Clywed Cynghanedd
cwrs cerdd dafod

Gwead gan Wasg Aredig
mewn cydweithrediad â Gwasg Carreg Gwalch

Mae cwrs dysgu'r cynganeddion Cymreig yn raddol ymddangos yma ar hyn o bryd, yn seiliedig ar lyfr y Prifardd Myrddin ap Dafydd, a'r gyfres radio o'r un enw ddarlledwyd ar Radio Cymru'r BBC (cynhyrchydd Bethan Wyn Jones). Mae'r gwaith hwn yn dal ar y gweill, ac mi ddylid disgwyl bylchau mawr yng ngwead y testun: darnau ar goll - yr atebion, er engraifft - sothach yn cadw lle iddyn nhw, darnau heb eu golygu o gwbl a ballu. Dim ond sgerbwd sydd yma hyd yn hyn, dyblygiad electronig o'r testun argraffedig, a hwnnw'n ddyblygiad llai na ffyddlon. Mae gen i rai syniadau ar sut i arbrofi gyda'r cyflwyniad, ond serch hynny mi fuaswn innau'n falch dros ben o dderbyn unrhyw gynigion call ar sut mae cyflwyno cwrs cynganeddu ar y We.

Cyn cychwyn ar gynnwys y cwrs, dylid taro golwg ar y nodiadau ar ddiffygion y testun electronig ac ar yr hawlfraint.


cyflwyniad Gwasg Aredig

cyllun y clawr: Mei Mac