ymarferion blaenorol y wers ymarferion pellach


Ymarferion Pumed Wers cwrs Clywed Cynghanedd

Ymarferiad 1

Ceisiwch lenwi'r bylchau yn y llinellau canlynol er mwyn cwblhau'r gynghanedd a hefyd er mwyn creu cwpledi o gywydd:

  1. dau fodur a dwy ..........
    dau farch chwim a dwy .......... wen
  2. dau .......... a dwy fendith
    dau walch aur a dwy ..........
  3. dau heb .......... a dwy heb ..........
    dau .......... a dwy feiro
  4. dau ddi-.......... a dwy ddi-wên
    dau gysgod a dwy ..........
  5. dau gybydd a dwy ..........
    ...........................
  6. dau hen feic a dwy ..........
    ...........................

yn ôl i'r wers


Ymarferiad 2

Llenwch y bylchau i gwblhau'r cwpledi canlynol:

  1. (ifanc a hen)
    ddoe'n .........., heddiw'n araf,
    ddoe yn glws a heddiw'n ..........
  2. (byw a marw)
    ddoe'n gyrru, heddiw'n ..........
    ddoe yn .........., heddiw'n ei hedd
  3. (harddwch ac adfeilion)
    ddoe'n gywrain, heddiw'n ..........
    ddoe'n .........., heddiw'n ddi-do
  4. (colli cryfder)
    ddoe'n ddwylath, heddiw'n ..........
    ddoe yn hardd a heddiw'n ..........
  5. ddoe'n gawraidd, heddiw'n ..........
    ddoe .......... heddiw ..........
  6. ddoe'n .......... heddiw'n ..........
    ddoe .......... heddiw ..........

yn ôl i'r wers


Ymarferiad 3

Dadelfenwch y llinellau anghytbwys disgynedig hyn:
  1. Duw a w^yr y daw erof (Madog Benfras)
  2. cain ei llun, cannwyll Wynedd (Llywelyn Goch ap Meurig Hen)
  3. mae nos am y Waun Isaf (Gutun Owain)
  4. eryr yw ar wy^r ieuanc (Guto'r Glyn)
  5. arian da a wrandewir (Iorwerth Fynglwyd)
  6. hyd yn hyn dyna'i hanes (Gruffudd Hiraethog)

yn ôl i'r wers


Ymarferiad 4

Mae naill ai'r ail neu'r trydedd air ym mhob achos yn cynganeddu'n gywir â'r gair cyntaf; pa un yw'r crych a llyfn?

  1. croen: crino, carnedd;
  2. trên: turnio, taranu;
  3. past: postio, peseta;
  4. trwy: trowynt, taro;
  5. brown: brwynog, barnu.

Chwiliwch am ddau air diacen arall sy'n cynganeddu'n gywir â'r un cyntaf.

yn ôl i'r wers


Ymarferiad 5

Mae naill ai'r ail neu'r trydedd air ym mhob achos yn creu gormod odl gyda'r gair cyntaf. Pa un?

  1. enwyn: hyn, hon;
  2. ceidwad: coed, cad;
  3. ehediad: had, hud;
  4. swnyn: syn, sain.

Chwiliwch am eiriau acennog eraill i gynganeddu'n gywir â'r un cyntaf. i gynganeddu'n gywir â'r un cyntaf.

yn ôl i'r wers


Ymarferiad 6

Pa un o'r enwau lleoedd sy'n cwblhau'r cynganeddion anghytbwys dyrchafedig hyn?

  1. gynt a gawn, Gwent a ............... (Guto'r Glyn)
    (Garnant, Gwynedd, Garmon, Chonwy)
  2. i'r tai yng nghwr y ............... (Dafydd Nanmor)
    (Tywyn, Teifi, Tafwys, Tregaron)
  3. och w^r, a dos ............... (Dafydd ap Gwilym)
    (Aber-erch, Uwchmynydd, Gwm Corrwg, Uwch Aeron)
  4. llew'r ............... a lloer o Wynedd (Tudur Aled)
    (Llan, Nant, Waun, Ynys)
  5. tir âr y gwnant ............... (Guto'r Glyn)
    (Eryri, Dredegar, Yr Oerddrws, Iwerydd)

yn ôl i'r wers


Ymarferiad 7

Mae 'na enwau lleoedd ar goll yn y llinellau hyn. Dewiswch yr un cywir i greu cynganeddion anghytbwys disgynedig:

  1. o Gaerhun i ...............
    (Gaernarfon, Gaer-dydd, Gae'r onnen, Gaerau)
  2. o ............... i Lanfarian
    (Lan-faes, Lan-fair, Lanfynach, Lanfor)
  3. ............... a Rhydfelen
    (Rhyd-y-fro, Rhydlafar, Rhydyfelin, Rhyd-y-foel)
  4. o Ben-coed i ...............
    (Bontcanna, Bencarreg, Ben-y-crug, Bencader)
  5. o ............... i Lanwynno
    (Lanelli, Lwyn-onn, Ly^n, Enlli)

yn ôl i'r wers


Ymarferiad 8

Ceisiwch lunio gynganeddion Croes neu Draws Cytbwys Acennog sy'n odli â'r llinellau o'r ymarferiadau uchod er mwyn creu cwpledi o gywydd.

yn ôl i'r wers


ymarferion blaenorol y wers ymarferion pellach

addasiad Gwasg Aredig o ddeunydd hawlfraint (h) Gwasg Carreg Gwalch