clawr


Diffygion yn y testun electronig

Mae'r testun electronig yn anghyflawn ar hyn o bryd; gwaith yn dal ar y gweill sydd yma. Mae cynnwys y llyfr argraffiedig i gyd yma erbyn hyn, ag eithrio rhai atebion i ymarferiadau, ond prin iawn yw'r deunydd ychwanegol fel yr eirfa ac yn y blaen; a phrin yw'r cyfeiriadau rhwng darnau o'r gwaith.

Yn anffodus nid yw hi'n hawdd dangos pob llythyren o'r wyddor Gymraeg ar y We: nid oes yng nghasgliadau llythrennau safonol iso-8859-1 ddefnyddir gan y mwyafrif o offer gwe nac `w' nac `y' acennog. Am hynny, ac am fod yr acennion yn bwysicach wrth drafod y gynghanedd nag mewn iaith pob dydd hyd yn oed, danghosir `w' ac acen grom fel `w^', ac `y' ac acen grom fel `y^'. Ystyrid nifer o ddihangfeydd rhag y fagl hon ond ni welwyd un oedd eto yn haeddu ei defnyddio.

Cydnabyddir yn barod iawn cymorth hael gafwyd gan Wasg Carreg Gwalch, ac fe baratowyd rhan helaeth o'r testun yma yn uniongyrchol o gopi electronig o ddrafft o'r llyfr, ond nid o gyfanrwydd y testun cyhoeddiedig. Y mae felly ychydig wahaniaethau hanesyddol rhwng y llyfr a'r testun ar y We. Y mae yn ddiamau hefyd nifer o wahaniaethau anfwriadol achoswyd yn ystod y gwaith trosi i'r cyfrwng newydd, rhai yn frychau iaith a sillafiad, eraill ddichon yn gamgymeriadau yng nghyflwyniad rheolau cerdd dafod. (Mae'r gwaith dan law ar hyn o bryd o gywiro nifer fawr o'r brychau hyn a sylwid arnynt eisioes.) Nid bai'r awdur gwreiddiol na'i Wasg mo'r rhain.


clawr

cyflwyniad Gwasg Aredig