y wers flaenorol cynnwys y wers nesaf


Wythfed Wers cwrs Clywed Cynghanedd

Sain o gyswllt

Mae'r geiriau'n llifo wrth inni siarad - i'r glust nid oes bylchau a seibiant fel arfer rhwng un gair a'r nesaf ac mae'r gynghanedd yn derbyn hynny. Mae rheolau cerdd dafod yn caniatáu cysylltu cytseiniaid un gair â gair arall er mwyn creu odl a hefyd er mwyn creu cyfatebiaeth gytseiniol. Gwelsom yn y wers flaenorol bod modd defnyddio cytseiniaid mewn geiriau oedd yn perthyn i'r un rhan mydryddol o'r gynghanedd er mwyn creu cytseinedd, er engraifft:

dwy fron | mor wynion | â'r od      (Dafydd ap Gwilym)
      ON |         ON |
             r :          r :

Ond mae'r rheolau'n caniatáu inni fynd ymhellach na hynny - gellir cysylltu cytseiniaid o ddiwedd un rhan o'r gynghanedd â dechrau rhan arall er mwyn creu cyfatebiaeth. Ystyriwch y llinell hon:

i ochel | awel | aeaf               (Dafydd ap Gwilym)
     EL |   EL |
           :(l)   :(f)

Ar un olwg, Sain Lafarog ydyw a honno'n Gytbwys Ddiacen, ond o ynganu'r llinell yn uchel, fe glywch fod y gytsain l yn cydio yn nechrau'r gair dilynol bob tro:

i oche(l awe(l aeaf

Mae'r gytsain l yn cyflawni dwy swydd yn y llinell hon - mae'n cwblhau'r odl el rhwng y rhagodl a'r orodl ond mae hefyd yn cynnig cyfatebiaeth gytseiniol fel hyn:

i ochel | awel | aeaf
     (l    :-(l  : -

Mae'r gytsain yn cysylltu'i hunan â dechrau'r rhan nesaf a dyna greu Sain o Gyswllt. Cysylltir cytsain ar ddechrau un rhan â diwedd y rhan flaenorol o dro i dro er mwyn cyflawni'r odl, er engraifft:

Dafydd ap Rhys | y sy | sant
            YS |    y   s)
                   s: | s:

Mae'r s ar ddechrau'r brifodl sant wedi'i cysylltu â'r orodl sy er mwyn odli â'r gair Rhys yn y rhagodl. I'r glust, mae hyn yn berffaith dderbyniol. Gelwir odl o'r fath yn odl gudd.

Ymarferiad 1

Odl gudd mewn cynghanedd lusg

Yn yr un modd yn union, gellir cael odl gudd, neu odl gysylltben, mewn cynghanedd Lusg pan fo cytseiniaid ar ddechrau'r ail ran yn cysylltu â diwedd yr orffwysfa er mwyn creu odl â'r goben yn y brifodl. Dyma enghreifftiau o'r gynghanedd Lusg o Gyswllt (a elwir weithiau'n Lusg Gysylltben):

dialwr tre | Lywelyn            (Ieuan ap Rhydderch)
         E   L) EL

paun asgell-las | dinasdai      (Dafydd ap Gwilym)
             AS   D) ASD

Gellir cael odl gudd i lunio odl lafarog yn ogystal:

y mae'r ne | wedi rhewi
         E   W      EW

Ymarferiad 2

Cynghanedd sain gadwynog

Wrth gyflwyno'r gynghanedd Sain, nodwyd bod ei mydryddiaeth yn wahanol gan fod iddi dair rhan. Nodwyd bod hynny'n galw am ofal er mwyn creu rythm esmwyth i'r llinell yn ogystal. Mae math arall o gynghanedd Sain yn rhannu'n bedair rhan ond gan fod hynny'n rhoi straen ychwanegol mewn llinell seithsill, anaml iawn y'i defnyddir erbyn heddiw. Disgrifiodd Ithel Ddu y coed noethion yn y gaeaf gyda'r llinell hon:

breichiau gwag felinau gwynt.

Lle mae'r gynghanedd ynddi? Fel y dywedwyd, mae'n rhannu'n bedair rhan a dyma'r dadelfeniad:

breichiau | gwag | felinau | gwynt
       AU               AU
            g :              g :

Mae diwedd y rhan gyntaf yn odli â diwedd y drydedd rhan breichiau/felinau; ar ben hynny, mae prifacenion yr ail a'r bedwaredd ran yn cytseinio: gwag/gwynt. Mae'r gynghanedd yn cadwyno - yn odli 1 a 3 a chytseinio 2 a 4 ac fe'i gelwir yn Sain Gadwynog. Dadelfennwch yr enghreifftiau hyn:

hael Forfudd merch fedydd Mai (Dafydd ap Gwilym)
Derfel a llin Ithel llwyd (Gutun Owain)
gan dant glywed moliant glân (Dafydd ap Gwilym)

Cynghanedd sain drosgl

Mewn Sain Anghytbwys Ddyrchafedig ceir cyfatebiaeth rhwng y cytseiniaid sy'n union o flaen y sillaf acennog yn yr orodl â'r cytseiniaid sydd o flaen yr acen yn y brifodl fel hyn:

pan ddêl Mai | â'i lifrai | las       (anhysbys)
          AI           AI
                   l:       l:

Pan fo gair lluosill yn yr orodl, y cytseiniaid sydd o flaen yr acen nid y rhai ar ddechrau'r gair sy'n cael eu hateb:

a bronfraith ddigrifiaith gref                                (Dafydd ap Gwilym)
        AITH         AITH
                gr:       gr:

Ond mewn Sain Drosgl, yr hyn a geir yw ateb y gytsain ar ddechrau'r gair yn yr orodl. Mae hyn yn drwsgl o safbwynt aceniad y llinell a dyna'r esboniad ar ei henw. Er hynny, mae nifer dda o enghreifftiau ohoni gan yr hen gywyddwyr er nad yw'n boblogaidd iawn bellach. Pan ddisgrifiodd Ithel Ddu goed y gaeaf eto, dyma un arall o'i ddarluniau:

ellyllon, | gweddillion | gwy^dd
      ON             ON
            g -  :        g :

Mae'r acen yn y gair gweddillion ar y sillaf -ddill- ond nid y gytsain dd a atebir ond yn hytrach y gytsain g ar ddechrau sillaf diacen cyntaf y gair. Dyma enghreifftiau eraill:

am na bydd dragywydd dro (Wiliam Lly^n)
meibion saethyddion y serch (Ieuan Deulwyn)
mamaeth tywysogaeth twyll (Dafydd ap Gwilym)

Ar dro, wrth gwrs, nid oes cytseiniaid ar ddechrau'r sillaf acennog ac felly mae'n hollol reolaidd i ateb y cytseiniaid ar ddechrau'r gair lluosill i greu cynghanedd Sain gyffredin fel hyn:

syrthiais, | llewygais | i'r llawr    (Tudur Aled)
      AIS          AIS
             ll  : -         ll:

Y gynghanedd groes o gyswllt

Mae lli naturiol geiriau oddi ar y dafod yn cael ei gydnabod yn y gynghanedd Groes yn ogystal a gellir cysylltu cytseiniaid ar ddiwedd yr orffwysfa gyda dechrau'r ail ran er mwyn creu cyfatebiaeth gyflawn.

Dyma enghraifft o hynny mewn cynghanedd Groes Gytbwys Acennog:

gosod y drwg is dy droed       (Tudur Aled)

Mae'r orffwysfa yn disgyn ar drwg sy'n cael ei ateb gan y brifodl draed ond beth am gyfatebiaeth gweddill y llinell?

gosod y drwg | is dy draed
g s d   dr:     s d  dr:

Gwelwn nad yw'r gyfatebiaeth yn gyflawn oherwydd mae g-s-d-dr o flaen yr orffwysfa a dim ond s-d-dr o flaen y brifacen. Ond mae'r gynghanedd yn cysylltu'r gytsain g ar ddiwedd drwg gyda'r sillaf cyntaf yn yr ail ran fel hyn:

gosod y drw | gis dy draed

Mae'r gyfatebiaeth yn bodloni'r glust oherwydd hynny a dyma'r dadelfeniad:

gosod y drwg | is dy draed
g s d   dr:(g   s d  dr:(d)

Mae'n digwydd mewn Croes Gytbwys Ddiacen hefyd, gan ddilyn yr un egwyddor yn union:

ar y Creawdr | y crïaf       (Guto'r Glyn)
 r   cr: -(r     cr:(f)

Mae'r r ar ddiwedd Creawdr wedi'i chysylltu â dechrau'r ail ran.

Ymarferiad 3

Ymarferiad 4

Caniateir n wreiddgoll yng nghyfatebiaeth y Groes o Gyswllt fel yn llinell Wiliam Lly^n:

nid llawen byd | lle ni boch
n)d ll   n b:(d  ll  n  b:

ond ni ellir cael n ganolgoll gan y byddai hynny yn dod yng nghanol y gyfatebiaeth, hynny yw gwallus yw:

hwyl y garol |  yn goron
   l   g:r-(l   (n)g:r-

Y groes o gyswllt gymhleth

Pan fo gair neu ymadrodd yn dechrau ac yn diweddu gyda'r un gytsain, mae'n haws yn aml iawn orffen y llinell yn gynghanedd Groes o Gyswllt nac yn gynghanedd Groes syml gan fod hynny'n golygu un gytsain yn llai i'w hateb. Ond mae tuedd yn y beirdd i ymorchestu yn eu camp a chymhlethu'r gyfatebiaeth - weithiau bydd y cytseiniaid sy'n croesi'r orffwysfa yn cychwyn ar eu taith ar neu o flaen yr acen ac mae hynny'n golygu eu bod yn y gyfatebiaeth gytseiniol ddwywaith o fewn yr un llinell.

Dyma enghraifft mewn Croes Gytbwys Acennog:

agorodd y gw^r | ei ddwy goes
 g r dd   g:(r)
          g  r      dd   g:(s)

Mae'r cytseiniaid g ac r yn gw^r yn cael eu cysylltu â dechrau ail ran y llinell er mwyn cwblhau'r gyfatebiaeth. Mae'r g yn gw^r yn ateb yr g yn goes yn y brifodl yn ogystal - mae'r un gytsain ddwywaith yn y gyfatebiaeth felly a chynghanedd Croes o Gyswllt Gymhleth yw'r enw ar y math hwn. Gall ddigwydd yn y Groes Gytbwys Ddiacen yn ogystal.

dawn i dynnu | ei dannau
d  n   d:n -
       d n        d:n -

Mae'n digwydd hefyd yn y Groes Anghytbwys Ddisgynedig:

serch a rois | ar chwaer Esyllt            (Tudur Aled)
s rch   r: s
           s    r ch   r :s-

Gan fod y cytseiniaid ar ddiwedd yr orffwysfa yn cael eu hateb ar ddiwedd y goben yn y math hon o gynghanedd p'run bynnag, mae'r un cytseiniaid yn cael eu gweithio ddwywaith o fewn y gyfatebiaeth oherwydd hynny. Mae'r s ar ddiwedd rois yn ateb yr s ar ddechrau serch a'r s yng nghanol Esyllt.

Nid oedd gan yr hen gywyddwyr fawr o le i'r Groes o Gyswllt Gymhleth ond rhoddodd beirdd diweddarach lawer o ffydd yn llifeiriant clywadwy ei sain. Erbyn hyn, serch hynny, nid yw mor ffasiynol.

Y gynghanedd gysylltben

Yn y gynghanedd Groes o Gyswllt, mae cytseiniaid o ddiwedd y rhan gyntaf yn cael eu cydio wrth ddechrau'r ail hanner ond yn y gynghanedd Gysylltben, mae llythyren neu ddwy sy'n union ar ddechrau'r ail hanner yn cael eu cydio wrth ddiwedd y rhan gyntaf er mwyn cwblhau'r gyfatebiaeth. Mae'n digwydd mewn cynghanedd anghytbwys ddisgynedig, er engraifft

os daw hi, | nos da i'w hwyneb            (Dafydd ap Gwilym)
 s d   h:    n)s d      h:  (b)

Rhaid i ddiwedd yr orffwysfa fenthyca'r gytsain n o ddechrau'r ail hanner er mwyn ateb y cytseiniaid o gwmpas yr acen yng ngoben y brifodl - hi'n/hwyneb.

Ymarferiad 5

Yn y llinell

a maen perl mewn parlment (Gruffudd Hiraethog)

mae'r gytsain m yn mewn yn cyfuno â perl i ateb parlment a hefyd yn ateb yr m yn maen ar ddechrau'r llinell. Gan fod y gytsain honno yn perthyn i ddwy ran y llinell mae'n debyg iawn i'r gynghanedd Groes o Gyswllt Gymhleth - dim ond ei bod yn gweithio o chwith!

Y gynghanedd drychben

Hyd yma, rydym wedi benthyca llythrennau o eiriau eraill am ein bod yn brin ohonynt ar gyfer creu odl neu gytseinedd. Ond gall ddigwydd fel arall yn ogystal - gormodedd nid prider sydd y tu ôl i'r gynghanedd Drychben. Gwrandewch ar y llinell hon gan Tudur Aled:

a'r dyn crupl er doe'n cropian

O'i dadelfennu, gwelwn ei bod yn Groes Anghytbwys Ddisgynedig ac mae'r gyfatebiaeth fel a ganlyn:

a'r dyn crupl | er doe'n cropian
  r d n cr:pl |  r d   n cr:p-(n)

Mae'r cytseiniaid r-d-n-c-r yn cael eu hateb o flaen yr orffwysfa ac o flaen y brifodl. Mewn cynghanedd anghytbwys ddisgynedig, rhaid ateb y cytseiniaid ar ôl yr acen yn ogystal, ond nid yw'r gyfatebiaeth hon yn swnio'n ddilys: crupl/cropian. Mae'r l ar ddiwedd yr orffwysfa yn amharu arni.

Yr hyn sy'n digwydd yw bod yr l yn cael ei thorri i ffwrdd oddi wrth ddiwedd rhan gyntaf y gynghanedd a'i chydio wrth y llafariad ar ddechrau'r gair nesaf ar ddechrau'r ail hanner y llinell:

a'r dyn crupl | er doe'n cropian
  r d n cr:p|(l) r d   n cr:p-(n)

Caniateir hyn o dan rai amodau - ni ellir hollti'r cyfuniadau tynn rdd, rth, rch, rff, lch, llt, st, sb, sg, nc, mp ac anaml yr holltir nt.

A dyna'r gynghanedd Drychben - cynghanedd sydd â'i phen wedi'i dorri neu'i docio ymaith. Fel rheol hefyd, dilynir yr orffwysfa gan air sy'n dechrau â llafariad mewn cynghanedd Drychben, er nad yw honno'n rheol hollol gaeth.

Ymarferiad 6

Fel y gwelwch dim ond mewn rhai cyfuniadau o gytseiniaid y mae egwyddor y gynghanedd Drychben yn cael ei chaniatáu. Nid yw'r cyfuniadau hynny'n rhy lyfn ac nid yw'n hawdd eu hynganu fel y maent. Weithiau bydd llafariad ymwthiol yn dod rhyngddynt, er engraifft pobl>pobol, llyfr>llyfyr, talm>talwm. Dyma'r cyfuniadau lle y digwydd hynny: br, bl, dr, dl, dn, fl, fn, fr, ffr, ffl, gr, gl, gn, ls, lm, ml, nt, pl, pr a tl.

Roedd yr hen gywyddwyr yn arfer defnyddio egwyddor y gynghanedd Drychben hefyd er mwyn cael gwared â chytsain ddiangen er mwyn creu cynghanedd gyda'r acen ar y llafariaid, er engraifft

sy o'r nef | yn saernïaeth          (Dafydd ap Gwilym)
s    r n:(f  (n) s rn: -

Er mwyn creu cynghanedd rhwng y prifacenion ne/nïaeth, rhaid taflu'r gytsain f i ddechrau ail hanner y llinell. Ni chymeradwyir y math hwn o gynghanedd Drychben erbyn heddiw.


y wers flaenorol cynnwys y wers nesaf

addasiad Gwasg Aredig o ddeunydd hawlfraint (h) Gwasg Carreg Gwalch