ymarferion blaenorol y wers cynnwys


Ymarferion Unfed Wers ar Ddegcwrs Clywed Cynghanedd

Ymarferiad 1

Pa gysteiniaid sy'n caledu yn y llinellau hyn?

  1. pob bron fal y papur yw (Ieuan Deulwyn)
  2. y ddraig goch ddyry cychwyn (Deio ab Ieuan Du)
  3. llety clyd a lle teg glân (Lewys Glyn Cothi)
  4. troed deau tir y Tywyn (Dafydd Nanmor)
  5. golwg gwalch ar geiliog coed (Gutun Owain)
  6. i Fôn y try f'enaid draw (Guto'r Glyn)

yn ôl i'r wers


Ymarferiad 2

Mae amrywiaeth o gyfatebiaethau caled a cheseilio yn y llinellau hyn. Fedrwch chi eu canfod?

  1. at deulu llwyth Tal-y-llyn (Wiliam Lly^n)
  2. yn neutu'r allt, enaid rhydd (Dafydd ap Gwilym)
  3. be'i profid yn Bab Rhufain (Tudur Aled)
  4. gael oed dydd a gweled hon (Dafydd ap Gwilym)

yn ôl i'r wers


Ymarferiad 3

Dyma sgerbydau sychion cynghanedd Sain. Mae angen meddwl am eiriau i lenwi'r bylchau sy'n creu calediad a ffurfio odlau ewinog a chytseinedd rhwng y tair rhan. Llenwch y bylchau.

  1. brêc carreg ............
  2. chwip ............ hunllef
  3. mat ............ da
  4. cynnig ............ coed
  5. di-sut ............ dyn
  6. sioc ............ gynnar

yn ôl i'r wers


Ymarferiad 4

Dyma restr o enwau lleoedd sy'n cynnwys y clymiad st. Lluniwch gynganeddion yn eu cynnwys gan naill ai gadw'r t yn galed neu ei hateb yn feddal yn ôl eich clust.

  1. Ffostrasol
  2. Castell-nedd
  3. Nantstalwyn
  4. Ynystawe
  5. Rhostryfan
  6. Fforest-fach
  7. Parc y Strade

yn ôl i'r wers


Ymarferiad 5

Pa gytseiniaid sy'n cael eu hateb gan un feddal yn y llinellau hyn?

  1. trwsiadau drud trosti draw (Tudur Aled)
  2. gwylltineb golli dynion (Lewys Glyn Cothi)
  3. a phader serch, hoffter sôn (Ieuan Deulwyn)
  4. tair ysponc, torres y bys (Dafydd ap Gwilym)
  5. ystafell Eos Dyfed (Dafydd ab Edmwnd)

yn ôl i'r wers


ymarferion blaenorol y wers cynnwys

addasiad Gwasg Aredig o ddeunydd hawlfraint (h) Gwasg Carreg Gwalch