y wers flaenorol cynnwys y wers nesaf


Pumed Wers cwrs Clywed Cynghanedd

Cwpled

Erbyn hyn, rydym wedi clywed am gynganeddion Croes a Thraws Cytbwys Acennog a Chytbwys Diacen. I'n hatgoffa ein hunain, dyma engraifft o Groes Gytbwys Acennog ar batrwm y llinellau `dau a dwy':

dau ddyn stowt, dwy deunaw stôn.

A dyma engraifft o Groes Gytbwys Ddiacen ar yr un patrwm:

dau ifanc a dwy afon.

Rhowch y ddwy at ei gilydd i weld beth fyddai'n digwydd:

dau ddyn stowt, dwy deunaw stôn
, dau ifanc a dwy afon.

Maen nhw'n rhedeg yn esmwyth iawn. Mewn gwirionedd, maen nhw'n ffurfio cwpled o gywydd. Sylwch ar y ddwy brifodl yn y llinellau hyn: stôn ac afon. Maen nhw'n odli. Dwy linell yn odli yw cwpled ond er mwyn llunio cwpled o gywydd rhaid cael dwy linell seithsyll gyda chynganedd lawn ym mhob llinell. Ar ben hynny rhaid i'r naill linell ddiweddu'n acennog a'r llall yn ddiacen. Nid oes wahaniaeth pa un sy'n dod gyntaf.

Beth am fynd ati i newid y llinell olaf? Yn lle `dau ifanc a dwy afon', fedrwch chi gynnig llinell arall? Mae'n rhaid i'r llinell fod yn ddiacen ac odli â stôn. Beth am `dwy wirion'? Mi allwn lunio llinell fel `dau Arab a dwy wirion' neu `dau oriog a dwy wirion'. Pa eiriau eraill sy'n odli? Yna ewch ati i gwblhau'r gynghanedd a llunio cwpled o gywydd. Wrth gyfansoddi, mae'n rhaid cychwyn yn y diwedd a gweithio yn ôl weithiau!

Mesur byr iawn yw cwpled o gywydd, ond bydd y cywyddwyr yn eu rhaffu gan lunio penillion maith sy'n cynnwys nifer helaeth o gwpledi. Byddant hefyd yn gofalu amrywio'r patrwm acennu - er engraifft, mae Dafydd Nanmor yn rhoi'r llinell acennog yn gyntaf mewn dau o'r cwpledi isod ond yna mae'r llinell ddiacen yn gyntaf yn y nesaf. Sôn amdano'i hun yn caru â merch arbennig yn ystod mis Mai y mae:

Gwylio hen mewn gwely haf
bedeirnos, â bedw arnaf.
Ysgrifennu â du yn deg
gair mwyn ar gwr ei maneg.
Ni thorrais un llythyren
o bin ac inc heb enw Gwen.

Sylwch ar yr acen: haf/arnaf, yna deg/maneg ond wedyn llythyren/Gwen.

Ymarferiad 1

Ddoe a heddiw

Patrwm arall sy'n cael ei ddefnyddio'n aml gan y beirdd er mwyn creu gwrthgyferbyniad trawiadol o fewn un llinell fer yw'r un a welir yn y llinellau a ganlyn:

ddoe'n fud a heddiw'n fedd (Lewys Morgannwg, i Tudur Aled)
ddoe yn falch a heddiw'n fud (Wiliam Lly^n)

Mae'r patrwm ddoe/heddiw yn un addas i gyfleu'r newid sydd wedi digwydd gyda threigl amser megis rhwng bod yn fyw a bod yn farw fel uchod. Gellir ei ddefnyddio i wrthgyferbynnu dau gyfnod yn hanes adeilad - llys pwysig yn ei ddydd bellach yn adfail:

ddoe'n lle gwych, heddiw'n lle gwag
ddoe'n lluniaidd, heddiw'n llanast

Neu gall y patrwm hwn gyfleu'r gwahaniaeth rhwng ieuenctid a henaint:

ddoe'n heini, heddiw'n henoed
ddoe mewn hwyl, heddiw mewn oed

Mae'r ddwy linell uchod yn digwydd odli; mae'r naill yn diweddu'n ddiacen a'r llall yn diweddu'n acennog, felly dyna gwpled o gywydd. Mae hwn yn batrwm hwylus i'w ddynwared i lunio cwpled arno.

Ymarferiad 2

Lleoliad yr orffwysfa

Yn y cynganeddion Croes a Thraws yr ydym wedi'u hastudio hyd yn hyn, rydym wedi sylwi bod lleoliad yr orffwysfa yn amrywio yn fawr. Mewn cynghanedd Draws Fantach, er engraifft, gall ddisgyn ar y sillaf cyntaf un:

cas gan grefyddwyr y côr (Siôn Cent)

neu mewn cynganedd Draws syml arall ar yr ail sillaf:

un mab oedd degan i mi (Lewis Glyn Cothi)

Dyma un lle mae'r orffwysfa yn disgyn ar y drydedd sillaf:

wylo'r nos lawer a wnaf (Guto'r Glyn)

ac un lle mae ar y bedwaredd sillaf:

a galw gwy^r i gael gwin (Llywelyn Goch ap Meurig Hen)

Mewn llinellau o gynganeddion Croes neu Draws Cytbwys Acennog, dyna'r sillaf eithaf y caniateir rhoi'r orffwysfa arni. Pe cymerwn un o'r llinellau `ddoe a heddiw' uchod a'i newid fel hyn:

heddiw yn ei hedd, ddoe'n wyllt

byddai'r orffwysfa ar y bumed sillaf yn y fersiwn hon ac o'i hadrodd yn uchel mae'n amlwg ei bod hi'n swnio'n drwsgl iawn. Mae'r orffwysfa wedi'i gosog yn rhy agos at ddiwedd i llinell ac mae'n bendrom. Enw'r bai hwn yw camosodiad gorffwysfa.

Mewn llinell gytbwys ddiacen, ni chaiff sillaf acennog yr orffwysfa fod ymhellach na'r drydedd sillaf. Fel hyn:

am y maenfur â meinferch (Dafydd ap Gwilym)

Gellir rhoi'r orffwyfa o flaen y bedwaredd sillaf, wrth gwrs. Dyma un yn diweddu ar y drydedd sillaf:

y blaned heb lawenydd (Gutun Owain)

ac un yn gorffen ar yr ail sillaf:

draenog yn ymdroi ynof (Gutun Owain, am boenau serch)

Cynghanedd anghytbwys ddisgynedig

Gadewch i ni ddadelfennu'r llinell enwog hon gan J. Rhys Daniels i'r `blewyn' wrth iddo heneiddio:

ddoe yn aur, heddiw'n arian.

Mae'r orffwysfa ar y drydedd sillaf ac mae'r gyfatebiaeth gytseiniol yn gyflawn:

ddoe yn AUr, | heddiw'n Arian
dd    n : r  |   dd   n :r (n)

Mae'r prifacenion ar aur/arian ac mae'r cytseiniaid o flaen ac ar ôl yr acen yn cadw i'r un patrwm dd-n:r. Ond sut fath o gynghanedd ydyw? Mae arian yn diweddu'n ddiacen ond gair acennog yw aur. Fel y dywed y pennawd i'r adran hon, mae'r acenion yn anghytbwys. Mae'r orffwysfa yn acennog, yn cario pwysau cryf, ond mae'r brifodl yn gorffen gyda sillaf diacen ac yn wan ei phwysau. Mae'r acen yn disgyn felly o'r acen gref i'r acen wan a gelwir llinell o'r fath yn gynghanedd Groes Anghytbwys Ddisgynedig. Yn wahanol i gynganeddion Croes eraill, nid oes modd cyfnewid dau hanner y llinell hon. Ni chaniateir Croes Anghytbwys Ddyrchafedig pan fo'r acen olaf yn brifodl. Ni ellir dweud:

heddiw'n arian, ddoe yn aur.

Ni chaniateir lleoliad yr orffwysfa i fod ymhellach na'r drydedd sillaf yn y math hwn o gynghanedd. Byddai'n anghywir ei lleoli ar y bedwaredd sillaf fel hyn:

heddiw yn aur, ddoe'n arian.

Byddai hynny'n dod ag acenion yr orffwysfa a'r brifodl yn rhy agos at ei gilydd gan ddrysu'r rhythm.

Fel arfer, nid yw'r cytseiniaid sy'n dod ar ôl yr acen mewn sillaf acennog yn yr orffwysfa yn cael eu hateb ar ôl yr acen yn y brifodl. Dyna'r drefn gyda chynganeddion cytbwys acennog:

egin g:WAEd | t'wysogion g:Ynt     (Gutun Owain)
 g n g:  (d)|(t   s)g  n g:(nt)

Ond gyda'r cynganeddion anghytbwys disgynedig, mae'n rhaid ateb y cytseiniad ar ôl yr acen yn yr orffwysfa er mwyn cael cynghanedd cyflawn:

a chais :Un | o'i chus:Anau        (Dafydd ap Gwilym)
  ch  s : n |     ch s: n -

yml:AEn | am ei el:Ynion           (Iolo Goch)
 ml:  n |  m     l: n (n)

merch a g:WY^r | march a g:Arai    (Gutun Owain)
m rch   g:   r | m rch   g: r -

Mae'r un egwyddor yn union mewn cynghanedd Draws Anghytbwys Ddisgynedig megis hon gan Gruffudd Hiraethog yn disgrifio meini melin:

gan dd:W^r | a'i try'n gyndd:EIriawg
g n dd:  r |    (tr  n)g ndd:  r  (g)

Os yw'r sillaf acennog yn yr orffwysfa yn diweddu heb gytsain, yna rhaid cael cyfatebiaeth lafarog ar ddiwedd y goben yn y brifodl yn ogystal:

gwir :YW, | lle bo gwy^r :IEUanc
g  r : -  |(ll  b) g   r : - (nc)

Rhaid ateb llafariaid ar yr acen, neu gytsain sero fel y'i galwyd gennym, gyda llafariad ar yr acen.

Ymarferiad 3

Crych a llyfn

Yn y gynghanedd hon eto, rhaid gochel rhag y bai crych a llyfn. Mae gwers yn yr orffwysfa yn cyhaneddu â gorsaf yn y brifodl, ond nid yw gwres a gorsaf yn cynganeddu - er mai'r un cytseiniaid sydd yn y sillaf acennog: g-r-s, mae'r acen ei hunan yn eu gwahanu mewn lle gwahanol:

gwr:Es      g:WErsyll
g r: s      g:  rs(ll)

Dyna grych a llyfn.

Ymarferiad 4

Proest i'r odl mewn cynghanedd anghytbwys

Nid yw'r bai proest i'r odl yn digwydd mewn llinell anghytbwys ddisgynedig gan fod y cytseiniaid ar ddiwedd yr orffwysfa eisioes wedi'u hateb rhwng y goben a'r sillaf ddiacen yn y brifodl. Er bod bron a brenin yn proestio, nid ydynt yn euog o'r bai proest i'r odl o'u defnyddio mewn cynghanedd anghytbwys ddisgynedig, gan mai'r -in fyddai'r brifodl. Ar y llaw arall, rhaid gochel rhag gormod odl yn y gynghanedd hon yr un fath â'r rhai blaenorol. Byddai brin a brenin yn creu gormod o sw^n tebyg o fewn yr un llinell ac yn dioddef o'r bai gormod odl.

Ymarferiad 5

Enwau lleoedd

Defnyddiodd yr hen gywyddwyr y gynghanedd anghytbwys ddisgynedig yn helaeth hefyd. Mae rhywbeth yn swynol tu hwnt ynddi - ac yn arbennig felly wrth gynganeddu enwau lleoedd arni. Wrth ddisgrifio achau teulu bonedd o Ddyffryn Clwyd, dywedodd Tudur Aled ei fod yn gweld hynafiaid y teulu hwnnw fel coed yn gwarchod y fro. Mae'r dweud yn creu darlun sy'n cyffroi'r dychymyg o'i roi mewn cwpled o gynghanedd fel hyn:

Mae gwaed da lle maged dyn
mal yn goed am Langedwyn

Hen ffurf ar `fel' yw mal. Dadelfennwch y llinell olaf gyda mi:

mal yn g:OEd | am Lang:Edwyn
m l  n g: (d)|  m L ng: d (n)

Mae'n gynghanedd gywrain iawn ac yn apelio'n gryf at y glust.

Ymarferiad 6

Mae nifer o enwau lleoedd yng Nghymru yn cynganeddu â'i gilydd, er engraifft:

Rhyd-y-meirch a Rhyd-y-mwyn
O Dan-y-bwlch i Dy'n Bont
Llangynin a Llangennech
Llyn Dulyn a Llandeilo
Llwyngwril a Llangorwen
Rhosili a Rhoshelyg

O Lwyn-onn i Lanwynnog meddai Guto'r Glyn unwaith, gan gynnig patrwm hwylus i ni ei ddynwared.

Ymarferiad 7

Awn ati i lunio cwpled cywydd trwy ateb y linell:

O Gaerhun i Gae'r onnen

Rhaid cael sillaf acennog sy'n odli ag onnen.

Beth am hen, gwên, clên, trên, gên, brên, siampên, ystên, eroplên, llên?

Neu beth am ddefnyddio'r llafariad byr - y llafariad trwm - gan fod y naill neu'r llall yn odli'n gywir â gair sydd fel onnen yn diweddu'n ddiacen: pren, llen, cen, nen, pen, Amén, gwen, sen.

Wel, mae 'na hen ddigon o ddewis yn y fan yna! Beth am roi cynnig ar un ohonyn nhw:

Rhoi y plant ar eroplên
o Gaerhun i Gae'r onnen.

neu beth am:

O Gaerhun i Gae'r onnen
y mae pawb am gael siampên.

Ymarferiad 8


y wers flaenorol cynnwys y wers nesaf

addasiad Gwasg Aredig o ddeunydd hawlfraint (h) Gwasg Carreg Gwalch