yn ôl i'r beiau cynnwys


Rhy Debyg

Mae bai `rhy debyg' ar linell pan fo'r llafariaid yn yr orffwysfa a'r brifodl yn rhy debyg i'w gilydd.

Yn ôl rhai o athrawon y bedwaredd ganrif ar bymtheg gwallus yw llinellau fel y rhain:

Na gwall, | na mewyn, na gwarth,
Na sych:ed | fyth yn Sych:arth.			Iolo Goch

Hyfryd | i dorri byd | y bydd.

lle bo'r un llafaiad yn acennog yn yr orffwysfa a'r brifodl. Ond y mae llinellau tebyg mor gyffredin gan feirdd cyfnod Tudur Aled, ac o'i flaen ac ar ei ôl, â'i bod yn amlwg na chyfrifwyd gwynt yn wallus yn eu hoes hw. Yn ôl Simwnt Fychan, oedd yn ddisgybl i Dudur Aled yn yr unfed ganrif ar bymtheg, ar yr acen ysgafn yn unig y ceid y gwall `rhy debyg', fel yn

Rhyd:eg | fu yr anrhyd:edd

Yma mae'r ddwy sillaf olaf yn debyg yn yr orffwysfa a'r brifodl, ag eithrio'r gytsain olaf.

Tybia Syr John Morris-Jones mai Tudur Aled wnaeth y rheol `rhy debyg' wrth iddo drefnu rheolau'r cynganeddion.


yn ôl i'r beiau cynnwys

Gwasg Aredig