Robert Williams Parry (1884-1956)

Bardd, yn enedigol o Dal-y-Sarn yn Nyffryn Nantlle, a ymgartrefodd ym Methesda. Daeth i amlygrwydd am i'w awdl i'r Haf ennill cadair Eisteddfod Genedlaethol 1910, ac fe gyhoeddodd dwy gyfrol o farddoniaeth: Yr Haf a cherddi eraill a Cherddi'r Gaeaf. Bu'n athro mewn sawl ysgol ac yn ddiweddarach yn ddarlithydd ym Mangor; treuliodd dwy flynedd yn y fyddin yn ystod y Rhyfel Mawr, ac yn y cyfnod hwnnw cyfansoddodd englynion coffa enwog i Hedd Wyn.

Ymwrthododd â barddoni am gyfnod tra'n ddarlithydd - credai nad oedd yn cael chwarae teg gan y Brifysgol am ei fod yn lenor yn hytrach nag ysgolhaig - ond ail-afaelodd mewn awen wleidyddol i wrthdystio ar ôl diarddel Saunders Lewis gan y Brifygol adeg tân Penyberth.


Gwasg Aredig