cynnwys


Geirfa dechnegol, atodiad i gwrs Clywed Cynghanedd

Nid yw'r eirfa yn barod o gwbl: dim ond cadw lle mae rhai o'r ychydig eiriau isod.

Acen grom

Y nod ar â, a ddefnyddir i ddangos llafariad sydd yn hir yn groes i'r sillafiad (tân, llên, bûm, ...) neu weithiau er mwyn egluro ystyr (yd/y^d, ...).

Awdl

Cerdd hir mewn gynghanedd lawn ar mwy nag un o'r pedwar mesur ar hugain traddodiadol. Erbyn hyn ychydig iawn o awdlau geir nad ydynt wedi'u canu yn benodol er cystadlu am gadair eisteddfodol.

Awdl engreifftiol

Awdl yn defnyddio pob un o'r pedwar mesur ar hugain, ganwyd i ddangos bod cyw bardd wedi dysgu'i grefft.

Awdl-gywydd

Cwpled o linellau seithsill gyda'r ail yn cynnal y brifodl, ac odl gyrch rhwng y gyntaf a gorffwysfa'r ail.

Byr a thoddaid

Pennill o (bedair llinell ar y) gyhydedd fer a thoddaid, i gyd ar un brifodl.

Cadwyn englynion

Nifer o englynion yn rhannu cyrch gymeriad, er engraifft trwy ailadrodd gair olaf esgyll pob englyn ar orffwysfa llinell cyntaf paladr y nesaf.

Cadwynfyr

Pennill o linellau wythsill ar old gadwynog. Rhaid i bob yn ail llinell fod ar un odl, a rhannu'r odl honno gyda gorffwysfa ar bedwaredd sillaf y llinellau eraill. Hefyd rhaid bod pob llinell yn rhannu'n ddwy ran bedwar sill sydd yn croes-gynganeddu, ac hefyd rannu'n bedair rhan deusill sydd i gyd yn croes-gynganeddu a'i gilydd.

Ceseilio

Y modd y mae cytsieniaid caled yn llyncu rhai meddal.

	 c/g   +   g/c   =  c  
ff/f + f/ff = ff
ll/l + l/ll = ll
p/b + b/p = p
t/d + d/t = t
th/dd + dd/th = th
Clogyrnach

Pennill ar un brifodl o ddwy linell o'r gyhydedd fer a llinell un sillaf ar bymtheg wedi ei threfnu fel llosgyrnog, a gorffwysfa'r llosgwrn ar y drydedd sillaf.

Cyhydedd fer

Pennill o bedair llinell wythsill yr un ar un odl. A bod yn fanwl gywir, y llinell yw'r gyhydedd, ac mae nifer ohonynt yn bennill ar y gyhydedd fer.

Cyhydedd hir

Llinell pedair sillaf ar bymtheg, wedi ei drefnu'n llosgyrnog; gweler hefyd toddaid.

Cyhydedd nawban

Pennill o bedair llinell nawsill yn un ar un odl. (Gweler hefyd cyhydedd fer.)

Cynghanedd

Cyfatebiaeth cytseiniaid heb nac odl na phroest.

Cynghanedd lafarog

Cynghanedd gytseiniol lle nad oes unrhyw gytsain i'w hateb.

Cynghanedd bengoll

Llinell tair rhan lle bo cynghanedd rhwng y gyntaf a'r ail. Yn aml ceir cynghanedd bengoll rhwng gair cyrch a hanner cyntaf y llinell a'i ganlyno.

Cyrch a chwta

Chwe llinell seithsyll ac awdl gywydd, i gyd ar yr un brifodl.

Cyrch gymeriad

Dull o gydied penillion yn ei gilydd trwy ail-adrodd gair olaf pob pennill yn nechrau'r nesaf.

Cytsain
Un o'r seiniau a berthyn i'r llythrennau
b c ch d dd f ff g ng h j l ll m n p ph r rh s t th

Yr un yw sain ff a sain ph.

Cytsain sero

Rhaniad rhwng dau sillaf, lle nad oes cytsain naill ar ddiwedd y gyntaf nac ar gychwyn yr ail. Pan ddigwydd cytsain sero ar yr acen mewn cynghandd gytseiniol rhaid wrth cytsain sero i'w hateb.

Cytseinedd

Ailadrodd patrwm cytseiniaid o flaen ac ar ôl acen.

Cywasgu

Uno sillafau na renir gan gytsain, un ai trwy uno llafariaid tebyg neu trwy asio dwy lafariad yn ddeusain.

Cywydd deuair fyrion

Dwy linell pedair syll o gynghanedd lawn, ar yr un odl. Erbyn hyn mae'n rhaid i'r naill ddiweddu'n acennog a'r llall yn ddiacen (heb wahaniaeth pa un ddaw gyntaf).

Cywydd (cywydd deuair hirion)

Dwy linell seithsyll o gynghanedd lawn, ar yr un odl, y naill yn diweddu'n acennog a'r llall yn ddiacen (heb wahaniaeth pa un ddaw gyntaf). Ni chaniateir cynghanedd lusg yn yr ail linell, rhag y bai llysiant llusg.

Cywydd llosgyrnog

Pennill ar ffurf rhupunt, gyda dwy (neu weithiau dair neu bedair) o freichiau wythill a llosgwrn seithsyll, a chynghanedd ym mhob llinell, a'r breichiau i gyd yn odli gyda gorffwysfa'r llosgwrn.

Deusain

Llafariad sy'n glymiad o sain dwy lafariad symlach, ond sy'n dwyn dim ond trawiad un sillaf. Heb eithriad, yn Gymraeg ceir dwy lythyren am bob deusain.

Dosbarth newydd

Dosbarth newydd ar y mesurau caeth a gyhoeddwyd gan Iolo Morgannwg a'i galwodd yn Ddosbarth Morgannwg. (Galwai ef trefn Dafydd ab Edmwnd ar y pedwar mesur ar hugain yn Ddosbarth Gwynedd.)

Englyn cil dwrn

Toddaid byr a llinell digynghanedd tair (neu dwy) sillaf yn odli gyda'i brifodl.

Englyn (unodl) cyrch

Pennill o gywydd ac awdl gywydd ar yr un brifodl.

Englyn deugyrch

Pennill o gyhydedd unsillaf ar bymtheg, gydag un neu ddau llinell seithsyll ar batrwm englyn milwr neu englyn unodl union, ond bod y gyhydedd wedi'i rannu yn dri gynghanedd o bump, a phump a chwech. Mae'r gyntaf o'r rhain ar yr unbrifodl a'r gyhydedd gyfan, ac a'r llinellau seithsyll; ac mae odl gyrch rhwng yr ail a gorffwysfa'r chwesill ar ddiwedd y gyhydedd.

Englyn milwr

Tair llinell seithsyll ar yr un brifodl.

Englyn pendrwm

Toddaid byr ac awdl gywydd ar yr un brifodl.

Englyn penfyr

Toddaid byr a llinell seithsyll ar yr un brifodl.

Englyn proest cadwynog

Yn y pedwar mesur ar hugain, pennill o bedair llinell seithsyll yn proestio a'i gilydd, ac hefyd ar odl gadwynog. Yn y dosbarth newydd ceir un ai pedair neu chwech neu wyth llinell, pob un o saith neu wyth neu naw sillaf.

Englyn proest cyfnewidiog

Yn y pedwar mesur ar hugain, pennill o bedair llinell seithsyll yn proestio a'i gilydd. Weithiau cennir pennill o chwech llinell, ac yn y dosbarth newydd ceir hyd at saith llinell, pob un o saith neu wyth neu naw sillaf, gyda'r llafariaid yn wahanol ym mhob un.

Englyn toddaid

Toddaid byr a toddaid hir (neu weithiau un arall byr) ar yr un brifodl.

Englyn unodl crwca

Cwpled cywydd deuair hirion a thoddaid byr ar yr un brifodl. Fe'i hystyrir yn gryfach os nad yw'r gynghanedd yn y llinell olaf yn bengoll.

Englyn (sef englyn unodl union)

Toddaid byr (paladr yr englyn) a chwpled cywydd deuair hirion (esgyll yr englyn) ar yr un brifodl.

Esgyll

Y cwpled cywydd deuair hirion yn ail hanner englyn unodl union. Cyfeiria'r enw at blufiad saeth, sef y rhan sy'n anochl yn dilyn y paladr.

Gair cyrch

Rhan olaf y llinell y mae'n perthyn iddi o ran nifer sillafau, ond sydd yn rhan o gynghanedd y llinell nesaf, er engraifft mewn toddaid.

Goben

Y sillaf cyn sillaf olaf gair, ac felly'r un sydd fel rheol yn dwyn yr acen.

Gorchest y beirdd

Mesur cyfyng, cywrain, ansathredig braidd: pennill o ddwy fraich pedair sill yr un, a llosgwrn seithsyll gyda gorffwysfa ar y bedwaredd. Rhaid i'r breichiau a gorffwysfa'r llosgwrn odli, a rhaid i bob un o'r tri darn pedwar sill hynny rannu'n ddau ac yn ddau, gan groes-gynganeddu, a'u gorffwysfaoedd hwythau'n odli a'i gilydd.

Gorffwysfa

Y man lle mae'r llais yn gorffwys ar ganol llinell.

Gosteg englynion

Cyfres o ddeuddeg o englynion unodl union i gyd ar yr un brifodl.

Gwant

Toriad: yn benodol hwnnw o flaen gair cyrch mewn toddaid, neu odl gyntaf gynghanedd sain.

Gwawdodyn (Gwawdodyn byr)

Dwy linell yn y gyhydedd nawban a thoddaid, i gyd ar un brifodl.

Gwawdodyn hir

Pedair llinell (neu, yn ôl yr hen drefn, faint fynnir) yn y gyhydedd nawban a thoddaid, i gyd ar un brifodl.

Gwawdodyn llosgyrnog

Dwy linell yn y gyhydedd nawban a chyhydedd hir llosgyrnog, i gyd ar yr un brifodl.

Hir a thoddaid

Pennill o bedair llinell decsill a thoddaid hir, i gyd ar yr un brifodl.

Llafariad

Sain nad yw'n gytsain; un llafariad sydd ym mhob sillaf.

Llafariad bur

Llafariad nad yw'n ddeusain, nad yw'n gyfuniad o ddwy sain symlach. Llafariaid pur yw'r seiniau hynny ddynodir gan a, e, i, o, u, w, y.

Llafariad fer

Byrion yw'r llafariaid yn gwar, pen, dim, llong, pump, twll, hyll.

Llafariad hir

Hirion yw'r llafariaid yn gwlad, cledd, gwir, môr, grudd, swn, dydd.

Lleddf

Mae'r llafariad mewn sillaf leddf yn ddeusain ddisgynedig: un a geir o gysylltu llafariad bur a llafariad ac iddi natur gytseiniol. (Gweler hefyd talgron.)

Lled odl

Ceir lled odl, neu odl Wyddelig, rhwng sillafau lle mae'r llafariaid yn cyfateb ond nad yw'r ddwy gytsain derfynnol yr un.

Llosgwrn

Llinell unigol ar ddiwedd pennill (fel llosgyrnog), sef cynffon i'r pennill.

Llosgyrnog

Cyhydedd hir neu cyhydedd unsillaf ar bymtheg wedi ei rannu yn dri: dwy fraich pum sillaf, a llosgwrn. Odl y llosgwrn yw'r prifodl; ac mae odl rhwng y pumed (y rhagwant), y degfed (y gwant) a gorffwysfa'r llosgwrn.

Odl

Yn Gymraeg ceir odl lawn rhwng sillafau pan fo'r llafariaid a'r cytseiniaid olaf yr un yn y ddau, boed y sillaf yn acennog ai peidio.

Odl ddwbl

Odl lle bo dwy sillaf o'r bron yn cyfateb. Fel arfer, bydd y gyntaf o'r ddwy yn acennog.

Odl fewnol

Odl rhwng sillafau olaf dau air yn yr un llinell.

Odl gadwynog

Patrwm o odlau lle bo pob yn ail llinell ar un o ddwy odl.

Odl gudd

Odl sydd yn dibynnu ar gytseiniaid ar gychwyn llinell sydd yn dilyn y sillaf sydd yn cynnal yr odl.

Odl gyrch

Odl rhwng diwedd un llinell a gorffwysfa y llinell a'i dilyna.

Odl Wyddelig

Lled odl.

Paladr

Y toddaid byr yn hanner cyntaf englyn unodl union. Cyfeira'r enw at flaen saeth, sydd yn arwain ffordd i'r esgyll.

Pendrwm

Mae llinell yn bendrom pan fydd yr orffwysfa yn rhy agos at ei diwedd: canlyniad hyn yw'r bai camosodiad gorffwysfa.

Prifodl

Yr odl ar ddiwedd llinell.

Pedwar mesur ar hugain

Cyfundrefn traddodiadol o fesurau caeth, ag iddi hanes go ddrysllyd a chyfnewidiol dros gyfnod rhwng y bedwaredd ganrif ar ddeg a'r unfed ar bymtheg, ond oedd yn derfynol yn cynnwys: englyn unodl union, englyn unodl crwca, englyn cyrch, englyn proest cyfnewidiog, englyn proest cadwynog, awdl-gywydd, cywydd deuair hirion, cywydd deuair fyrion, cywydd llosgyrnog, rhupunt byr, rhupunt hir, cyhydedd fer, byr-a-thoddaid, clogyrnach, cyhydedd naw ban, cyhydedd hir, toddaid, gwawdodyn byr, gwawdodyn hir, hir-a-thoddaid, cyrch-a-chwta, tawddgyrch cadwynog, gorchest y beirdd a chadwynfyr.

Proest

Ceir proest rhwng sillafau lle bo'r llafariaid yn debyg a'r cytseiniaid olaf yr un.

Proest llafarog

Proest rhwng sillafau sy'n diweddu'n ddi-gytsain.

Rhupynt byr

Pennill yn cynnwys mwy nag un llinell deuddeg sillaf, pob llinell yn odli, a phob llinell wedi ei rannu'n dri darn o bedair sill yr un gan gynghanedd sain.

Rhupynt hir

Pennill yn cynnwys mwy nag un llinell unsill ar bymtheg, pob llinell yn odli, a phob llinell wedi ei rannu'n bedwar darn o bedair sill yr un gan gynghanedd sain.

Sain Alun

Sain "bengoll", arferir yng nghyrch paladr englyn, gyda'r orodl a'r rhagodl yn y gair cyrch.

Talgron

Mae'r llafariad mewn sillaf dalgron yn ddeusain esgynedig: un a geir o gysylltu llafariad gytseiniol a llafariad bur. (Gweler hefyd lleddf.)

Tawddgyrch cadwynog

Mesur cymleth: pedair braich, sef dwy awdl gywydd a dau rupunt hir, a'r pedwar braich ar yr un brifodl. Rhennir pob linell yn bedwar darn pedwar sill yr un, ac mae'r pedwerydd, yr wythfed, a'r ddeuddegfed (a'r olaf) yn yr awdl gywydd gyntaf yn odli gyda'r sillaf cyfatebol yn yr ail linell; ac mae pob un o'r pedwerydd, yr wythfed, a'r ddeuddegfed yn y ddau rupunt ar yr un odl. Ac yn olaf, mae'r sillaf gyntaf un yn odli gyda'r brifodl; neu â phrifodl y pennill blaenorol mewn gyrch cymeriad.

Toddaid

Ffurf ar gyhydedd hir. Pennill dwy linell, y gyntaf yn ddecsill gyda gwant ar ôl saith, wyth neu naw sillaf, a'r ail yn nawsill. Odl yr ail linell yw'r brifodl, sy'n odli a'r sillaf o flaen gwant yn y gyntaf. Ceir cynghanedd yn y llinell gyntaf o flaen y gwant; rhaid bod cynghanedd gytseiniol yn y naw sillaf, ac odl gyrch rhwng y ddegfed yn y llinell gyntaf a gorffwysfa (neu gorodl a rhagodl) yn y nawsill a'i dilyna.

Toddaid byr

Pennill dwy linell, y gyntaf yn ddecsill gyda gwant ar ôl saith, wyth neu naw sillaf, a'r ail yn chwesill. Odl yr ail linell yw'r brifodl, sy'n odli a'r sillaf o flaen gwant yn y gyntaf. Ceir cynghanedd yn y llinell gyntaf o flaen y gwant; a rhaid bod cynghanedd tridarn (sain neu bengoll) yng ngweddill y pennill, gyda gorffwysfaar ddegfed sillaf y pennill; mae hi'n arfer gorffen y pennill ar acen ysgafn.

Toddaid hir

Pennill dwy linell, yn union fel toddaid ond bod yr ail linell yn ddecsill.

Triban

Pennill (heb gynghanedd) o bedair llinell o saith sillaf, gyda'r brifodl yn y gyntaf, yr ail a'r olaf, a chydag odl gyrch rhwng diwedd y drydedd a gorffwysfa'r olaf. Caniateir un ai saith neu wyth sillaf yn y drydedd linell.

Triban milwr

Enw arall ar englyn milwr.

`Y' dywyll

Sain y llafariad `y' mewn geiriau fel y (y fanod), cydio, gwynion, byrrach, brysio, crygni, grymus.

`Y' olau (neu `y' glir)

Sain y llafariad `y' mewn geiriau fel gwyn, byr, brys, cryg, grym, newyn, eryr, erys, benthyg, wrthym. Dyma'r sain sy'n debyg i sain `u' erbyn heddiw.


cynnwys

Gwasg Aredig