Dafydd ap Gwilym (Pedwaredd Ganrif ar Ddeg)

Brodor o Lanbadarn Fawr yn ardal Aberystwyth. Bardd disgleiriaf yr oesoedd canol yng Nghymru, newidiwr a dyfeisiwr chwylroadol yn iaith a mydr a chynnwys barddoniaeth; daeth â dylanwadau cyfandirol o'r Ffraneg i blanu yn nhir cerdd dafod. Ymysg ei waith enwocaf mae'r cywyddau yn adrodd ei helyntion caru, ac yn enwedig am Forfudd a Dyddgu. Mae lle i gredu ei fod wedi'i gladdu yn Ystrad Fflur.


Gwasg Aredig