ymarferion blaenorol y wers ymarferion pellach


Ymarferion Wythfed Wers cwrs Clywed Cynghanedd

Ymarferiad 1

Dyma enghreifftiau eraill - dadelfennwch yr acenion a nodwch pa gytseiniaid sy'n cysylltu â dechrau'r rhan ddilynol:

  1. arglwyddes a santes oedd (Lewys Glyn Cothi)
  2. penaethiaid yw dy daid oll (Gwilym ab Ieuan Hen)
  3. y gwaed o'i draed a redodd (Ieuan Brydydd Hir)
  4. oni'th gaf, araf forwyn (Wiliam Lly^n)
  5. a cherdd am y ddager ddu (anhysbys)

yn ôl i'r wers


Ymarferiad 2

Chwiliwch am eiriau i lenwi'r bylchau i gwblhau'r odl gudd yn y cynganeddion Llusg a ganlyn:

  1. mae ganddo ...................................... o ddoniau
  2. fe ddawnsia ...................................... y garreg
  3. ef bia ...................................... calon
  4. mewn gwlad dramor ...................................... gormes
  5. mae yn ein poeni ......................................
  6. mae hwn yn gartre ......................................

yn ôl i'r wers


Ymarferiad 3

Mae'r gynghanedd Groes o Gyswllt yn llyfn a swynol iawn ar y glust. Gwrandewch ar y llinellau hyn, yna dadelfennwch hwy:

  1. y gw^r a ddug arwydd iach (anhysbys)
  2. am ddwyn Wiliam ddoe'n wylaw (Guto'r Glyn)
  3. llawer yn well a rhai'n waeth (Edmwnd Prys)
  4. dug ei enaid i ganu (Tudur Aled)

yn ôl i'r wers


Ymarferiad 4

Er mwyn llunio cynghanedd Groes o Gyswllt, mae angen un gair neu glymiad o eiriau sy'n cychwyn a gorffen gyda'r un gytsain. Dyma enghreifftiau acennog. Fedrwch chi gynnig atebion?

  1. ai dyma wlad .........................................
  2. heddiw yw'r dydd .........................................
  3. hogyn drwg .........................................

A dyma enghreifftiau diacen i'w cwblhau:

  1. delfrydwyd .........................................
  2. hwyl y garol .........................................
  3. diweled .........................................

yn ôl i'r wers


Ymarferiad 5

Dadelfennwch y cynganeddion Croes a Draws Cysylltben hyn gan nodi pa gytseiniaid sy'n cael eu benthyca:

  1. o dda mwy ni ddymunwn (Tudur Aled)
  2. wy sydd fwy offisial (Guto'r Glyn)
  3. a maen perl mewn parlment (Gruffudd Hiraethog)
  4. och, Dduw, ni chuddia'i wyneb (Wiliam Lly^n)
  5. aros maen Syr Rhys Mawnsel (Iorwerth Fynglwyd)

yn ôl i'r wers


Ymarferiad 6

Pa gytseiniaid sy'n cael eu gwthio drosodd i ail hanner y llinell yn y cynganeddion Drychben a ganlyn?

  1. lliw gwydr a blew llygoden (Gutun Owain)
  2. am y cwbl y mae cybydd (Gruffudd Gryg)
  3. oren mydr o ramadeg (Dafydd ap Gwilym)
  4. yn sicr fe gyll ei siaced (Iolo Goch)
  5. ar dy hoedl o'r Deheudir (Llywelyn Goch)
  6. o Gaer Went i gwm Anwig (Lewys Glyn Cothi)

yn ôl i'r wers


ymarferion blaenorol y wers ymarferion pellach

addasiad Gwasg Aredig o ddeunydd hawlfraint (h) Gwasg Carreg Gwalch