Cerdd Dafod

Yn ôl wynebddalen Cerdd Dafod, testun y llyfr yw "Celfyddyd barddoniaeth Gymraeg", ond mae'r rhan helaethaf o'r llyfr yn trin y canu caeth. Fe welir ôl addysg mathemategol yr awdur John Morris-Jones ar yr hyn sydd yn debyg o fod yr ymgais gyntaf i osod trefn ar reolau canu caeth, ac olrhain eu hanes.

Argraffwyd a chyhoeddwyd Cerdd Dafod gan Wasg Clarendon (Gwasg Prifysgol Rhydychen) ym 1925, ond mae ad-argraffiad, gyda mynegai gan Geraint Bowen, gan Wasg Prifysgol Cymru (ISBN 0-7083-0722-1) yn dyddio o 1980.


Gwasg Aredig