ymarferion blaenorol y wers ymarferion pellach


Ymarferion Trydedd Wers cwrs Clywed Cynghanedd

Ymarferiad 1

Nodwch pa un ai n wreiddgoll neu n ganolgoll a geir yn y llinellau a ganlyn:

  1. a phoeri mellt yn ffrom iawn (Dafydd ap Gwilym)
  2. neu flas dw^r fel osai da (Dafydd Nanmor)
  3. llwyth o'r calch yn llethu'r coed (anhysbys)
  4. well ei fwrdd ni allai fod (Guto'r Glyn)
  5. ni wn ba awr yn y byd (Guto'r Glyn)

yn ôl i'r wers


Ymarferiad 2

Pa gytseiniaid yr eir trostynt er mwyn creu'r cynghanedd Draws yn y llinellau hyn?

  1. llunio cerdd uwchben llwyn cyll (Dafydd ap Gwilym)
  2. heb ddawn, heb urddas, heb ddim (Gruffudd Gryg)
  3. wylo gwaed lle bu alw gwin (Wiliam Lly^n)
  4. mor syn â phe mwrw â saeth (Tudur Aled)
  5. llaw gref yn erbyn Lloegr oedd (Guto'r Glyn)

yn ôl i'r wers


Ymarferiad 3

Lluniwch gynganeddion Traws Fantach gan ddefnyddio'r geiriau canlynol fel yr orffwysfa. Cofiwch gadw at linellau seithsill a cheisiwch greu rhythm cyfforddus i'r glust.

yn ôl i'r wers


Ymarferiad 4

Mae goddefiad i reolau cerdd dafod ym mhob un o'r llinellau hyn. Fedrwch chi eu canfod a'u henwi?

  1. mewn ffair bydd cwmni hoff iawn
  2. yn y ffair penstiff yw ef
  3. mewn ffair mae hynny yn ffêr
  4. o'r ffair mae hi'n rhaid troi i ffwrdd
  5. yn y ffair heb bwn na phoen

yn ôl i'r wers


Ymarferiad 5

Amrywiwch y geiriau yn y llinellau a ganlyn er mwyn eu cwblhau yn gynganeddion Croes neu Draws.

mewn ffair ............... hoff iawn
(angen 3 sillaf ac ateb mn)
yn y ffair ............... ffôl
(angen 3 sillaf ac ateb n neu ei chyfri'n n wreiddgoll)
wedi'r ffair ............... i'r fferm
(angen 3 sillaf ac ateb d)

yn ôl i'r wers


ymarferion blaenorol y wers ymarferion pellach

addasiad Gwasg Aredig o ddeunydd hawlfraint (h) Gwasg Carreg Gwalch