ymarferion blaenorol y wers ymarferion pellach


Ymarferion Nawfed Wers cwrs Clywed Cynghanedd

Ymarferiad 1

Dyma enghreifftiau posibl i'r gair cyrch mewn englyn. Lluniwch ail linell i'r englyn sy'n ateb y gofynion. Er engraifft:

- yn yr haf | ..........................................................

Goddefir n wreiddgoll felly nid oes rhaid ateb yr n, na chwaith yr h yn haf. Gellir ateb y gair cyrch hwn yn gytbwys acennog (gan gofio bod rhaid cael chwe sillaf i'r ail linell a bod rhaid iddi orffen yn ddiacen):

-  yn yr haf | Mae'r ardd | yn llawn blodau
   (n) r  :  | (m) r :

Gellir ei ateb yn anghytbwys ddisgynedig hefyd:

-  yn yr haf | cwch rhwyfau | fydd gennyf
   (n) r  :f |(c ch)r : f - |

Ceisiwch lunio ail linell englyn i'r geiriau cyrch a ganlyn a hynny ar y ddau batrwm uchod:

  1. - yn yr haf | .....................................................
  2. - yn yr haf | .....................................................
  3. - ato ef | .....................................................
  4. - ato ef | .....................................................
  5. - yn y glaw | .....................................................
  6. - yn y glaw | .....................................................

yn ôl i'r wers


Ymarferiad 2

Os bydd y gair cyrch yn diweddu'n ddiacen, gellir cael cyfatebiaeth gytbwys ddiacen neu anghytbwys esgynedig. Er engraifft:

mae hiraeth | .....................................................

Gellir ateb yn ddiacen fel hyn:

mae hiraeth | am eurwallt | yr eneth
m    :r -   |  m : r -    |

neu

mae hiraeth | yn y môr | bob amser
m    :r -   | (n)  m r |

Ewch ati i lunio ail linell englyn ar y ddau batrwm uchod i'r geiriau cyrch hyn:

  1. - mae hiraeth | .....................................................
  2. - mae hiraeth | .....................................................
  3. - daw Enid | .....................................................
  4. - daw Enid | .....................................................
  5. - hen awydd | .....................................................
  6. - hen awydd | .....................................................

yn ôl i'r wers


Ymarferiad 3

Lluniwch ail linell ar batrwm Sain Alun i'r tri gair cyrch canlynol:

  1. - bydd llonydd | .....................................................
  2. - mae hen wên | .....................................................
  3. - dwyn gwanwyn | .....................................................
  4. - yr awr fawr | .....................................................

yn ôl i'r wers


Ymarferiad 4

Chwiliwch am eiriau i odli a chynnal y gytseinedd rhwng y gair cyrch a'r ail linell yn yr enghreifftiau a ganlyn. Enwau lleoedd yw'r atebion:

  1. Blaenau ................................ | Yw mynwent y mwynwyr
  2. cerdded | Drwy ................................ wna'r ddwyfil
  3. ................................ | Paradwys y prydydd
  4. ................................ | Daw'r gelyn i'r golwg
  5. daw o'r lôn | I ................................ garafannau
  6. a gollwyd | Gan ................................ ei thir gwledig?
  7. a daw hedd | i ................................ bryd hynny

yn ôl i'r wers


Ymarferiad 5

Dyma englyn unodl union wedi'i lobscowsio:

a dwy wefus; dau o'r fro; dau gi hyll;
a dwy fusus; mewn creisus; dau afal;
a dwy gath; a dwy ar frys; dau faswr.

Cyfrwch y sillafau. A oes yna ddeg sillaf ar hugain yno? Oes? O'r gorau, beth am fynd ati i 'w roi mewn trefn. Mae'n hollol amlwg mai `englyn dau a dwy' ydyw, felly bydd dilyn y patrwm hwnnw o gymorth inni. Ym mhle y cychwynnwn ni? Wel, gyda'r odlau - dyna fyddai'n gwneud pethau'n haws inni. Rydym yn chwilio am bedwar ymadrodd yn odli â'i gilydd felly - gydag o leiaf un ohonyn nhw yn diweddu'n acennog. Fedrwch chi gael o hyd iddyn nhw? Ie, dyma nhw:

a dwy wefus
a dwy fusus
mewn creisus
a dwy ar frys

Dim ond un ymadrodd sy'n diweddu'n acennog felly mae'n rhaid mai'r drydedd neu'r bedwaredd llinell yw lleoliad hwnnw. Mae un ymadrodd arall yn wahanol i batrwm y gweddill, sef mewn creisus gallwn fentro mai diwedd cynghanedd bengoll yn yr ail linell yw hwnnw. Felly, dyma esgyrn sychion y dasg:

.......................... a dwy fusus,  -  .....................
       .......................... mewn creisus,
   .......................... a dwy ar frys,
   .......................... a dwy wefus.

Rwy'n siw^r na fyddwch fawr o dro yn llenwi'r bylchau yn awr.

yn ôl i'r wers


Ymarferiad 6

Dyma englyn arall wedi'i gymysgu. Ewch ati i'w ddatrys:

'y mendith; y glaw; mal adar;
mal blodau; a'r gwlith; ar wenith;
mal y daw; mal od; preniau ymhob rhith;
mae i undyn

Englyn mawl gan Dafydd Nanmor i Rys o Tywyn ydyw lle mae'n disgrifio ei ddiolchgarwch i'w noddwr mewn ffordd flodeuog iawn.

yn ôl i'r wers


ymarferion blaenorol y wers ymarferion pellach

addasiad Gwasg Aredig o ddeunydd hawlfraint (h) Gwasg Carreg Gwalch