Edmwnd Prys (1543-1623)

Bardd, ieithydd, ac offeiriad; yn enedigol o Lanrwst, fe fu gyda William Morgan yn fyfyriwr - ac wedi hynny yn gymrawd - yng Ngholeg Ioan Sant yng Nghaergrawnt.

Roedd yn fardd galluog a thoreithiog, ar fesurau caeth a rhydd, hyd yn oed yn englyna yn Lladin. Cyfansoddodd nifer o gerddi cynganeddol adnabyddus ar themâu traddodiadol - ac hefyd rhai llai traddodiadol, fel cywydd sy'n debyg o fod yn un o'r rhai cyntaf i'r bêl droed - ond fe'i cofir yn bennaf fel awdur y Salmau Cân gyhoeddwyd fel atodiad i'r Llyfr Gweddi Cyffredin.


Gwasg Aredig