Iolo Morgannwg (Edward Williams, 1747-26)

Ble mae cychwyn? Bardd, hynafieiethydd, defnyddiwr laudanum, a saer maen.

Yn enedigol o Lancarfan, Morgannwg, treuliodd amser yn Llundain ble ymdroiai ymysg Cymry Cymdeithas y Gwyneddigion, a beirdd a radicaliaid Seisnig. Yn Llundain yn 1792 y sefydlodd Gorsedd Beirdd Ynys Prydain, ac ef gyflwynodd y dderwyddiaeth newydd i Gymru. Cyhoeddodd nifer o gywyddau newydd honedig Dafydd ap Gwilym, o'i eiddo ei hun, a ffrwyth ei ddychymyg ei hun oedd cryn dipyn o'i ymchwil hanesyddol. Er hynny fe'i cydnabyddir yn athrylith llenyddol y mae arnom ddyled iddo am drefn dodrefn diwylliannol y Gymru cyfoes.


Gwasg Aredig