ymarferion blaenorol y wers ymarferion pellach


Ymarferion Degfed Wers cwrs Clywed Cynghanedd

Ymarferiad 1

Dyna chi wedi cael un patrwm - ond mae patrwm pob englyn yn wahanol ac mae'n dibynnu i raddau ar yr hyn a gynigir gan y prifodlau. Ceisiwch lunio englyn arall i `Afonydd Cymru' gan ddefnyddio'r brifodl a ganlyn:

Hafren, Alwen, Cennen, Claerwen, Ogwen, Afon-wen, Tren.

Mae dau enw acennog yn a dylai hynny gynnig digon o bosibiliadau ichi. Trowch yn ôl i'r rhestrau afonydd sy'n cynganeddu hefyd i ysgogi'r awen.

yn ôl i'r wers


Ymarferiad 2

Dyma jig-so geiriol arall ichi - mae englyn yn llawn o enwau personol wedi'i gyddio yn y cawl hwn. Tybed a fedrwch ei ddatrys.

Rhiannon, a Siân, Eurys, Rhys, Cenwyn, a Gwenllian, a Dilys a, Euros, Samson, Cynog, Dylan, Hywel, Iwan.

Wedi gwneud hynny, beth am fynd ati i wneud un tebyg eich hunan.

yn ôl i'r wers


Ymarferiad 3

Meddyliwch am enwau personol i lenwi'r bylchau yn yr englyn hwn:

............. yn Colorado - a ..........
      ym merw El Paso,
   Non a .............yn O-hai-ô,
   a .............. draw yn Cairo.

yn ôl i'r wers


ymarferion blaenorol y wers ymarferion pellach

addasiad Gwasg Aredig o ddeunydd hawlfraint (h) Gwasg Carreg Gwalch