ymarferion blaenorol y wers ymarferion pellach


Ymarferion Pedwaredd Wers cwrs Clywed Cynghanedd

Ymarferiad 1

Mae un gair ym mhob rhestr yn proestio gyda'r gair cyntaf. Pa un?

yn ô,l i'r wers


Ymarferiad 2

Mae un gair ym mhob rhestr yn euog o'r bai rhy debyg wrth geisio cynganeddu â'r gair cyntaf. Pa un?

yn ô,l i'r wers


Ymarferiad 3

Mae un gair ym mhob rhestr yn camacennu â'r gair cyntaf. Pa un?

yn ô,l i'r wers


Ymarferiad 4

Mae un gair ym mhob rhestr yn euog o'r bai crych a llyfn wrth geisio cynganeddu â'r gair cyntaf. Pa un?

yn ô,l i'r wers


Ymarferiad 5

Lluniwch restrau o enwau sy'n cynganeddu'n gytbwys ddiacen â'r canlynol:

  1. miwsig e.e. mesen, ymosod, . . .
  2. agoriad e.e. gwirion, garw, . . .
  3. muriau e.e. myharen, mï,aren, . . .

yn ô,l i'r wers


Ymarferiad 6

Lluniwch restrau o eiriau sy'n cynganeddu'n gytbwys ddiacen â'r canlynol drwy gyfrwng treiglad:

  1. miwsig e.e. fy mhwysau, . . .
  2. agoriad e.e. ei gywiro, dan garu, . . .
  3. yfory e.e. ei furiau, dan farrug, . . .

yn ô,l i'r wers


Ymarferiad 7

Ceisiwch chwilio am eiriau i lenwi'r bylchau a ganlyn. Cofiwch y gallwch ddefnyddio enwau personol os bydd rhai'n cynnig eu hunain.

  1. dau ............... a dwy gweryl
  2. dau siriol a dwy ...............
  3. dau ............... a dwy beniog
  4. dau Aled a dwy .................
  5. dau ddaliwr a dwy ..............

yn ôl i'r wers


Ymarferiad 8

Cwblhewch y llinellau hyn. Fe welwch fod yn rhaid ichi chwilio am eiriau sy'n cynnwys y cytseiniaid o flaen yr orffwysfa sydd heb gael eu hateb eto o flaen y brifacen. Lluniwch gynganeddion Croes neu Draws seithsill.

  1. ymofynnai ............... feinir
  2. ap Gwilym ............... galed
  3. yn y dafarn ............... yfed

yn ôl i'r wers


Ymarferiad 9

Cynigiwch eiriau sy'n cynganeddu'n gytbwys ddiacen â'r geiriau hyn. Gwyliwch yr acen lafarog yna, a chofiwch ddefnyddio geiriau sy'n creu treigliadau er mwyn helpu eich hunain:

  1. bywyd
  2. diwedd
  3. gwiail

yn ôl i'r wers


Ymarferiad 10

Roedd yr hen gywyddwyr yn arbennig o hoff o gynganeddu enwau lleoedd i gorff eu cerddi. Dewiswch yr enw lle cywir cywir o'r rhestr i gwblhau'r llinellau cytbwys diacen canlynol:

  1. na syched fyth yn ............... (Iolo Goch)
    (Sychnant, Sychdyn, Synod, Sycharth)
  2. llew a aned yn ............... (Lewys Glyn Cothi)
    (Llan-non, Llinwent, Llangwm, Llyfnant)
  3. dur Denmarc am darw ............... (Tudur Aled)
    (Dwyran, Dinmael, Dinbych, Dinas)
  4. y blaenaf o bobl .............. (Dafydd Nanmor)
    (Aled, y Bannau, Wynedd, y Bala)
  5. ..............., llew'n yr heol (Tudur Aled)
    (Llaneirwg, Llanrhaeadr, Llaneilian, Llanwrin)
  6. ..............., well na dugiaeth (Dafydd Nanmor)
    (Llandygái, Llandegfan, Llanedgar, Llandygwy)
  7. cadw batent Coed-y-............... (Tudur Penllyn)
    (Bethel, Bangor, Betws, Bennar)
  8. Rhys orau'n nhir.................. (Dafydd Nanmor)
    (y Sarnau, Is Aeron, Soar, San Seiriol)

yn ôl i'r wers


Ymarferiad 11

Mae'r gyfatebiaeth yn gref iawn yn y llinellau hyn. Tybed a fedrwch alw enw lle i gof eich hunain?

  1. mi euthum i ............... (Guto'r Glyn)
  2. brest ytwyd i ............... (Lewis Môn)
  3. llawn ergyd yn ............... (Tudur Aled)
  4. wrth lawnder, cyfraith ............... (Dafydd ab Edmwnd)
  5. mae ar wyneb ............... (Tudur Aled)
  6. bonfras Arglwydd o ............... (Guto'r Glyn)
  7. ac yno ym medw ............... (anhysbys)

yn ôl i'r wers


Ymarferiad 12

Pa gytseiniaid sy'n cael eu ceseilio yn y llinellau a ganlyn:

  1. mwyalchod teg ym mylch ton (Dafydd ap Gwilym)
  2. praff fonedd pur a ffyniant (o lyfr Simwnt Fychan)
  3. cawn 'i lliw fel cannwyll las (o lyfr Edmwnd Prys)
  4. os cariad ymysg ceraint (Wiliam Lly^n)
  5. fy enaid teg, fy un twyll (Lewys Glyn Cothi)

yn ôl i'r wers


ymarferion blaenorol y wers ymarferion pellach

addasiad Gwasg Aredig o ddeunydd hawlfraint (h) Gwasg Carreg Gwalch