y wers flaenorol cynnwys y wers nesaf


Trydedd Wers cwrs Clywed Cynghanedd

Wedi dweud yn y wers ddiwethaf bod rhaid ateb pob cytsain o flaen y prifacenion i greu llinell o gynghanedd Groes Cytbwys Acennog, daeth sawl goddefiad i'r golwg gan gynnig dihangfa a dewis ehangach i'r cynganeddwr:

`N' wreiddgoll ac `n' ganolgoll

Mae drws y gell yn agor yn araf bach, ac mae 'na fwy o gymorth ar y ffordd i roi ysgwydd y tu ôl i'r drws hefyd. Ystyriwch y llinell hon:

drwy boen y newidia'r byd

Wiliam Lly^n piau'r llinell a dadelfennwch hi fel hyn:

drwy bOEn | y newidia'r bYd
dr   b:(n)|   n   d   r b:(d)

Gwelwn fod y cytseiniaid d-r-b yn cael eu hateb o flaen y brifodl yn yr un drefn ag y maent o flaen yr orffwysfa. Ond beth am gytsain n ar ddechrau ail hanner y llinell. Nid yw honno'n cael ei hateb o flaen yr orffwysfa. Ond nid yw'n llinell wallus er hynny - mae hynny hefyd yn oddefiad i brif egwyddor y gynghanedd. Mae'r gytsain n yn digwydd yn aml mewn geirynnau Cymraeg megis yn, ein, ni, na, nid, ond ac ati a byddai ei hateb bob amser yn caethiwo ar fynegiant y beirdd. Caniatawyd, dros y blynyddoedd, felly i hepgor ei hateb pan fo'n digwydd ar ddechrau'r gyfatebiaeth - ar ddechrau'r gyfatebiaeth o flaen yr orffwysfa neu ar ddechrau'r gyfatebiaeth o flaen y brifodl. Yn y llinell `drwy boen y newidia'r byd', mae'n digwydd ar ddechrau'r gyfatebiaeth o flaen y brifodl a'r term arni yw n ganolgoll. Pan fo'n digwydd ar ddechrau'r gyfatebiaeth o flaen yr orffwysfa, fe'i gelwir yn n wreiddgoll.

Ymarferiad 1

Mae'n bwysig cofio un peth serch hynny. Sylwch eto ar y llinell olaf yn yr ymarferiad: ni wn ba awr yn y byd. Er bod cerdd dafod yn goddef yr n wreiddgoll a'r n ganolgoll ac er bod goddefiad arall yn caniatáu ateb dwy gytsain gyda dim ond un, ni chaniateir uno'r ddau oddefiad. Ni chaniateir dwy n wreiddgoll mewn llinell o gynghanedd. Barus fyddai peth felly!

`Ac' a `nac'

Mae'r geirynnau ac a nac bron bob amser yn cael eu sillafu gydag c galed ar eu diwedd, ond dywedwch `dafad ac oen' neu `na dafad nac oen' yn uchel ac mi glywch ar unwaith mai g yw'r sain i'r glust. Mae'n bwysig felly ein bod ninnau'n parchu'r glust wrth eu cynnwys mewn cynghanedd gan ateb yr c yn yr orgraff gyda'r sain g lafar.

ac yn eu pl:Ith | genau pl:Ant                     (Lewis Morris)
 g  n    pl:(th)| g n   pl:(nt)

gwy^r a th:Ir | ac aur a th:AI                     (Wiliam Lly^n)
g   r   th:(r)|  g   r   th:

Cywasgu

Gwelsom eisoes bod modd i ddwy gytsain glymu â'i gilydd i greu un sain. Yn yr un modd, gall dwy lafariad mewn dwy sillaf wahanol gywasgu i ffurfio un sillaf er mwyn ateb gofynion y nifer o sillafau a ganiateir mewn llinell. Sawl sillaf sydd yn y geiriau ``bara a chaws''? O'u cyfri fel Dalec, ``bar-a-a-chaws,'' byddem yn cyfri pedair sillaf, ond o'u dweud yn uchel, tair sillaf ydynt - ``bara' chaws'' gan fod y geiryn a yn cywasgu gyda'r a ar ddiwedd bara.

Yn achos llafariaid, does dim rhaid i'r ddwy lythyren fod yr un fath er mwyn cywasgu bob amser. Mae a+i yn rhoi ai; o+i >oi, e+u >eu ac ati e.e.:

canu i bawb acen o'i ben                (Lewys Glyn Cothi)
   u+i > ui

Traws gytbwys acennog

Daeth yn bryd cyflwyno'r ail fath o gynghanedd - sef y gynghanedd Draws. Nid cymlethu'r rheolau a wna hyn ychwaith, ond symleiddio pethau. Gwrandewch ar y llinell hon o waith Dafydd Nanmor sy'n disgrifio gwallt merch:

mae'n un lliw â'r maen yn Lly^n.

Ar glogwyni Uwchmynydd ym mhen draw Lly^n mae craig felen yn britho i'r wyneb ac ar y llethr codwyd un o'r cerrig mwyaf yn faen sy'n sefyll ar ei gyllell ers yr hen oesoedd. Hwn yw'r Maen Melyn a dyna liw gwallt y ferch roedd y cywyddwr wedi dotio ati. Ond anghofiwch am y prydferthwch a sylwch ar y gyfatebiaeth am y tro:

mae'n un ll:IW | â'r maen yn Ll:Y^n
m   n  n ll:   |   r m  n  n Ll: (n)

Mae pedair cytsain yn cael eu hateb yn yr un drefn o flaen y ddwy brifacen ond saif un cytsain - y gytsain r - heb ei hateb ar ddechrau'r ail hanner. Mae'r gyfatebiaeth yn mynd ar draws y gytsain honno er mwyn creu'r gynghanedd. Dyna hi'r gynghanedd Draws - cynghanedd gytseiniol yr un fath â chynghanedd Groes ond gydag un neu fwy o gytseiniaid heb eu hateb ar ddechrau ail ran y llinell. Mae'r ddwy brifacen yn acennog yn yr enghraifft uchod, felly dyna linell o Draws Gytbwys Acennog.

Mewn cynghanedd Groes, mae modd cyfnewid dau hanner y llinell heb amharu ar y gyfatebiaeth (er bod hynny'n amharu ar y synnwyr weithiau debyg iawn). Ystyriwch y llinell hon gan Tudur Aled sy'n disgrifio march yn carlamu nes bod ei bedolau'n codi gwreichion oddi ar gerrig y ffordd:

dryllio tir yn droellau tân.

Cynghanedd Groes gydag n ganolgoll yw hon:

dryllio t:Ir | yn droellau t:Ân
dr ll   t:(r)|  n dr  ll   t:(n)

Pe rhown yr ail hanner yn gyntaf, buasai gennym linell o gynghanedd Groes o hyd - ond gydag n wreiddgoll y tro hwn:

yn droellau t:Ân | dryllio t:Ir
 n dr  ll   t:(n)| dr ll   t:(r)

Ond nid oes modd gwneud hynny gyda chynghanedd Draws oherwydd rhaid i'r cytseiniaid sy'n cael eu hepgor o'r gyfatebiaeth fod ar ddechrau ail ran y llinell yn unig. Ni ellir mynd drostynt os ydynt ar ddechrau'r hanner cyntaf. Anghywir i'r glust fyddai dweud:

â'r maen yn Ll:Y^n | mae'n un ll:Iw
  r m  n  n Ll: (n)| m   n  n ll:

Ymarferiad 2

Y draws fantach

Fel y gwelwch, mae nifer y cytseiniaid yr eir trostynt yn amrywio o un yn unig mewn ambell linell i nifer helaeth mewn llinellau eraill. Mae modd ymestyn y bwlch i'r eithaf fel mai dim ond un sillaf acennog ar ddechrau'r llinell a'r sillaf acennog arall ar ei diwedd yn unig sy'n creu'r gynghanedd. Mae hon yn gynghanedd syml iawn i'w llunio ond gall fod yn effeithiol iawn yng nghanol nifer o linellau mwy cywrain er hynny. Mae ffurf y llinell yn debyg i geg gydag un dant cnoi ar bob pen iddi ond heb un dant brathu yn y canol. Yr enw ar y math hwn o gynghanedd Draws yw'r Draws Fantach. Rhaid cael pwyslais arbennig ar y sillaf cyntaf er mwyn i rythm y llinell orffwys yn naturiol. Dyma enghraifft:

haul yr ellyllon yw hi.

(Dafydd ap Gwilym biau'r llinell, i'r lleuad lawn.)

Dim ond y geiriau haul a hi, sef y ddwy brifacen, sy'n ateb gofynion y gynghanedd:

h:AUl | yr ellyllon yw h:I
h: (l)|                h:

Weithiau bydd clymiad o gytseiniaid ar ddechrau'r sillaf acennog yn cael eu hateb:

pl:A | ar holl ferched y pl:WY           (Dafydd ap Gwilym)
pl:  |                   pl:

ac weithiau bydd yr orffwysfa ar yr ail sillaf ond mai dim ond llafariad sydd yn y sill blaenorol:

a m:Erch | a welswn ym M:AI              (Dafydd ap Gwilym)
  m:(rch)|           m M:

a'i gr:Udd | fel rhosyn y gr:Og          (Dafydd ap Gwilym)
    gr:(dd)|              gr:(g)

Ymarferiad 3

Twyll gynghanedd

Wrth lacio caethdra'r gynghanedd, rhaid cael clust feinach i'w chlywed. Mae'n hawdd iawn i ambell gyfatebiaeth dwyllo'r glust gan roi'r argraff ei bod yn gyflawn pan nad yw felly mewn gwirionedd. Dadelfennwch y gynghanedd Draws hon:

wylais waed ar wely'r sant.

Wrth gyfleu eu galar, roedd yr hen gywyddwyr yn aml yn defnyddio'r darlun eu bod yn wylo nid dagrau, ond yn hytrach waed. Dyma'r gyfatebiaeth:

wylais :WAEd | ar wely'r s:Ant
  l  s :  (d)|  r   l  r s:(nt)

Mae'r gyfatebiaeth yn mynd dros yr r gyntaf ar ddechrau'r ail ran ond mae r arall wedi llithro i mewn rhwng yr l a'r s yn rhan olaf y llinell. Nid yw'r gyfatebiaeth yn gywir felly, er y gall swnio felly i glust anghyfarwydd. Mae'n enghraifft o'r hyn a elwir yn twyll gynghanedd - llythyren dwyllodrus wedi llithro i mewn i'r gyfatebiaeth heb inni sylwi arni. Nid honno oedd y llinell wreiddiol, wrth gwrs, ond hon o eiddo Guto'r Glyn:

wylais :WAEd | ar wely S:IÔn
  l  s :  (d)|  r   l  S: (n)

Mae'r gyfatebiaeth yn gywir yn hon.

Camosodiad

Beth sydd o'i le yn y llinell hon?

dawn yr iwrch rhag y neidr oedd

Dadelfennwch hi:

dawn yr :IWrch | rhag y neidr :OEdd
d  n  r : (rch)|(rh g)  n  dr : (dd)

Cynghanedd Draws sydd yma ar un olwg gyda'r gyfatebiaeth yn cynnwys y cytseiniaid d-n-r ac yn mynd dros yr rh a'r g. Ond o graffu, sylwn fod trefn y gyfatebiaeth yn wahanol: dnr/ndr. Er eu bod yr un cytseiniaid, maent wedi'u camosod a dyna enw'r bai sydd yn y llinell wallus hon - camosodiad.

Hon oedd y ffurf wreiddiol - llinell o waith Tudur Aled yn disgrifio march bywiog fel carw bach (iwrch) yn neidio wrth weld sarff ar ei lwybr:

naid yr :IWrch | rhag y neidr :OEdd
n  d  r : (rch)|(rh g)  n  dr : (dd)

Dyna ddau wall a all yn hawdd iawn dwyllo'r glust a rhaid meinhau'r glust er mwyn dod yn gyfarwydd â hwy a llwyddo i'w hosgoi.

Ati i greu

Wedi llacio cymaint ar y rheolau, mater bach fydd cynganeddu o hyn ymlaen! Dewch i ni roi cynnig arni. Beth am gychwyn gyda gair acennog fel ffair. Sut mae mynd ati i'w gynganeddu? Wel, mi allwn lunio'r math mwyaf elfennol o gynghanedd, sef y Draws Fantach.

ff:AIr | ........ff:...............

Fedrwch chi lenwi'r bylchau? Rhaid cael gair acennog yn dechrau gyda'r gytsain ff ar gyfer y brifodl. Pa un o'r rhain sy'n cynnig ei hun rwyddaf: ffawd, ffeind, ffordd, ffos, ffw^l? Beth am:

ffair yw paradwys y ffw^l
ffair, yna disgyn i ffos

Ychwanegwch at y rhain. Mae posibilrwydd arall gyda'r gytsain hon, wrth gwrs, sef ei hateb â ph. Rhaid creu treiglad, felly - ei phen, â phunt, a pheint:

ffair i gael cariad a pheint
ffair i ffarwelio â phunt

Gallwn fynd ymlaen a chymlethu'r llinell yn awr. Beth am roi gair neu eiriau o flaen `ffair' e.e. i'r ffair/o'r ffair/yn y ffair/mewn ffair. Geiriau byr heb lawer o gytseiniaid i'w hateb i ddechrau arni. Cofiwch na ellir mynd `ar draws' unrhyw gytseiniaid ar ddechrau llinell - ar wahân i n, wrth gwrs. Dyma ambell gynnig i osod y patrwm:

i'r ffair yr aeth gwy^r y fferm
mewn ffair gwelais blismon ffeind
yn y ffair fe fydd 'na ffeit

Cofiwch am y goddefiadau - mae modd cyfri'r gytsain gyntaf yn n wreiddgoll yn y dasg o ateb `yn y ffair', er enghraifft. Cofiwch hefyd nad oes raid bod yn gaeth i eiriau sy'n cychwyn â ff/ph i lunio prifodl. Gwrandewch ar sw^n y llinellau hyn:

mewn ffair bydd cwmni hoff iawn
yn y ffair penstiff yw ef
mewn ffair mae hynny yn ffêr
o'r ffair mae hi'n rhaid troi i ffwrdd
yn y ffair heb bwn na phoen

Ymarferiad 4

Ymarferiad 5


y wers flaenorol cynnwys y wers nesaf

addasiad Gwasg Aredig o ddeunydd hawlfraint (h) Gwasg Carreg Gwalch