yn ôl i'r wers cynnwys


Sain ng

Gall y clymiad ng mewn gair ddynodi un ai'r un llythyren ddaw rhwng g ac h yn nhrefn yr wyddor, neu n ac g yn dilyn eu gilydd. Gall yr anghyfarwydd wahaniaethu rhyngddynt weithiau trwy weld lle daw gair yn nhrefn geiriau mewn geiriadur.

agwedd
angerdd
anghredadwy
ai
baner
bangor
banhadlen
danfon
dangos
dannod

Sain yddfol, treigliad trwynol g, sydd i'r llythyren ng, fel yn y geiriau angel, congl, dringo, engan, llong, ac yn y blaen. Eithr ceir sain caled g mewn rhai geiriau, fel Bangor, bingo (dau air benthyg, mae'n debyg, un o'r Wyddeleg a'r llall o'r Saesneg).

Sain n.g neu ng.g oedd unwaith i eiriau fel angerdd a dangos ond bod y rhain wedi mynd yn ng yn yr iaith gyfoes. Ceir rhai geiriau, dangos er engraifft amlwg, sy'n gwahaniaethu rhwng tafodieithoedd: d.a.ng.o.s yn iaith y Gogledd, a'r hen d.a.n.g.o.s yn y De.

Er na ddylid, yn amlwg, geisio cynganeddu seiniau ng a n+g, nid oes gwahaniaeth rhwng n+g a ng+g:

Ei fwng gwyn | welaf yn gwau. (Taliesin o Eifion, i drên stêm)

ac yr un modd nid oes gwahaniaeth rhwng n+c a ng+c:

Ing calon | yn ceulo'r | meddyliau. (Tudno)


yn ôl i'r wers cynnwys

Gwasg Aredig