Myrddin ap Dafydd (1956-)

Yn enedigol o Lanrwst, addysgwyd yng Ngholeg y Brifysgol Aberystwyth cyn dychwelyd i sefydlu gwasg yn ei fro enedigol. Bardd, prifardd, awdur caneuon poblogaidd, golygydd papur bro Yr Odyn a gweithiau hanes gwerin, cenedlaetholwr, argraffwr a chyhoeddwr. Bardd cadair eisteddfod yr Urdd 1974, a'r Genedlaethol yng Nghwm Rhymni 1990.


Gwasg Aredig