ymarferion blaenorol y wers ymarferion pellach


Ymarferion Chweched Wers cwrs Clywed Cynghanedd

Ymarferiad 1

Mae gwên yn air acennog. Pa eiriau acennog eraill fedrwn ni eu defnyddio yn yr orffwysfa i greu cynghanedd Lusg pan fo llawenydd yn y brifodl?

yn ôl i'r wers


Ymarferiad 2

Rhestrwch eiriau diacen eraill y byddai'n bosibl eu defnyddio yn yr orffwysfa er mwyn creu cynghanedd Lusg pan fo llawenydd yn brifodl.

yn ôl i'r wers


Ymarferiad 3

Unwaith eto mae defnyddio enwau lleoedd, fel Gwynedd, Ystrad Marchell ac Is Conwy, yn ffordd hwylus i ddysgu elfennau'r gynghanedd Lusg. Pa eiriau a ellid eu defnyddio fel gorffwysfa os mai'r isod sydd yn y brifodl? Cofiwch feddwl am eiriau acennog a diacen.

  1. (acennog) ............................................... Colorado
    (diacen) ............................................... Colorado
  2. (acennog) ............................................... Dacca
    (diacen) ............................................... Dacca
  3. (acennog) ............................................... El Paso
    (diacen) ............................................... El Paso
  4. (acennog) ............................................... Patagonia
    (diacen) ............................................... Patagonia
  5. (acennog) ............................................... Pwllheli
    (diacen) ............................................... Pwllheli
  6. (acennog) ............................................... Zürich
    (diacen) ............................................... Zürich

yn ôl i'r wers


Ymarferiad 4

Mae rhai enwau lleoedd sy'n diweddu'n acennog. Mae'n amhosibl defnyddio'r rhain fel prifodl ond er hynny gallwn eu defnyddio yn yr orffwysfa. Meddyliwch am eiriau sydd â'u sillafau goben yn odli â'r rhain er mwyn creu fframwaith i gynganeddion Llusg.

  1. Inverness ...............................................
  2. Japan ...............................................
  3. Sansibâr ...............................................
  4. Penarth ...............................................
  5. Tirol ...............................................
  6. Singapôr ...............................................

yn ôl i'r wers


Ymarferiad 5

Rhestrwch eiriau y gallwn eu defnyddio fel prifodl er mwyn creu cynganeddion Llusg pe rhoddid yr enwau lleoedd a ganlyn yn yr orffwysfa:

  1. Timbyctw^ ...............................................
  2. Santa Fé ...............................................
  3. Tre-lew ...............................................
  4. Delhi ...............................................
  5. Morocco ...............................................
  6. Aberffraw ...............................................

Ceisiwch ddefnyddio parau o enwau o'r ymarferiadau hyn i lunio llinellau cyflawn o gynganeddion Llusg seithsill.

yn ôl i'r wers


Ymarferiad 6

Yn y cwpledi isod, mae gair sy'n llunio'r brifodl yn y gynghanedd Lusg wedi'i adael allan bob tro. Ond drwy sylwi ar yr orffwysfa yn y llinellau hyn a sylwi ar yr odl yn y llinell sy'n dilyn, dylech fedru llenwi'r bylchau.

  1. Afal pêr ac ...............................................
    a garai'r gwas a gro gwyn;
  2. bwa o flaen y ...............................................,
    cleddau digon brau o bren
    (Dau gwpled Lewys Glyn Cothi i'w fab)
  3. Heddiw mewn pridd yn ...............................................
    O'i dda nid oes iddo ddim.
    (Siôn Cent)
  4. Mae i'm cefn ers ...............................................
    hen wayw ni ad hun y nos
    (Guto'r Glyn)
  5. Dwyglust feinion ...............................................
    dail saets wrth ei dâl y sydd.
  6. Ei flew fel sidan ...............................................
    a'i rawn o liw gwawn y gwy^dd.
    (Dau gywydd Tudur Aled i'r march)

yn ôl i'r wers


ymarferion blaenorol y wers ymarferion pellach

addasiad Gwasg Aredig o ddeunydd hawlfraint (h) Gwasg Carreg Gwalch