Dic Jones (1934-)

Bardd traddodiadol yn canu mawl ei gymdeithas wledig, amaethwr o Flaneannerch, ac un o ddisgybion Alun Cilie. Enillodd cadair eisteddfod yr Urdd pum gwaith yn y pumdegau cyn mynd ymlaen i gadair yr Eisteddfod Genedlaethol gydag awdl i'r Cynhaeaf (1966), ac yna un i'r Gwanwyn (1976) fyddai wedi ennill iddo ail gadair ond iddo gael ei ddiarddel o'r gystadleuaeth o achos aelodaeth o un o bwyllgorau'r wyl.


Gwasg Aredig