Simwnt Fychan (Yr Unfed Ganrif ar Bymtheg)

Bardd o Lanfair Dyffryn Clwyd, un o ddisgyblion Gruffudd Hiraethog. Ar ben ei waith ei hun, fe'i cofir yn bennaf am iddo drefnu cynnwys addysg beirdd ei gyfnod. Fe all fod mai dim ond rhoi ar glawr gwaith gwreiddiol ei athro yr oedd, ond yn ei law yntau ceir y drafodaeth fanylaf o blith y Penceirddiaid.


Gwasg Aredig