y wers flaenorol cynnwys y wers nesaf


Degfed Wers cwrs Clywed Cynghanedd

Creu englyn

Un ffordd syml o fynd ati i greu englyn yw rhestru geiriau sy'n cael eu hysgogi wrth feddwl am destun arbennig. O'r rhestr honno, rhaid ceisio cael hyd i bedwar gair yn odli (gydag o leiaf un ohonyn nhw'n acennog) ac yna creu cynganeddion yn seiliedig ar y prifodlau hynny.

Gadewch inni ddewis `Afonydd Cymru' yn destun gan fwriadu llunio englyn sy'n gatalog o enwau afonydd a dim byd mwy uchelgeisiol na hynny. Rhaid chwilio am odl addawol i ddechrau arni - tydi afonydd fel Rheadr, Twrch, Ffraw a Chlwyd fawr o ddefnydd inni yn yr achos hwn oherwydd rhaid cael o leiaf pedwar enw afon sy'n odli, gydag un ohonynt yn acennog.

Dewch ag enwau sy'n odli inni ynte. Beth am:

Aeron, Llifon, Wnion, Cynon, Daron, Horon, Irfon?

Mae hon yn rhestr addawol. Ond beth am enw afon sy'n odli gydag -on ac yn air acennog? Oes mae afon Don i'w chael yn Lloegr, ond rhaid cadw at y testun sef `Afonydd Cymru'!

Gwell rhoi cynnig ar odl wahanol:

Teifi, Tywi, Dyfi, Ewenni, Llyfni, Senni, Sirhywi, Tyweli.

Rhestr dda eto - ond ble mae'r gair acennog?

Tri chynnig i Gymro amdani:

Conwy, Dyfrdwy, Ebwy, Mynww, Efyrnwy, Elwy, Gwy.

Gwy - dyna'r enw rydym ni wedi bod yn chwilio amdano. Bellach mae gennym gasgliad o enwau ar yr un odl gydag un acennog ar gyfer y drydedd neu'r bedwaredd linell, yn ôl gofynion esgyll yr englyn. Mae angorion y pennill gennym bellach a gallwn eu gosod dros dro fel hyn:

........................ Conwy - ..............
      ........................ Ebwy
   ............................ Gwy
   ........................ Dyfrdwy

Mae angen dwy afon i gynganeddu â'i gilydd i greu cynghanedd rhwng y gair cyrch a dechrau'r ail linell. Byddai'n ddefnyddiol felly pe bai gennym restr o enwau afonydd sy'n cynganeddu â'i gilydd - ond heb fod yn odli â'r brifodl -wy rhag troseddu yn erbyn y rheol gormod odl.

Beth amdani? Ychwanegwch at y rhestrau hyn.

Dyna hen ddigon o ddetholiad ar gyfer gair cyrch a'r ail linell. Gadewch i ni ddewis un pâr er mwyn gyrru arni i gwblhau'r dasg:

........................ Conwy - Afon Twrch
      Afon Taf ac Ebwy
   ............................ Gwy
   ........................ Dyfrdwy

Rhaid defyddio'r enwau afonydd sy'n ffurfio'r dair prifodl arall fel rhan o'r gynghanedd ym mhob un o'r llinellau hynny ac felly mae'r dewis yn fwy cyfyngedig. Y gynghanedd rwyddaf i'w llunio yw'r gynghanedd Lusg ond ni allwn gynnwys dim ond un ohonynt mewn englyn unigol. Oes 'na un yn cynnig ei hun tybed? Ni allwn roi'r Lusg mewn llinell olaf englyn ond buasai modd cyfnewid Dyfrdwy a Gwy os byddai hynny'n hwyluso pethau.

Yn anffodus, iy dywyll sydd yng ngoben yr enw Dyfrdwy ac mae'n amhosibl llunio cynghanedd Lusg gyda'r sain honno. Beth am Conwy? Wel, mae gennym ddigon o enwau wedi'u rhestru eisioes sy'n odli ag em ac felly'n creu cynghanedd Lusg gyda'r enw Conwy. Awn am yr enw cyntaf ar y rhestr:

Afon Aeron a Chonwy

Hyfryd iawn! Mae pethau'n dechrau siapio:

Mae enw Conwy yn un gweddol hawdd i'w gynganeddu'n gytbwys ddiacen hefyd. Beth am:

Afon Cennen, afon Conwy

Cyfrwch y sillafau. Mae hon yn llinell wythsill - ond cofiwch fod hynny'n dderbyniol yn y gynghanedd gyntaf mewn englyn cyn belled â'n bod yn lleihau'r nifer o sillafau sydd yn y gair cyrch i ddwy er mwyn cadw cyfanswm sillafau'r llinell gyntaf i ddeg sillaf. Os defnyddiwn y llinell hon, byddai'n rhaid cael rhywbeth tebyg i hyn yn y cyrch a'r ail linell:

Afon Cennen, afon Conwy, - Clarach,
      Claerwen ac Efyrnwy

neu

Afon Cennen, afon Conwy, - Sannau
      a Senni ac Ebwy

Byddai modd cael cynghanedd anghytbwys ddisgynedig yn seiliedig ar yr enw Conwy hefyd a byddai hynny yn ein cadw at linell saith sillaf:

Afon Cain, afon Conwy, - afon Twrch,
      afon Taf ac Ebwy.

Dyna'r paladr wedi'i lunio. Awn ymlaen at yr esgyll - rhaid cael un llinell i ddiweddu'n acennog a'r llall yn ddiacen.

Sut mae cynganeddu'r llinell acennog? Gallwn ddewis enw sy'n gytbwys acennog o'r rhestr uchod, er engraifft:

Afon Gwaun ac afon Gwy

Neu gallwn anelu am gynghanedd Sain - Sain Anghytbwys Ddyrchafedig. I wneud hynny rhaid cael enw afon sy'n diweddu'n ddiacen ond sydd â'r gytsain g o flaen yr acen yn y goben, er engraifft:

Gwyrfai, Gele, Gwili, Gorsen, Geirw, Gwesyn.

I gwblhau'r gynghanedd Sain, rhaid cael enw sy'n odli ag un o'r afonydd hyn. Unwaith eto, mae dewi digon helaeth ar ein cyfer:

Menai a Gwyrfai a Gwy
Tawe a Gele a Gwy
Teifi a Gwili a Gwy
Hafren a Gorsen a Gwy
Serw a Geirw a Gwy
Glaslyn a Gwesyn a Gwy

Am wn i mai'r un olaf sy'n apelio orau at fy nghlust i.

Beth am y llinell ddiacen? Oes enw afon yn cynnig ei hun i gynganeddu gyda Dyfrdwy? Oes 'na enw o gwbl yn cynnig ei hun? Na, go brin. Mae Dyfrdwy yn un o'r geiriau ystyfnig hynny sy'n mynnu bod ar ei ben ei hun. Ac eto, does dim rhaid inni ei wrthod yn gyfangwbl chwaith. O leiaf, mae'n odli gyda'r brifodl. Beth wnawn ni efo'r enw yma 'ta? Wel, gan mai cynghanedd bengoll sydd rhwng y gair cyrch a dechrau'r ail linell yn yr englyn hwn, mae diwedd yr ail linell yn rhydd o orfod ateb unrhyw gytseiniaid. Gallwn roi Dyfrdwy yn y fan honno gan roi mwy o ddewis inni ar gyfer y llinell olaf sydd angen ei chreu. Dyma beth sydd gennym hyd yn hyn:

Afon Aeron a Chonwy, - afon Twrch,
      Afon Taf a Dyfrdwy,
   Glaslyn a Gwesyn a Gwy
   ................................

gadewch i ni fynd yn ôl at weddill ein dewis o enwau ar gyfer y brifodl:

Ebwy, Mynww, Efyrnwy, Elwy.

Pa enwau sy'n cynnig eu hunain fel gorffwysfa i ateb un o'r afonydd hyn - gallant greu gyfatebiaeth gytbwys ddiacen neu anghytbwys ddisgynedig. Dyma rai:

Alwen  / Elwy
Mynach / Mynwy
Menai  / Mynwy

Am funud bach! Mae'r ai yn Menai yn proestio gyda'r wy yn Mynwy - maent yn ddeuseiniad lleddf sy'n perthyn i'r un dosbarth ac felly byddai'n amhosibl eu defnyddio i gyfateb ei gilydd ar wahân mewn gair cyrch a dechrau ail linell englyn. Mae Mynach/Mynwy braidd yn debyg eu sain yn ogystal - er nad ydyn nhw'n wallus - felly mae hynny'n ein gadael gydag Alwen/Elwy. Gallwn greu cynghanedd Sain eto, er engraifft:

Hafren, Alwen ac Elwy

Gan y bydd y llinell hon yn yr esgyll, rhaid iddi fod yn un seithsyll ac felly ni all y patrwm

Afon Alwen, afon Elwy

ffitio yma. Dewis arall yw creu cynghanedd Groes fel hyn:

Cain, Alwen, Cynon, Elwy

Mae un n yn Cain yn ddigon i ateb y ddwy yn Cynon gan nad oes yr un gytsain arall rhyngddynt. Wel, siawns nad oes gennym englyn bellach. Dyma un detholiad o'r gwahanol linellau rydym wedi'u creu:

Afon Aeron a Chonwy, - afon Twrch,
      Afon Taf a Dyfrdwy,
   Glaslyn a Gwesyn a Gwy,
   Cain, Alwen, Cynon, Elwy.

Hym, ie, wel... Tydi o ddim yn swnio'n dda iawn, er ei fod yn hollol gywir. Rhaid inni gofio bob amser mai rhywbeth i'r glust yw'r gynghanedd a'i mesurau ac mae'n bwysig bod y rhythm a'r trawiadau yn gorwedd yn esmwyth ar y clyw ac yn rhybanu'n llyfn oddi ar y tafod. Beth sydd o'i le ar yr englyn fel ag y mae? Nid yw'n swnio'n orffenedig rywsut gyda'r llinell olaf yna mor llawn o enwau.

Buasem yn medru mynd yn ôl at y gynghanedd Sain gyntaf a wnaethom sef:

Glaslyn a Gwesyn a Gwy,
Hafren, Alwen ac Elwy.

Ond, rhywsut, nid yw'r esgyll hwnnw yn swnio'n rhy dda chwaith. Anaml y bydd dwy gynghanedd Sain yn gorffwys yn esmwyth o fewn un cwpled neu'r un esgyll gan fod eu rhythm yn medru bod yn ddigon undonnog. Awn yn ôl at y fersiwn arall. Beth am gyfnewid y drydedd a'r bedwaredd linell?

Afon Aeron a Chonwy, - afon Twrch,
      Afon Taf a Dyfrdwy,
   Cain, Alwen, Cynon, Elwy,
   Glaslyn a Gwesyn a Gwy.

Ydi, mae hwn yn well. A dweud y gwir, mae hwn yn `canu' - er mai dim ond catalog o enwau ydyw, mae rhyw hud hyfryd yn perthyn iddo. Mae'r cydbwysedd a'r curiad yn iawn, y llinellau'n amrywiol eu cynganeddiad a'u trawiad ac eto'n asio i'w gilydd yn ddigon dymunol. Pan fo hynny yn digwydd mewn englyn neu gywydd neu awdl, byddwn yn dweud ei bod yn `canu', a dyna'r ganmoliaeth uchaf un i ddarn o gerdd dafod.

Ymarferiad 1

Does dim rhaid cyfyngu ein hunain i afonydd wrth gwrs - byddai modd llunio englynion sy'n cynnwys rhestrau o fynyddoedd neu lannau neu drefi neu enwau personol. Mae'r cyfan yn hyfforddiant da i ddysgu trin a thrafod geiriau ar gyfer cynganeddu'n fwy rhugl.

Ymarferiad 2

Ac i dwchu'r cawl ymhellach, beth am gyfuno gwahanol enwau - dyma i chi dri englyn yn cyplyu a chynganeddu enwau personol ac enwau lleoddd led-led y byd. Mae'r posibiliadau yn ddi-ben-draw!

Aeth Sam i Alabama, - a Gwenan
      i ganol Bolivia,
   yntau Twm i Bogotá
   a Sionyn i Botswanna.

Now a Glyn i Wangalw^ - Barri Wil
      i Beirw^t a'i dwrw,
   Citi Wyn i Timbyctw^
   a Lal i Honolwlw.

Aeth Siarl i Monte Carlo - Neli
      i'r niwl yn Chicago,
   Meg a Lois i Gwm-y-glo
   a Nic i'r Orinoco.

Ymarferiad 3


y wers flaenorol cynnwys y wers nesaf

addasiad Gwasg Aredig o ddeunydd hawlfraint (h) Gwasg Carreg Gwalch