Marwnad Tudur Aled

Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan

Bwriwyd unbardd, brad enbyd,
Bwriai Dduw ben beirdd y byd!
Brad gwawd buredig ydoedd,
Bwrw niwl ar bêr awen oedd,
Breuddwyd a'n gwnaeth yn bruddion,
Bwrw cerdd bêr, brig, gwraidd a bôn;
Diwraidd cerdd, dau arwydd cur,
Dirym dadl, draw, am Dudur.

Gyrrodd rhew o'i gwraidd y rhawg
Gardd lysau'r gerdd luosawg,
Os gwir rhoi - nid ysgar rhew -
Eos Aled is olew;
Trist yw'r cwyn tros awdur cerdd,
Trwstan-gwymp trawst awen-gerdd.

Ymroi i Dduw a Mair 'ddoedd,
Wedi'r sidan drwsiadoedd;
I ddofydd yr addefwyd,
Ei ddewis glôg oedd wisg lwyd;
Cryf oedd o serch crefydd saint,
Crefyddfrawd Côr ufuddfreint;
Ffydd y saint, hoff oedd ei swydd,
Ffrawnsys a hoffai'r unswydd;
Buasai well, 'n y bais hon,
Bwrw deuddeg o brydyddion;
Bid y brud a'r byd heb wres,
Brud, hyd dydd brawd y toddes;
Braidd, o gerdd, bereiddio gair,
Braidd, gwedi bardd y gadair;
I gadw rhoer ei gadair hardd
Ar feddfaen yr ufuddfardd,
A boed i'r un o'r byd rodd
A fai'n well - ef a'i 'nillodd!

Ni bu roddion bereiddiach,
Nag awen ben Gwion Bach;
Perach gwawd, parch, ag odiaeth,
Petai'n fyw poet i nef aeth;
Och dristed merch dros dad mawl,
O chuddiwyd ei chywyddawl!
Gwae ddyn wych, gwaeddwn uchod,
Gwae, ni chlyw ganu ei chlod;
Mae gweiddi am gywyddwr
Merch a gwalch a march a gw^r;
Och, dorri braich draw a bron
Angel annwyl englynion!
Bywiog englyn heb gonglau,
Berw gân fraisg, brig awen frau;
Am air hoyw, pwy mor rhywiog
Heb wyrth gras aberth y Grôg?
Eilio'r iaith fal Iolo'r oedd,
Eiliad awdl Aled ydoedd.
Awen ddofn o'r un ddefnydd
A'r gawod fêl ar goed fydd;
Awen frau, i nef yr aeth,
Wrth freuder, werthfawr odiaeth;
Cerdd ysgwîr, croywddysg araith,
Clod y gw^r, clywed ei gwaith;
Ef âi, o châi, afiach hen
Ei chlywed, yn iach lawen.

Didolcwaith gyfiaith a gad
Deutu genau datgeiniad -
Fal gwin oll neu fêl y gwnai
Lais mwngwl Eos Menai.

Mowrddysg oedd am urddas gwawd,
Mwy fu irder myfyrdawd,
I'r ddwy, dysgai'r ddau degwch -
Y mêl a'r cwyr aml i'r cwch;
Mab ydoedd am wybodaeth,
Merddin Wyllt, marw ddoe a wnaeth.
Yma'n y byd, mwy, ni bydd
Ail Dudur Aled wawdydd;
Ethrylith aeth ar elawr,
A therm oes yr athro mawr;
Ni wyddwn, o iawn addysg,
Nes ei ddwyn, eisieu ei ddysg;
Ag yn ei fedd gan ei fod,
Mae'r Beibl mawr heb ei wybod;
Ef a wyddiad ar foddau
Ei hun, gwell no hy^n nag iau.

Yn iach awen, och, ieuainc!
Yn iach farn iawn uch y fainc;
Yn iach brigyn, awch breugerdd,
Yn iach cael cyfrinach cerdd;
Yn iach un ni châi einioes
Yn iach ei ail yn eich oes;
I ail einioes lawenach,
I wlad nef eled, yn iach!


Gwasg Aredig