Saunders Lewis (1893-1985)

Dramodydd, hanesydd, bardd, nofelydd, gwleidydd; yn enedigol o Wallasey ac yn babydd enwog. Un o sylfaenwyr Plaid Genedlaethol Cymru (ddaeth yn ddiweddarach yn Blaid Cymru), carcharwyd ef yn Walton yn dilyn llosgi'r ysgol fomio ym Mhenyberth. Bu'n ddarlithydd yn y Gymraeg yng Nghaerdydd, ac yn newyddiadurwr. Mae'n enwog hefyd am ei ddarlith radio, Tynged yr Iaith, ym 1962 arweiniodd at sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.


Gwasg Aredig