Roy Stephens (1945-1989)

Bardd ac athro beirdd, cymwynaswr â cherdd dafod yng Ngheredigion a thu hwnt.

Brodor o Frynaman aeth i brifysgol Caergrawnt yn wyddonydd, a dechrau ymddidori mewn llenyddiaeth tra'n aelod o staff Cofrestrfa Coleg Prifysgol Cymru yn Aberystwyth. Ef oedd ysgrifennydd cyntaf y Gymdeithas Gerdd Dafod, ac wedi cyfnod pellach fel gweinyddwr yn y Llyfrgell Genedlaethol ymunodd ag Adran Efrydiau Allanol y Brifysgol, lle bu'n weithgar yn sefydlu nifer o ddosbarthiadau cerdd dafod ledled Ceredigion.

Lluniodd Yr Odliadur, geiriadur barddol cyntaf yr iaith Gymraeg ers canrif, ac yn sicr y cyntaf i'w gynhyrchu trwy ddefnydd cyfrifiadur.


Gwasg Aredig