syrthiaw?
Poni chredwch chwi i Dduw, ddyniadon ynfyd?
Poni welwch chwi'r byd wedi'r bydiaw?
Och hyd atat ti Dduw na ddaw - môr dros dir!
Na beth y'n geidr i ohiriaw?

Nid oes le y cyrcher rhag carchar braw,
Nid oes le y trigier, - och o'r trigiaw! -
Nid oes na chyngor na chlo nac agor,
Unffordd i esgor brwyn gyngor braw.

Pob teulu, teilwng oedd iddaw;
Pob cedwyr, cedwynt odanaw;
Pob dengyn a dyngynt o'i law;
Pob gwledig, pob gwlad oedd eiddaw.
Pob cantref, pob tref y^nt yn treiddiaw;
Pob tylwyth, pob llwyth ysy'n llithraw;
Pob gwan, pob cadarn cadwed o'i law;
Pob mab yn ei grud sy'n udaw.

Bychan lles oedd im, am fy nhwyllaw,
Gadael pen arnaf heb ben arnaw.
Pen pan las, ni bu gas gymraw;
Pen pan las, oedd lesach peidiaw.
Pen milwr, pen moliant rhag llaw,
Pen dragon, pen draig oedd arnaw.
Pen Llywelyn deg, dygn o fraw - i'r byd
Bod pawl haearn trwyddaw.
Pen f'arglwydd, poen dygngwydd a'm daw,
Pen f'enaid heb fanag arnaw,
Pen a fu berchen ar barch naw - canwlad,
A naw canwledd iddaw.
Pen tëyrn, hëyrn heaid o'i law,
Pen tëyrnwalch balch, bwlch edeifniaw,
Pen tëyrnaidd flaidd flaengar ganthaw:
Pen Tëyrnef Nef, Ei nawdd arnaw.

Gwyndëyrn gorthyrn wrthaw, - gwendorf gorf,
Gorfynt hynt hyd Lydaw,
Gwir freiniawl frenin Aberffraw,
Gwenwlad nef boed addef iddaw.


Gwasg Aredig