Yr Odliadur

Paratowyd Yr Odliadur gan y diweddar Roy Stephens, gyda chymorth cyfrifiadur ac ysgoloriaeth Cyngor Celfyddydau Cymru. Os nad geiriadur odlau cyntaf yr iaith, hwn oedd y cyntaf ers tro byd, a'r cyntaf yn sicr i'w gynhyrchu gyda chymorth cyfrifiadurol. Yn y gyfrol ceir nodiadau byr ar natur odl, ar gynghanedd, ac ar fesurau traddodiadol, ond yn bennaf rhestrir rhyw bum mil ar hugain o eiriau Cymraeg yn ôl eu hodlau. (Ceir copi electronig anghyflawn o restr geiriau'r Odliadur yn gymar i'r ddogfen hon.)

Argraffwyd a chyhoeddwyd Yr Odliadur (clawr meddal, pris ar y clawr £3.95, rhif llyfr safonol 0-85088-710-0, dyddiad cyhoeddi 1978) gan Wasg Gomer.


Gwasg Aredig