y wers flaenorol cynnwys y wers nesaf


Seithfed Wers cwrs Clywed Cynghanedd

Y gynghanedd sain

Rydym wedi sôn llawer am `sain' geiriau o'u clymu gyda'i gilydd wrth drafod y cynganeddion. Mae cyfuniad o lafariaid a chytseiniaid yn adleisio'i gilydd yn creu odl, sy'n sain sy'n apelio at y glust; yn yr un modd mae ailadrodd dilyniant o gytseiniaid o gwmpas acenion yn creu sain dymunol. Yn awr, dyma ni'n troi at y gynghanedd Sain ei hunan sy'n cyfuno'r ddwy elfen hon - odl a chytseinedd. Mae'n gyfuniad, felly, o nodweddion y cynganeddion eraill ond mae ei mydryddiaeth yn wahanol. Tra bo'r cynganeddion Croes, Traws a Llusg yn rhannu'n ddwy ran, mae'r gynghanedd Sain yn rhannu'n dair rhan. Gall hynny fod yn straen ar rythm naturiol mewn llinell gweddol fer o saith sillaf ac felly rhaid bod yn ofalus bod yr acennu yn gorwedd yn naturiol ar y glust a gochel rhag ei gor-ddefnyddio o bosibl.

Sain gytbwys acennog

Er mwyn sefydlu'r patrwm, byddai'n werth inni droi yn ôl i edrych ar y gynghanedd gyntaf fu dan sylw gennym sef cynghanedd Croes Gytbwys Acennog o farwnad Gruffudd ab Ieuan i Tudur Aled:

merch a gwalch a march a gw^r.

Gwyddom sut mae hon yn gweithio - mae'n rhannu'n ddwy gyda'r prifacenion yn disgyn ar gwalch a gw^r. Er mwyn addasu hon yn gynghanedd Sain Gytbwys Acennog, rhaid cadw'r ddwy brifacen hon a chadw'r cytseinedd rhyngddynt. Ond yn lle ailadrodd yr un cytseiniaid yn y rhan gyntaf, yr hyn a wneir mewn cynghanedd Sain yw creu odl fel hyn:

paun balch a gwalch ydyw'r gw^r.

Fedrwch chi glywed honno? Mae'r llinell yn rhannu'n dair rhan fel hyn:

paun balch | a gwalch | ydyw'r gw^r
      ALCH       ALCH
               g:(lch)  (d   r)g:(r)

Mae sillaf olaf yr acen gyntaf yn odli â sillaf olaf yr ail acen: balch/gwalch ac mae'r gair sy'n ffurfio'r ail acen yn cynganeddu'n gytseiniol gyda'r gair sydd yn y brifodl: gwalch/gw^r gan fynd ar draws y cytseiniaid yn march. Mae'r ddau air yn gytbwys ac acennog a'r rheiny sy'n penderfynu natur y gynghanedd Sain. Mae enwau newydd i'w dysgu ar y prifacenion hyn: y rhagodl yw'r brifacen gyntaf; gorodl yw'r ail un; a'r brifodl yw'r un olaf yr un fath ag arfer. Dyma'r patrwm felly:

paun balch | a gwalch | ydyw'r gw^r
   rhagodl     gorodl       prifodl

Gall y rhagodl fod yn acennog fel uchod neu'n ddiacen fel hyn:

mwyalch, | gwalch | a march a gw^r

Does dim gwahaniaeth o gwbwl felly os yw'r rhagodl a'r orodl ar yr un acen.

Ymarferiad 1

Ar ôl chwilio am odlau yn yr ymarferiad, adroddwch y tri gair gyda'i gilydd a byddwch yn sylwi, rwy'n siw^r, ar y cytseiniaid sy'n ateb ei gilydd ar ddechrau'r orodl a dechrau'r brifodl:

b:Ol      b:UWch
b:        b:

Fel gyda'r cynganeddion Croes a Thraws, does dim rhaid i'r geiriau acennog yn yr orodl a'r brifodl fod yn eiriau unsill. Gellir defnyddio geiriau deusill neu luosill sy'n diweddu'n acennog megis gerllaw yn y llinell hon i'r ehedydd yn nghywydd Dafydd ap Gwilym:

dos draw | hyd gerllaw | ei llys
	          ll:       ll:

Yn y gair gerllaw mae'r acen ar y sillaf olaf, ac felly mae'n dilyn yr un patrwm acennu â bol/buwch.

Os oes clymiad o gytseiniaid yn yr orodl, rhaid eu hateb i gyd o flaen y brifodl yn ogystal. Sylwch ar y llinell olaf yn y gân werin `Cariad cyntaf':

Mae prydferthwch ail i Eden
yn dy fynwes gynnes feinwen
fwyn gariadus liwus lawen,
seren syw, clyw di'r claf.

Syw a clyw yw'r rhagodl a'r orodl ac mae'r clymiad cytseiniol cl ar ddechrau'r orodl yn cael ei ateb gan yr un clymiad yn claf ar ddechrau'r brifodl.

Fel y clywsom gyda'r gynghanedd Groes a'r gynghanedd Draws, does dim rhaid i'r cytseiniaid fod yn rhan o'r union air sy'n ffurfio'r orodl - dim ond bod y gyfatebiaeth yno ac nad oes yr un gytsain arall yn torri ar draws y gynghanedd. Gellir cysylltu cytseiniaid o eiriau eraill gyda'r prifacenion o flaen yr orodl:

pob llais diwael | yn ael | nant      (Dafydd ap Gwilym)
	            n :     n:

neu o flaen y brifodl:

fel pren onn | mewn bron | heb wraidd (Wiliam Lly^n)
                    br:      b  r:

Gyda'r cytseiniaid clwm hyn eto, rhaid gochel y bai crych a llyfn. Sylwch ar y gwahaniaeth rhwng y ddwy linell hon:

pwy a glyw y dryw'n y drain
pwy a glyw y dryw'n ei dir

Mae dryw/drain yn gyfatebiaeth lawn gan fod y clymiad cytseiniol dr o flaen yr acen yn y ddau air. Mae dryw/dir, fodd bynnag, yn engraifft o grych a llyfn gan fod yr acen yn gwahanu'r d a'r r yn dir.

Ymarferiad 2

Sain o gyswllt

Fel gyda'r Groes a'r Draws, nid oes rhaid i'r cytseiniaid sy'n cael eu hateb rhwng yr orodl a'r brifodl fod yn rhan o'r gair sy'n cario'r acen ei hunan. Gallant fod yn perthyn i eiriau o flaen yr acenion hynny. Er enghraifft, gyda'r ymarferiad uchod gellid fod wedi dewis y dull hwn o ateb y dasg gyntaf:

mae lleisiau | 'n sarhau | 'r rhai hyn
                    rh:       rh    :

Mae rhai hyn yn y brifodl yn ateb y sarhau yn yr orodl.

Gall y cytseiniaid sy'n cael eu defnyddio i ateb y gynghanedd fod ymhell iawn o flaen yr acen - yn wir, gallant yn hawdd fod yn perthyn i ran flaenorol o'r llinell. Sylwch ar y llinell hon o gywydd E. G. Hughes i Eifionydd; mae modd ei dadelfennu fel hyn:

Eben Fardd, | ei ardd | oedd hi
      ARDD  |    ARDD |
       |dd       :    |   dd  :

Fardd yw'r rhagodl ac ardd yw'r orodl, ond lle mae'r gytseinedd? Hi yw'r brifodl, ac mae mae'r gytsain dd o flaen yr acen honno. O sylwi'n fanwl ar sw^n y llinell clywn fod yr dd ar ddiwedd fardd yn cyflawni'r gyfatebiaeth gan nad oes dim un gytsain, dim ond llafariaid rhyngddi a'r acen yn ardd.

Sain lafarog

Gellir llunio'r gynghanedd hon heb un gytsain yn cael ei chyfateb rhwng yr orodl a'r brifodl. Bydd hynny'n digwydd pan fo dechreuad llafarog (neu ddigytsain) i'r orodl a'r brifodl, er engraifft:

ni warafun | un | o'ch dau w^r   (Lewys Glyn Cothi)
             :             :

Ymarferiad 3

Sain gytbwys ddiacen

Yn y ffurf hon ar y gynghanedd Sain, mae'r gyfatebiaeth gytseiniol rhwng yr orodl a'r brifodl yn dilyn yr un egwyddor â'r gyfatebiaeth gytseiniol rhwng yr orffwysfa a'r brifodl mewn Croes neu Draws. Mi gofiwch llinell Dafydd ap Gwilym am ei drafferth mewn tafarn:

yn tewi yn y tywyll.

Pe dewisem tewi a tywyll fel gorodl a phrifodl, byddai angen rhagodl i odli â tewi, megis:

tri yn tewi'n y tywyll,

neu

hipi'n tewi'n y tywyll.

Yn y gân werin, `Cariad cyntaf', mae engraifft o'r sain hon yn y llinell:

Fwyn gariadus | liwus | lawen
           US      US
                l :-    l :-

Yn yr engreifftiau hyn, fel mae'n digwydd, mae trawiad yr acen ar lafariaid - tewi/tywyll, liwus/lawen. Mae modd cael cytsain neu gytseiniaid rhwng yr acen drom a'r acen ysgafn, debyg iawn, a rhaid ateb y rheiny yn llawn, er engraifft: bedd/dialedd/dolur, eto/peintio/pontydd.

Odl o gyswllt

Wrth gywasgu sillafau fel uchod - hipi+yn=hipi'n - gellir ehangu'r dewis o eiriau i greu odlau. Er enghraifft, mae gwin a hipi'n yn creu odl berffaith i'r glust. Mae hynny'n creu mwy o bosibiliadau wrth chwilio am eiriau:

gwelir ôl geni'r gwanwyn
    IR        IR

mae'r gwawrio'n y don yn dân
             ON    ON

Acen y rhagodl a geiriau lluosill

Mewn Sain Gytbwys Ddiacen, gall y rhagodl fod yn acennog neu'n ddiacen. Gellir cael geiriau lluosill yn yr orodl a'r brifodl hefyd ond dim ond y cytseiniaid o boptu'r acen sydd rhaid eu hateb. Dadelfennwch y llinellau hyn:

gwell bedd a gorwedd gwirion (Dafydd ap Gwilym)
cas a chymwynas Menai (Dafydd ap Gwilym)
byddaf, addefaf, ddifalch (Tudur Aled)
Rhys ymlaen ynys Nannau (Guto'r Glyn)
Rhisiart aer Edwart ydoedd (Wiliam Lly^n)

Rydych wedi sylwi, mae'n siw^r, mai cynghanedd lafarog yw'r un olaf - mae Edwart ac ydoedd yn cychwyn yn ddigytsain. Serch hynny mae'r gytsain d yn digwydd ar ôl yr acen yn Edwart ac mewn cynghanedd Sain Gytbwys Ddiacen, mae'n rhaid ateb honno yn y brifodl.

Ailadrodd i greu odl

Mae ailadrodd yr un gair yn medru creu sw^n hudol i'r glust a dyfnhau'r angerdd mewn barddoniaeth ac mae rhyddid i ddefnyddio'r un gair i greu dwy odl mewn cynghanedd Sain:

y mae'r dyn yn ddyn go dda
golau, golau yw'r galon

Ymarferiad 4

Sain anghytbwys ddisgynedig

Wrth astudio'r gynghanedd Groes Anghytbwys Ddisgynedig, daethom ar draws yr enghraifft hon o waith Gutun Owain:

merch a gwy^r, march a garai.

Mae'r prifacenion yn disgyn ar gwy^r/garai, gan ofalu bod y cytseiniaid o flaen ac ar ôl yr acen yn y sillaf acennog yn yr orffwysfa yn cael eu hateb o flaen ac ar ôl yr acen yn y brifodl. Yr un patrwm yn union â hyn sydd i acenion yr orodl a'r brifodl mewn Sain Anghytbwys Ddisgynedig gan gwblhau'r gynghanedd drwy gael odl rhwng diwedd y rhagodl a diwedd yr orodl, er engraifft:

angall | mal dall | a dwyllir       (anhysbys)
   ALL        ALL
             d:ll     d :ll

truan | mor wan | yw'r einioes      (Tudur Aled)
   AN        AN
          r : n      r : n

Ymarferiad 5

Sain anghytbwys ddyrchafedig

Ni ddaethom ar draws y patrwm hwn o acennu wrth ymdrin â'r Groes a'r Draws gyffredin. Ond mae'n ffurf boblogaidd iawn ar y gynghanedd Sain - y ffurf fwyaf poblogaidd o ddigon arni ymhlith y beirdd. Dyma ychydig o enghreifftiau ichi gyfarwyddo â'i sain:

a'r byd yn hyfryd, yn haf (Dafydd ap Gwilym)
heb gysgu, heb garu gwin (Dafydd Bach ap Madog Wladaidd)
llydan ei darian a'i dir (Gruffudd Fychan)
gwae Wynedd gorwedd o'r gw^r (Gruffudd Llwyd)
sôn am hen ddynion ydd wyf (Guto'r Glyn)
weled na chlicied na chlo (Iolo Goch)

Gadewch inni ddadelfennu un ohonynt:

gwae Wynedd | gorwedd | o'r gw^r
        EDD       EDD
              g:r -         g: r

Ffurfir yr odl rhwng y rhagodl a'r orodl gan Wynedd/gorwedd; mae'r orodl yn diweddu gyda sillaf ddiacen - gor-wedd, ac mae'r brifodl yn taro sillaf acennog - g:w^r. Mae'r patrwm g:[acen]:r i'w glywed yn yr orodl ac yn y brifodl a chan fod y mydr yn codi o sillaf diacen i sillaf acennog fe'i gelwir yn Sain Anghytbwys Ddyrchafedig.

Ond gadewch inni edrych ar batrwm un arall o'r llinellau uchod:

heb gysgu, | heb garu | gwin
        U           U
                 g:r-   g: n

Mae'r odl eto'n gyflawn rhwng y rhagodl a'r orodl - gysgu/garu ond dim ond y gytsain o flaen yr acenion sy'n cael ei hateb rhwng yr orodl a'r brifodl - garu/gwin. Mae hyn yn hollol dderbyniol yn y math hwn o gynghanedd Sain - gellir dewis ateb y gytsain ar ôl y sillaf acennog neu beidio. Astudiwch batrymau'r cytseinedd yn yr enghreifftiau uchod ac fe welwch eu bod yn amrywio - mae rhai'n ateb y gytsain ar ôl yr acen a rhai'n dewis peidio â gwneud hynny. Mae'r naill a'r llall yn berffaith dderbyniol: hyfryd/haf, garu/gwin, darian/dir, gorwedd/gw^r, ddynion/ydd wyf, chlicied/chlo.

Ond os oes clymiad o gytseiniaid yn sownd wrth y sillaf acennog yn yr orodl, er engraifft chlicied, rhaid eu hateb yn llawn o flaen y brifodl - chlo, er y gellir gwneud hynny drwy ddefnyddio parau o eiriau ar batrwm ddynion/ydd wyf.

Os mai gair lluosill fydd yr orodl, y gytsain (neu'r clymiad o gytseiniaid) a atebir yw'r rhai yn union o flaen yr acen drom, er engraifft pe bai'r gair marwolaeth yn orodl, y gytsain r fyddai angen ei hateb yn y brifodl - marwolaeth yr haf, neu marwolaeth y wraig neu marwolaeth rad. Gellid gorffen y llinell fel hyn:

pan ddaeth | marwolaeth | fy mrawd
      AETH         AETH
               r:             r:

Ond gellir ymestyn y gyfatebiaeth hefyd i gynnwys yr m yn marwolaeth, yn ôl egwyddor Sain o Gyswllt a chael clymiad fel hyn yn y brifodl:

pan ddaeth | marwolaeth | fy mrawd
      AETH         AETH
             m r:            mr:

Gadewch inni gydio yn llinell Dafydd ap Gwilym a'r byd yn hyfryd, yn haf ac edrych ar bosibiliadau'r gynghanedd hon. O ollwng y gair haf o'r brifodl, mae gennym ddewis o roi sillaf acennog yn dechrau gyda h yno, neu hepgor yr h a dewis ateb yr n yn yn hyfryd yn lle hynny. Mae'r rhain i gyd yn gywir:

a'r byd | yn hyfryd | ei hwyl
             h:          h:

a'r byd | yn hyfryd | gan haul
             h:           h:

a'r byd | yn hyfryd | i ni
           n  :         n:

a'r byd | yn hyfryd | drwy'r nos
           n  :              n:

Fel y gwelwch, mae cryn ddewis yn bosibl gyda'r gynghanedd hon ac nid oes ryfedd ei bod yn un mor boblogaidd gyda'r beirdd!

Ymarferiad 6

Mae Sain Lafarog yn digwydd yn yr aceniad hwn hefyd lle na bo cytsain o flaen yr acen yn y rhagodl na'r brifodl, er engraifft:

bardd llawen | a'i awen | wych
                   :-(n)  :(ch)

gw^r unigryw | ydyw | ef
              :(d)-  :(f)

Sain draws

Mae tuedd ymysg cynganeddwyr erbyn hyn i fenthyca elfen o'r gynghanedd Draws i'r gyfatebiaeth mewn cynghanedd Sain, hynny yw peidio ag ateb pob un cytsain o flaen yr acen yn ail hanner y gyfatebiaeth.

Mewn cynghanedd Sain Anghytbwys Ddyrchafedig, byddai modd cyfiawnhau llinell fel hon, er engraifft:

bardd llawen | yr awen | gref
                r :    (g)r:

Mae'r r o flaen awen yn cael ei hateb gan yr r sydd o flaen yr acen yn gref, ond mae'r gyfatebiaeth yn mynd ar draws yr g ar ddechrau'r brifodl. Fel gyda'r gynghanedd Draws, nid oes modd hepgor cytseiniaid rhag cael eu hateb ar ddechrau'r rhan gyntaf, serch hynny. Felly os oes clymiad cytseiniol ar ddechrau'r odl, rhaid eu hateb yn lawn ar ddechrau'r brifodl. Ni wnâi hyn mo'r tro:

bardd rhwyddach, | clyfrach | ei lein
                 (c)l:(fr)-      l:(n)

Ac ni fyddai neb yn ymestyn y rheolau i gyfiawnhau llinell fel hon chwaith:

bardd llawen | yr awen | ddewr
                  :-    (dd):(r)

Os oes cytain sengl o flaen y brifodl pan fo honno'n acennog, rhaid ei hateb ar ddechrau'r orodl; pan fo clymiad o gytseiniaid o flaen prifodl acennog, gellir mynd ar draws un neu fwy ohonynt gan ateb cyn lleied â dim ond un o'r clymiad; pan fo'r brifodl yn llafarog, gellir llunio Sain Lafarog fel y gwelsom uchod.

Mae'r rheol rhywfaint yn wahanol pan fo'r brifodl yn ddiacen mewn cynghanedd Sain. Gan fod rhaid ateb y gytsain neu'r cytseiniaid a ddaw rhwng yr acen drom a'r acen ysgafn mewn prifodl o'r fath, mae modd mynd ar draws cytsain sengl o flaen yr acen drom yn y rheiny, er engraifft:

unigryw | ydyw | Nedw
          :d - (n):d-

unigryw | ydyw | Medwen
          :d - (m):d-

Dyma engreifftiau cytbwys diacen - mae'r un egwyddor yn dal mewn anghytbwys ddisgynedig yn ogystal:

ni roed | oed | i wên Medwyn
           :d      (nm):d -

I fynd yn ôl at y brifodl acennog mewn cynghanedd Sain, mae'n debyg byddai modd cyfiawnhau mynd ar draws cytsain o flaen yr acen mewn Sain Anghytbwys Ddyrchafedig pe atebid yr un sydd ar ôl yr acen, er engraifft:

gw^r unigryw | ydyw | Ned
               :d - (n):d

Ond yn sicr, ni fyddai modd i'r cynganeddwyr gael y gorau o ddau fyd drwy hepgor ateb y gytsain ddaw o flaen yr acen a'r un a ddaw ar ei hôl. Anghywir hollol fyddai hon:

gw^r unigryw | ydyw | Nic
              :(d)- (n):(c)

Ac i gloi'r wers hon ar y gynghanedd Sain, astudiwch y darn isod o gywydd gan Gutun Owain sy'n disgrifio pâr o gw^n hela. Sylwch fel y mae wedi rhoi sylw manwl i sw^n y cw^n ar drywydd eu prae. Mae'r cywydd yn canu ei hunan, yn llawn o fwrlwm yr helfa ac mae'n ddiddorol cyfri pa sawl cynghanedd Sain sydd ynddo a gweld pa fodd mae'r rheiny'n cynorthwyo i gyfleu'r sw^n a'r cynnwrf ar ein clyw ninnau:

Dau un llais ac edyn y llwyn,
dau gydwedd mewn dwy gadwyn,
canu a wnânt i'r cynydd,
cael gwynt ar helynt yr hydd . . .
Ymddiddan tuag Annwn
yn naear coed a wnâi'r cw^n,
llunio'r gerdd mewn llwyni'r gog
a llunio angau llwynog.
Medran fesur y gannon,
miwsig ar eurig a rôn;
carol ar ôl yr elain,
cywydd ar yr hydd yw'r rhain.

Ymarferiad 7


y wers flaenorol cynnwys y wers nesaf

addasiad Gwasg Aredig o ddeunydd hawlfraint (h) Gwasg Carreg Gwalch