y wers flaenorol cynnwys y wers nesaf


Nawfed Wers cwrs Clywed Cynghanedd

Englynion

Bydd rhai weithiau'n fy stopio ar y stryd neu mewn siop ac yn tynnu sgwrs gyda mi gan ddweud - ``Wyt ti wedi clywed yr englyn yma?'' Ac yna byddant yn dyfynnu rhywbeth tebyg i hyn:

Capel Garmon garpiog
Chwain a phigau hirion,
Pwt o wely bach di-lun
A phac o ferched budron.

neu:

Ysbyty Ifan
Dau bren bocs,
Merched a meibion
Yn gwisgo clogs.

Wel, mae'n ddigon amlwg nad yw'r rhigymau hyn yn ymdebygu i englynion o gwbl ar wahân i un peth - sef eu bod yn fyr. Mesur pedair, neu weithiau dair, llinell yw englyn ac mae'n fesur mor annwyl gennym ni'r Cymry nes bod yr enw, ar lafar gwlad, wedi mynd yn gyfystyr â phob pennill byr yn yr iaith. Dechreuodd y mesur ar ei daith dros fil o flynyddoedd yn ôl ac er ei fod yn ddigynghanedd i raddau yr adeg honno, mae arnaf ofn bod angen cynghanedd ym mhob llinell bellach.

Erbyn heddiw, gwelir y mesur mewn awdlau ac mewn cyfresi o englynion ond y ffurf mwyaf poblogaidd o ddigon arno yw'r pennill unigol sy'n sefyll ar ei draed ei hun. Yr englyn unodl union yw hwnnw ac mae'n fesur hynod o ystwyth. Gall fynegi galar ar garreg fedd neu adrodd stori ddoniol mewn ymryson y beirdd; gall foli, gall ddychan; gall dynnu llun bach o fyd mawr a gall ddweud pethau mawr gyda geiriau bach. Mae'n gryno, mae'n drawiadol ac mae'n gofiadwy ac ni ellir ond rhyfeddu bod cynifer o enghreifftiau yn cael eu cadw ar gof ac yn aml eu galw yn ôl, fel y bo'r achlysur, a'u hadrodd o flaen cwmni dethol. Yn sicr, mae'n un o ryfeddodau mydryddol yr iaith Gymraeg. Ond sut mae mynd ati i lunio un?

Englyn unodl union

Ar y dechrau, roedd yr englyn unodl union yn un o brif fesurau'r awdl. Cenid cadwyn ohonynt gan feirdd yr uchelwyr ar ddechrau awdlau fel rheol a phrin iawn yw'r enghreifftiau o englynion unigol yn y cyfnod hwnnw. Dyma enghraifft o englyn o gyfres felly o waith Dafydd Nanmor. Fel cywyddwr yr ydym yn adnabod y bardd hwnnw, ond fel bron pob un o'r cywyddwyr eraill, cadwyd awdlau o'i waith yn ogystal yn yr hen lawysgrifau. Awdl farwnad i Tomas ap Rhys o'r Tywyn yw un o'r rhai a gadwyd o waith Dafydd Nanmor ac ynddi ceir yr englyn hwn, sy'n mynegi'r galar y mae ei deulu agos yn ei deimlo ar ôl colli'r uchelwr:

Gwae Farged weled dialedd - ei blwyf!
      Gwae ei blant o'i orwedd!
   Gwae Elliw bod ei ddiwedd!
   A gwae Fallt o gau ei fedd.

Enw mam Tomas ap Rhys oedd Marged ac Elliw a Mallt oedd enwau ei ddwy ferch. Yn yr enwau y mae maint y golled. Nid dim ond dyn oedd yn arweinydd i'w bobl a fu farw ond mab a thad yn ogystal. Bum can mlynedd yn ddiweddarach, canodd Dic Jones englyn wrth goffáu gw^r arall a fu farw'n ifanc, sef Roy Stephens. Enw i'r cylch agos a deimlodd yr hiraeth i'r byw yw ei ddull yntau o fynegi galar pawb:

Mae'r awen heb ei chennad, - y mae mam
      O'i mab yn amddifad,
   Y mae cymar heb gariad,
   Y mae dau yn llwm o dad.

A dyna beth yw traddodiad barddonol clasurol - bod yr un geiriau, yr un teimladau, yr un cyfrwng, yr un patrwm yn medru bod mor gyfoes a pherthnasol ac ingol heddiw ag oedden nhw ganrifoedd yn ôl. Dyna athrylith yr englyn. Ond sut mae mynd ati i lunio un?

Paladr ac esgyll

Er mai mesur byr yw'r englyn, mae dipyn o nerth yn ei ergyd yn amlach na pheidio. Yn yr hen ddyddiau, roedd milwyr o Gymru yn enwog am eu dawn i drin y bwa saeth - gallai llathen o saeth wedi'i hanelu'n gywir gwympo marchog yn ei lawn arfogaeth ugeiniau o lathenni i ffwrdd. Does ryfedd i fathwyr termau cerdd dafod weld tebygrwydd rhwng mesur yr englyn a chrefft y saethwr. Anelu, gollwng a tharo mewn cyn lleied o amser â phosibl oedd nod gwy^r y bwa hir; bod yn gywir, yn gywrain ac yn gryno yw nod yr englynwr.

Mewn gwirionedd cyfuniad o ddau fesur yw'r math hwn o englyn. Mae'r ddwy linell gyntaf yn fesur a elwir yn doddaid byr a'r ddwy linell glo yn gwpled o gywydd. O'u rhoi at ei gilydd a'u cynnal ar yr un odl, ceir englyn unodl union. Gelwir corff pren y saeth yn baladr, a phaladr yw'r term ar ddwy linell gyntaf englyn; plu neu esgyll yw cynffon y saeth ac esgyll yw'r term ar gwpled clo englyn yn ogystal.

Fe daclwn ni'r mesur hwn drwy gydio yn ei gynffon i ddechrau. Rydym eisoes yn gyfarwydd â'r cwpled cywydd. Dyma ddwy linell olaf englyn Dafydd Nanmor:

Gwae Elliw bod ei ddiwedd!
A gwae Fallt o gau ei fedd!

O ddadelfennu'r llinellau, gwelwn fod llinell gyntaf y cwpled yn gynghanedd Lusg a'r ail yn gynghanedd Groes. Mae'r un rheol yngly^n â lleoliad y gynghanedd Lusg yn y cwpled cywydd yn cyfri mewn cwpled olaf englyn yn ogystal - hynny yw ni ellir cael cynghanedd Lusg yn y llinell olaf. Gwelwn fod un llinell yn diweddu'n acennog a'r llall yn ddiacen a'r brifodl yw -edd. Saith sillaf yr un yw hyd y llinellau. Dyna esgyll yr englyn.

Toddaid byr

Unwaith eto, fel gyda'r cywydd, pennill o ddwy linell yn odli â'i gilydd yw toddaid byr. Gadewch inni dadelfennu enghraifft Dafydd Nanmor:

Gwae Farged weled dialedd - ei blwyf!
      Gwae ei blant o'i orwedd!

Fe gyfrwn y sillafau i ddechrau arni - mae deg sillaf yn y llinell gyntaf a chwe sillaf yn yr ail linell. Ble mae'r odl? Mae diwedd yr ail linell yn odli â'r cwpled cywydd sy'n ffurfio'r esgyll - orwedd. Ond blwyf yw diwedd y llinell gyntaf. Serch hynny, mae'r gair o flaen y gwant [-] yn cynnal yr un odl, sef dialedd. A dyma ni yn cychwyn gweld patrwm. Mae'r darn o flaen y gwant yn y llinell gyntaf yn llinell o gynghanedd ar ei phen ei hun. Fel mae'n digwydd, sain gytbwys ddiacen yw'r enghraifft hon:

Gwae Farged | weled | dialedd
         (d   : l-  | d: l-

Mae'r gair sy'n ffurfio prifodl y gynghanedd yn y llinell gyntaf yn odli â diwedd y tair llinell olynol yn yr englyn. Yn yr enghraifft hon, mae'r darn o flaen y gwant yn wyth sillaf - gall hynny amrywio o saith sillaf i naw sillaf, ond yr enghreifftiau mwyaf lluosog o bell ffordd (a'r rhai mwyaf cyfforddus ar y glust) yw saith neu wyth sillaf. Rhaid cael cynghanedd Lusg, Draws, Groes neu Sain o flaen y gwant a gall y brifodl ddiweddu'n acennog neu'n ddiacen.

Ar ôl y gwant ceir gair neu eiriau sy'n gwneud cyfanswm y llinell gyntaf yn ddecsill. Felly gellir cael rhwng tri sillaf ac un sillaf yma. Eto, y nifer mwyaf cyffredin yw dau neu dri sillaf. Y gair cyrch yw'r enw ar y sillafau hyn ar ôl y gwant gan eu bod yn gorfod cyrchu i ddechrau ail linell yr englyn er mwyn creu cynghanedd. Dyma'r gyfatebiaeth o'i rhoi ar un linell fel hyn:

ei blwyf! | Gwae ei blant | o'i orwedd!

Mae'r gair olaf yn y gair cyrch yn creu'r orffwysfa ac mae gair yng nghanol yr ail linell yn creu ail orffwysfa ac yna ceir y brifodl ar ddiwedd y llinell. Cyfatebiaeth cytbwys acennog sydd yma a math o gynghanedd Draws ydyw:

ei blwyf! | Gwae ei blant | o'i orwedd!
   bl:(f) |(g)      bl:(nt)        edd

Mae'r gynghanedd yn digwydd rhwng ddwy ran gyntaf y llinell a chynnal yr odl yn unig a wneir gan y drydedd rhan. Oherwydd hynny, fe'i gelwir yn gynghanedd Draws Bengoll.

Y gynghanedd bengoll

Mewn englyn, mae'r ail linell bob amser yn diweddu yn ddiacen ac fel rheol cynghanedd Draws neu Groes Bengoll a geir rhyngddi a'r gair cyrch.

Gellir cael cyfatebiaeth gytbwys acennog fel yr enghraifft uchod. Dyma enghraifft o gynghanedd Groes Bengoll sy'n dilyn yr un patrwm acennu:

- nid af | I dai | yn holl Gymru 		(Dafydd Nanmor)
    d :  |   d : |

Ceir cyfatebiaeth cytbwys diacen yn ogystal:

-  tra chadarn | Tw^r a cheidwad | arnyn 	(Tudur Aled)
   tr  ch:d-   | t  r   ch: d -  |

-  a galar | Drwy galon | i brydydd 		(Dafydd Nanmor)
     g:l-  |(dr)  g:l-  |

Ceir cyfatebiaeth anghytbwys ddisgynedig:

-  o Fôn | Hyd ar Fynydd | Mynnau               (Dafydd Nanmor)
     f:n |  (d  r)f:n-   |

-  a'm da oll | A'm dillad | a'm harian   	(Dafydd Nanmor)
     m d  :ll |   m d:ll-  |

ac yn wahanol i'r Draws a'r Groes arferol, caniateir cyfatebiaeth anghytbwys ddyrchafedig yn y gynghanedd Bengoll:

-  chwiliwch | A chael | union eiriau
   ch: l-    |   ch: l |

-  â'u dannedd | Yn ei din | ugeintro
       d:n -   | (n)   d:n |

-  a dysgu | Drwy dasg | nid arholiad
     d:sg- |(dr)  d:sg |

Fel y gwelwch uchod, caniateir n wreiddgoll ac n ganolgoll yn y gyfatebiaeth yn union fel mewn cynghanedd Draws neu Groes arferol. Caniateir hefyd cyfatebiaeth Groes o Gyswllt rhwng y gair cyrch a hanner cyntaf yr ail linell:

-  a'r hen dre | Yn drist | wrth ffarwelio
     r   n dr:
            r     n dr:

-  a'i ddawn oedd | Eu nyddu'n | gain frethyn
       dd  n : dd
               dd      n:dd -

-  hithau'r iaith | a roes | iddo'i dysteb
     th   r : (th     r:

Yn yr un modd, gellir cael cynghanedd Drychben:

-  er caffael | Aur y coffr | a'r allawr 	(Dafydd Nanmor)
    r c:ff -  |   r   c:ff(r

a chynghanedd Gysylltben:

-  a'i frodyr | dan friw | dwfn anaele 		(Robert ap Gwilym Ddu)
       fr:(d- |(d n)fr:  |

Mae rhai goddefiadau ychwanegol ar gyfer y gynghanedd Groes a Thraws Bengoll - ac mae hynny'n newydd da! Nid oes raid poeni bod diwedd yr orffwysfa gyntaf yn proestio gyda diwedd yr ail orffwysfa.

-  caer Wynt, | Caer Went | Caerwrangon 	(Dafydd Nanmor)
   c  r :(nt) | c  r :(nt)|

Caniateir sain rhy debyg hefyd:

-  rhoi ffarwél | Er ffarwelio | eisoes
   r    ff r :l |  r ff r :l-  |

Yn wir, gellir mynd mor bell â defnyddio yr union un geiriau i greu'r gyfatebiaeth:

-  yn canu | Yn canu | fel deryn

Ond mae rheol yngly^n â pha mor bell i mewn i'r ail linell y mae acen yr ail orffwysfa yn disgyn. Pan fo'r gyfatebiaeth yn diweddu'n acennog, ni all fod ymhellach na'r drydedd sillaf yn yr ail linell. Pan fo'r gyfatebiaeth yn diweddu'n ddiacen, gall sillaf olaf yr ail orffwysfa ymestyn hyd y bedwaredd sillaf yn yr ail linell.

-  un gw^r | Eto'n gyrru | arni
             1 2    3  4

-  torrai air | Gyda'r tramp | a'r angel
                 1 2     3

Lleoliad eithaf yr acenion yw'r ddwy enghraifft uchod - nid oes raid eu lleoli mor bell â hynny yn rhan gyntaf yr ail linell, debyg iawn.

Bydd y beirdd yn gwgu wrth weld fwy nag un gynghanedd Lusg mewn englyn unigol, ond os yw'r englyn yn rhan o gyfres, goddefir hynny. Rhaid osgoi'r bai trwm ac ysgafn ym mhrifodl yr englyn, er engraifft os yw'r llinell gyntaf yn gorffen gyda'r gair cân, bydd rhaid i'r sillaf olaf acennog yn y drydedd neu'r bedwaredd linell odli yn ysgafn - tân, brân, ar wahân ac ati. Byddai'n fai trwm ac ysgafn pe bai'n gorffen yn drwm - fel llan, gwan, ffan ac ati. Ni ellir ychwaith ddefnyddio'r un un gair ddwywaith i lunio odl diwedd llinell mewn englyn, er ei bod yn gywir ddefnyddio'r un gair ar ddiwedd tail llinell!

Ymarferiad 1

Ymarferiad 2

Sain bengoll

Ni ellir cael cynghanedd Lusg rhwng y gair cyrch a'r ail linell (er bod rhai'n cychwyn arbrofi gyda hynny ar hyn o bryd) ond mae'n bosibl creu Sain Bengoll rhyngddynt. I wneud hynny rhaid cael y ddwy odl yn y gair cyrch ei hun, er engraifft:

-  alaw'r glaw | Ar y gwlith | ben bore
          gl:         g l:

-  law yn llaw | Aeth y llanc | a'i gariad
          ll:           ll:

Gelwir y gynghanedd hon yn `Sain Alun' weithiau gan fod y bardd Alun Cilie yn hoff iawn o'i defnyddio yn ei englynion.

Ymarferiad 3

Y gair cyrch yn odli

Ffordd arall o gael cyfatebiaeth i'r glust rhwng y gair cyrch a hanner cyntaf yr ail linell yw drwy gynnal odl rhwng sillaf olaf y cyrch a sillaf olaf yr orffwysfa yn yr ail linell. Dyma rai enghreifftiau:

-  i Ddyfrdwy | O Gonwy i Gynwyd (Guto'r Glyn)
-  a'm habad | A'm trwsiad a'm trysor (Tudur Aled)
-  drwy'r byd | Yn yr y^d a'r adar (Lewys Glyn Cothi)

Mae'n ddigon hawdd clywed yr odlau: Ddyfrdwy/Gonwy, habad/trwsiad a byd/y^d. Ond gwrandewch eto ar yr ail linell ar ei phen ei hunan, heb y gair cyrch:

O Gonwy i Gynwyd
A'm trwsiad a'm trysor
Yn yr y^d a'r adar

Mae pob un o'r rhain yn gynghanedd Groes gyflawn. Os dewisir y dull hwn o weithio ail linell englyn, rhaid cael cynghanedd ynddi ac yna cynnal odl rhwng y sillaf ar ddiwedd yr orffwysfa gyda sillaf ar ddiwedd y gair cyrch. Ar un adeg, roedd rhaid i'r gynghanedd yn yr ail linell fod yn gynghanedd Groes gyflawn fel yr enghreifftiau uchod. Ond dros y blynyddoedd, llaciwyd y rheolau a daeth cynghanedd Draws yn dderbyniol yn yr ail linell. Daeth cynghanedd Draws gyda chytsain neu gytseiniaid gwreiddgoll ar ddechrau'r ail linell yn dderbyniol yn ogystal, er nad yw pawb yn cymeradwyo hynny. Ond penderfynodd panel adolygu rheolau cerdd dafod Barddas gymeradwyo'r holl ffurfiau hyn yn 1977:

-  yn gynnil | Ac yn swil ei solo?
-  yng ngefail | Y dail yn pedoli;
-  yno'n drwch | Y mae llwch a llechi;
-  haen o lwch | Yn dristwch oer drosto;

Aceniad cynghanedd Sain sydd i'r gyfatebiaeth hon bellach ond mae'n werth cofio mai llinell o gynghanedd gytseiniol oedd yr ail linell yn wreiddiol gyda'i gorffwysfa yn cynnal yr un odl â diwedd y gair cyrch.

Ymarferiad 4

Crynhoi

I grynhoi, dyma brif ofynion mesur yr englyn unodl union: 4 llinell gyda nifer y sillafau fel a ganlyn: 10, 6, 7, 7. Gall y llinell gyntaf fod â phrifodl acennog neu ddiacen; mae'r brifodl yn yr ail linell yn ddiacen a cheir un o bob un yn y drydedd a'r bedwaredd linell heb fod wahaniaeth ym mha drefn. Ni chaniateir cynghanedd Lusg mewn llinell olaf englyn na dwy ohonynt mewn englyn unigol. Mae'r gair cyrch ar ddiwedd y llinell gyntaf yn cynganeddu neu'n odli â hanner cyntaf yr ail linell.

Ymarferiad 5

Ymarferiad 6


y wers flaenorol cynnwys y wers nesaf

addasiad Gwasg Aredig o ddeunydd hawlfraint (h) Gwasg Carreg Gwalch