ymarferion blaenorol y wers ymarferion pellach


Ymarferion Ail Wers cwrs Clywed Cynghanedd

Ymarferiad 1

Mae un o bob rhestr yn proestio â'r gair cyntaf. Pa un?

yn ôl i'r wers


Ymarferiad 2

Mae un o bob rhestr yn rhy debyg i'r llafariaid yn y gair cyntaf. Pa un?

yn ôl i'r wers


Ymarferiad 3

Pa eiriau sy'n cynganeddu'n gytbwys acennog gyda'r geiriau hyn?

  1. bwyd
  2. cnoi
  3. briw
  4. doeth
  5. gwddf
  6. ffaith
  7. swyn

yn ôl i'r wers


Ymarferiad 4

Gorffennwch y cynganeddion croes cytbwys acennog hyn drwy lenwi'r bylchau:

  1. llan a thref a ............... a thraeth
  2. gwin a chig a ............... a cherdd
  3. bwch a niwl a buwch a ...............
  4. siôl a ............... a sêl a ffridd

yn ôl i'r wers


Ymarferiad 5

Ble mae prifacenion y llinellau a ganlyn o waith Guto'r Glyn?

hynaf oll heno wyf i
rhy fyr i'r hwyaf ei oes
dy law wen a dalai wy^r

a'r rhain o waith Tudur Aled:

a chnydau y^d a chan dôl
sêl a dawn Isaled oedd
iaith Gymraeg a'th gymar oedd.

yn ôl i'r wers


Ymarferiad 6

`Na heuer mwy yn nhir Môn' meddai Iolo Goch. Newidiwch yr enw Môn am enwau eraill unsill acennog a chwblhewch gofynion y gynghanedd newydd - Gwent, Lly^n, Fflint, Iâl a.y.b., er engraifft: Na heuer gwair yn nhir Gwent.

yn ôl i'r wers


Ymarferiad 7

Mae un ym mhob rhestr yn dioddef o'r bai crych a llyfn i'r gair cyntaf. Pa un?

yn ôl i'r wers


ymarferion blaenorol y wers ymarferion pellach

addasiad Gwasg Aredig o ddeunydd hawlfraint (h) Gwasg Carreg Gwalch