y wers flaenorol cynnwys y wers nesaf


Unfed Wers ar Ddeg cwrs Clywed Cynghanedd

Caledu cytseiniaid

Wrth ddysgu rhai goddefiadau cerdd dafod, cawsom ar ddeall bod dwy gytsain yr un fath agosaf at ei gilydd yn cael eu seinio fel un gytsain a'i bod hi'n gywir ateb y rheiny gyda dim ond un gytsain.

Er enghraifft, mae un m yn ateb y ddwy sydd yn cam mawr, mae un n yn ateb y ddwy yn un nos ac un r yn ateb y ddwy sydd yn ar ras. Serch hynny, mae rhai cytseiniaid yn eithriaid i'r rheol honno.

Cytseiniaid caeëdig yw b, d, g ac mae'n anodd dweud dwy ohonynt yn union ar ôl ei gilydd. Arferiad yr hen Gymry oedd crynhoi digon o anadl ac ynganu'r cytseiniaid yn sydyn mewn un sain galed. Oherwydd hynny, roedd dwy b gyda'i gilydd yn swnio yn debyg i sain p, dwy d yn debyg i t a dwy g yn debyg i c. O safbwynt y gynghanedd felly, mae pob bwrdd yn swnio fel po-p-wrdd a rhaid ateb y ddwy b sydd ynghlwm yn ei gilydd gyda'r gytsain p. O'u dyblu, mae b, d ac g yn caledu a rhaid parchu'r sain a glyw'r glust er mwyn cael cynghanedd gyflawn.

Ymarferiad 1

Wrth gwrs, does dim rhaid i ddwy o'r cytseiniaid hyn gael eu hateb gan gytsain galed. Gellir eu hateb hefyd gyda dwy gytsain glwm yr un fath, fel yn y llinell hon o waith Tudur Aled:

mae gwaed da lle maged dyn

Mae b, d ac g yn cael eu caledu yn ogystal os bydd anadliad caled yr h yn eu dilyn. Rydym yn gyfarwydd â chlywed hynny yn ein hiaith bob dydd - mae drwg a hin yn rhoi drycin inni, cardod a -ha yn rhoi cardota a gwlyb a haf yn rhoi gwlypaf. Dyma'r tabl seiniau sy'n cyfateb o safbwynt y gynghanedd a'r glust felly, (gan gofio am reolau ceseilio yn ogystal):

b & b = b & h = p = p & b
d & d = d & h = t = t & d
g & g = g & h = c = c & g

Dyma enghreifftiau o'r rheolau hynny ar waith mewn cynghanedd:

heb hiraeth, hi a'i peris (Ieuan Deulwyn)
gair teg a wna gariad hir (Gutun Owain)
llais y corn lluosog hir (Tudur Aled)

Os bydd y gytsain r rhwng y gytsain gaeëdig a'r h, mae'r effaith yr un fath. Mae budr a -haf yn rhoi butraf inni. Gwelir hynny yn llinell Tudur Aled, lle mae'r g yn cael ei chaledu i ateb c:

a fo cryf a fag rhyfel

Dyma dabl arall o gyfatebiaeth felly:

br & h = b & rh = pr
dr & h = d & rh = tr
gr & h = g & rh = cr

Ymarferiad 2

Eithrio rhag caledu

Erbyn heddiw, mae llawer o'r beirdd yn mynnu nad yw dwy b gyda'i gilydd yn cael eu hynganu fel p gennym bellach - a bod yr un peth yn wir am ddwy d a dwy g. Yr hyn sy'n digwydd ar y dafod erbyn hyn, meddir, yw gollwng un o'r cytseiniaid meddal yn hytrach na chaledu, er engraifft

i bob barn ei llafar

dywedir:

i bo(b) barn ei llafar

yn hytrach na:

i bo(b)-p-(b)arn ei llafar

Oherwydd hynny, nid oes raid cadw at y rheol bod dwy gytsain feddal gyda'i gilydd yn caledu erbyn heddiw. Ond tueddir i gytuno bod effaith h ac rh ar ôl cytsain feddal yn dal i'w chaledu.

Cynghanedd Ewinog

Mewn llinell o Groes o Gyswllt, gall y gytsain olaf ar ddiwedd y rhan gyntaf gyfuno gyda chytsain arall ar ôl yr orffwysfa a chaledu i ateb y gytsain wreiddgoll. Yma eto, nid yw'r caledu'n digwydd dim ond pan nad oes llafariad arall rhwng y ddwy gytsain. Gelwir y math hwn o gyfuniad yn gyswllt ewinog:

Tudur Llwyd | hyder y llew (Tudur Aled)
t d r ll: |[d+h]d r   ll:

Mae'r d ar ddiwedd y rhan gyntaf yn caledu o dan ddylanwad yr h yn hyder ac yn ateb y t yn Tudur i greu Croes o Gyswllt ewinog. Dyma enghreifftiau eraill:

parch yw i bawb berchi'i ben (Tudur Aled)
Caer Gai enwog hir gynnydd (Simwnt Fychan)
truan ei fod draw'n ei fedd (Tudur Aled)

Ond nid yw'n dilyn bod dwy gytsain feddal o boptu'r orffwysfa yn gorfod caledu, serch hynny. Weithiau ystyrir fod y saib naturiol rhwng diwedd rhan gyntaf y llinell a dechrau'r ail ran yn gwahanu'r cytseiniaid fel na bo calediad yn digwydd rhyngddynt:

deled i oed | deuliw dydd (Dafydd ap Gwilym)
d l d   :(d)  d  l   d:

Mae'r cyswllt ewinog i'w ganfod mewn cynghanedd Sain yn ogystal. Gadewch inni ystyried y llinell hon:

ac ar dyfiad y tad hael          (Wiliam Lly^n)

Cynghanedd Sain yw hon yn ei hanfod ac mae'n rhannu fel hyn:

ac ar dyfiad | y tad | hael

Ceir odl rhwng diwedd y ddwy ran gyntaf - dyfiad/tad. Ond ble mae'r gyfatebiaeth gytseiniol rhwng yr ail a'r drydedd ran? Tad/hael? Dyma ble mae'r cyswllt ewinog yn dylanwadu ar sw^n y llinell - mae'r d yn tad yn cael ei galedu gan yr h yn hael nes bod gennym y sain galed t sy'n ateb y t yn tad:

tad hael
t: (t):

Mae'r d yn tad felly yn gweithredu fel dwy gytsain - mae'n ymddwyn fel d er mwyn odli â'r gair dyfiad ac yna'n ffrwydro'n galed gyda'r h i greu t ar gyfer y gyfatebiaeth gytseiniol.

Drwy galedu, mae modd creu odl ewinog mewn cynghanedd Sain (neu mewn cynghanedd Lusg neu mewn prifodl i un o'r mesurau hefyd o ran hynny). Beth am hon?

mae'n rhoi cic i'r cerrig gwyn

Ar un olwg, nid oes odl na chynghanedd ynddi ond o wrando ar y calediad, clywn y seiniau hyn:

mae'n rhoi cic | i'r cerrig | gwyn
            IC           I[g+g]
                     c:   [g+g]:

A dyma enghraifft o Lusg ewinog:

fy nghariad, deuaf atat
         a[d+d]    at

Ymarferiad 3

Meddalu'r gytsain T

``R'wyn mynd nôl i Flaenau Ffestiniog'' oed cân y Tebot Piws ond gwrandewch yn ofalu ar y llinell. Ai `Ffestiniog' yntau `Ffesdiniog' sy'n cael ei ganu? Mae'r gytsain s yn effeithio ar y gytsain t gan ei meddalu mewn rhai tafodieithoedd, ond erys yn sain galed mewn tafodieithoedd deheuol. Felly, wrth ymuno yn yr hwyl, mae'n ddigon posibl bod un hanner y gynulleidfa yn morio canu am `Ffestiniog' a'r hanner arall yn hiraethu am `Ffesdiniog'.

Yn naturiol, mae rheolau'r tafod a'r glust yn cael eu hadlewyrchu yn rheolau'r gynghanedd. Derbynnir bod st yn swnio fel sd ac mae'n hollol ddilys ateb y t gyda'r d feddal o dan amodau o'r fath. Ond derbynnir yn ogystal bod rhai tafodieithoedd yn cadw'r sain galed ac felly mae rhyddid gan y bardd unigol i wrando ar ei glust ei hunan. Mae'r cyfatebiadiau hyn i gyd yn gywir:

estyniad i lein Stiniog
mae rhyw staen ym mro Stiniog
tonnau o law yn Stiniog
dynion o graig Ffestiniog

Mae'r un peth yn wir am y cyfuniadau fft, llt, cht a ct - er mai gytsain galed sy'n cael ei hysgrifennu, d feddal a glyw'r glut mewn rhai tafodieithoedd.

Mae fft yn llofft yn rhoi lloffd i ni ar lafar; felly hefyd gwallt a gwalld, dracht a drachd, tact a tacd. Dyma engreifftiau mewn cynganeddion:

trwsiadau drud trosti draw (Tudur Aled)
gwylltineb golli dynion (Lewys Glyn Cothi)
a phader serch, hoffter sôn (Ieuan Deulwyn)
ai dellt aur yw dy wallt di? (Dafydd Nanmor)

Weithiau bydd sc a sp yn cael eu hysgrifennu ar bapur, er engraifft sport neu scrin ond sbort a sgrin yw'r unig ffordd o ynghanu'r geiriau hynny yn y Gymraeg. Mater o gamsillafu yw hyn yn hytrach na bod y gytsain s yn meddalu'r p a'r c.

Gall s feddalu t heb fod yn perthyn i'r un gair â hi cyn belled nad oes yr un llafariad rhyngddynt, er engraifft mewn clymiadau fel llais tad, neu oes trip, ond nid yw'r un peth yn wir am y cytseiniaid c a p. Mae pres peint a Plas-coch yn cadw'r seiniau caled.

Er hynny, os bydd b neu g yn dyblu ar ôl s, ni fyddant yn caledu oherwydd nad ydi cytsain yn cael ei hynganu'n ddwbl pan fo ynghlwm â chytsain arall. Mae hon yn hollol gywir felly:

maes gwinwydd ymysg gwenith (William Lly^n)

Ni fydd h chwaith yn caledu'r gytsain yng nghanol gair mewn rhai tafodieithoedd - trisdáu a yngenir, nid tristáu, er engraifft:

dristáu gw^r dros dy garu (Dafydd ap Gwilym)

Ymarferiad 4

Seiniau tebyg

Mae cyfuniad o -s ar ddiwedd un gair ac g-/d-/b- ar ddechrau'r gair canlynol, fel yn

dewis gw^r
peips dw^r
dros ben

yn medru ateb y cyfuniad o -s â c-/t-/p- gan fod y ddwy sain mor debyg. Ond ni ddigwydd hyn dim ond pan fo'r s/g a'r s/c, a'r cyfuniadau eraill, ynghlwm wrth ei gilydd naill ai o fewn yr un gair neu ar ddiwedd un gair ac ar ddechrau'r nesaf.

Beth ddywedwch chithau - pobdy, pobty, popdy neu popty? Mae'n anodd diffinio'r sain yn hollol gywir ond yr un olaf a sillefir gan mai hwnnw sy'n dod agosaf at y sain a glyw'r glust. Dyma un o amryw o glymiadau o seiniau sydd mor debyg nes ei bod hi'n anodd dweud pa gytsain sy'n galed a pha un sy'n feddal, neu a yw'r ddwy'n feddal neu'r ddwy'n galed. Mae tg yn ateb dc, ac mae pg a pc yn gwneud yr un modd pan fônt yn gyfuniadau:

datgladdwn dad celwyddau (Gruffudd Hiraethog)
llaw Hopcyn oll a'i hepgyr (Lewys Glyn Cothi)

Bydd caledwch yn amlycach yn un o'r cytseiniaid fel rheol a'r pryd hwnnw does dim rhaid iddynt fod yn glymiad i greu cynghanedd - mae modd i g...t neu c...d ateb ct, a b...t neu p...d ateb pt:

Guto'r Glyn, doctor y glod (Hywel ap Dafydd)
Ector â nerth cadarn oedd (Wiliam Lly^n)
y bu tano gapteiniaid (Lewis Glyn Cothi)
cipiwyd i nef, capten oedd (Lewis Menai)

Digwydd hyn yn amlach na pheidio mewn geiriau wedi'u benthyca i'r iaith - mewn geiriau Cymraeg cynhenid, bydd y clymiad yn rhy llac i galedu fel arfer pan ddaw'r cytseiniaid hyn ynghyd:

cyd-gerdded coed â gordderch (Dafydd ap Gwilym)

Pan ddaw'r cytseiniaid ynghyd mewn dau air gwahanol, ni fyddant yn caledu chwaith. Os bydd cytsain galed ar ddiwedd gair ac un feddal ar ddechrau'r gair sy'n dilyn, ni fydd caledu:

i Fflint gaeth a'i phlant i gyd (Lewys Glyn Cothi)

ond fe all caledu ddigwydd wrth gyd-osod geiriau os daw cytsain feddal yn gyntaf a'r un galed yn ail, er engraifft

byd perygl bod heb Harri (Guto'r Glyn)
hap cefaist ymhob cyfoeth (Wiliam Lly^n)

Ai yn Llambed neu yn Lanbedr y mae swyddfa Golwg? Ai yn Nimbach neu yn Ninbych y mae Ysgol Twm o'r Nant? Pan fydd b neu p yn dilyn y gytsain n, bydd yr n yn troi'n m i'r glust. Mewn cynghanedd, felly, gellir ateb nb gydag mb ac ateb np gydag mp.

yn gwmpas drain yn ganpig (Gruffudd Gryg)
a'm brest yn myned yn ben (Guto'r Glyn)

Ond mae gennym un clymiad sy'n cynrychioli dwy sain wahanol yn y Gymraeg - ng yw honno. Gall gyfleu'r sain yddfol fel yn engan (eng-an) neu'r gytsain ddwbl n-g fel Bingo (Bin-go). Er eu bod yn edrych yr un fath ar bapur, y sain i'r glust sy'n cyfrif ac ni all y naill gynganeddu â'r llall.

Ymarferiad 5


y wers flaenorol cynnwys y wers nesaf

addasiad Gwasg Aredig o ddeunydd hawlfraint (h) Gwasg Carreg Gwalch