ymarferion blaenorol y wers ymarferion pellach


Ymarferion Seithfed Wers cwrs Clywed Cynghanedd

Ymarferiad 1

Ceisiwch chwilio am eiriau a all fod yn rhagodl i'r cyfuniadau canlynol. Mae gennych ddewis o eiriau acennog neu rai diacen. A go brin bod rhaid eich atgoffa bod rhaid gochel y bai trwm ac ysgafn wrth gael hyd i odl.

  1. .................., bol, buwch
  2. .................., cân, côr
  3. .................., dyn, (heb) dei
  4. .................., gwên, (fel) giât
  5. .................., trai, tro
  6. .................., plant, plwyf

yn ôl i'r wers


Ymarferiad 2

Chwiliwch am eiriau i lunio prifodl i'r parau hyn o eiriau. Cofiwch fod rhaid gochel y beiau proest i'r odl (a elwir yn ddybryd sain mewn cynghanedd Sain), crych a llyfn a rhy debyg yr un fath ag wrth lunio prifacenion y Groes a'r Draws.

  1. lleisiau, sarhau, ....................
  2. llawn, prynhawn, ....................
  3. oer, lloer, ....................
  4. eirlaw, glaw, ....................
  5. llef, tref, ....................
  6. gwell, ymhell, ....................

Lluniwch linellau yn cynnwys y geiriau a gawsoch gan dreiglo lle bo angen gwneud hynny.

yn ôl i'r wers


Ymarferiad 3

Ceisiwch ganfod geiriau i greu gorodl a phontio'r gynghanedd rhwng y rhagodlau a'r prifodlau hyn.

  1. derwen, ........................., haf
  2. drwg, ........................., man
  3. ewyn, ........................., llong
  4. tynnai, ........................., traeth
  5. mae, ........................., ffrind
  6. helynt, ........................., gwern

Lluniwch linellau seithsill gyda'r geiriau hyn.

yn ôl i'r wers


Ymarferiad 4

Drwy ailadrodd, mae gennym odlau ar gyfer y rhagodl a'r orodl yn y tasgau hyn. Ceisiwch chithau ganfod geiriau i lunio prifodl iddynt a chreu Sain Gytbwys Acennog:

  1. melyn, melyn, .........................
  2. araf, araf, .........................
  3. holwn, holwn, .........................
  4. cariad, cariad, .........................
  5. llonydd, llonydd, .........................
  6. gwenyn, gwenyn, .........................

yn ôl i'r wers


Ymarferiad 5

Mae angen gair sy'n diweddu'n acennog ar gyfer yr orodl yn y llinellau a ganlyn:

  1. llyncu'r ......................... a wna'r moroedd
  2. daw Elen a'i ......................... gynnes
  3. dwyn i'r ......................... bob llawenydd
  4. hwythau ill ......................... sy'n deall
  5. gw^yl a'i ......................... ar heolydd
  6. y mae'r ......................... yn gysurus

yn ôl i'r wers


Ymarferiad 6

Llenwch y bylchau i greu llinellau o Sain Anghytbwys Ddyrchafedig:

  1. araith gan y ......................... fry (Dafydd ab Edmwnd)
  2. wedi Sion, ......................... y sydd (Gutun Owain)
  3. nac ofna er Bwa ......................... (Dafydd ap Gwilym)
  4. gan fyd gwenwynllyd gwae ......................... (Ieuan Tew Brydydd)
  5. saith gywydd benydd o'i ......................... (Dafydd ap Gwilym)
  6. aur melyn am ......................... môr (Dafydd ab Edmwnd - i wallt merch)

yn ôl i'r wers


Ymarferiad 7

Weithiau, bydd linell o gynghanedd yn cael ei llunio ar ôl cael gafael ar ddim ond un gair - a hwnnw yn aml, oherwydd gofynion y mesur, fydd y gair olaf yn y llinell - sef y brifodl. Dyma restr o brifodlau, ewch ati i lunio cynganeddion Sain yn seiliedig arnynt. Cofiwch fod gennych bedwar math o aceniad - cytbwys acennog, cytbwys diacen, anghytbwys ddisgynedig ac anghytbwys ddyrchafedig.

  1. .................................................. gwên
  2. .................................................. dwylo
  3. .................................................. drwg
  4. .................................................. llygoden
  5. .................................................. gaeaf
  6. .................................................. beic

yn ôl i'r wers


ymarferion blaenorol y wers ymarferion pellach

addasiad Gwasg Aredig o ddeunydd hawlfraint (h) Gwasg Carreg Gwalch