y wers flaenorol cynnwys


Trydedd Wers ar Ddeg cwrs Clywed Cynghanedd

Rhai mesurau

Rydym eisoes wedi dysgu gofynion dau o fesurau mwyaf poblogaidd cerdd dafod, sef y cywydd a'r englyn unodl union. Hyd yma, dim ond cwpledi unigol o gywydd rydym wedi'u creu. Er mwyn creu cywydd meithach, nid dim ond clymu cyfres o gwpledi unigol a wneir - mae'r cywyddwyr yn asio cwpledi i'w gilydd gan greu paragraffau neu benillion i'r gerdd. Weithiau bydd y penillion yn gyfartal o ran hyd - yn 6 neu 8 llinell yr un ac mae hynny'n gyfleus er mwyn ei osod ar gerdd dant. Wedi'r cyfan, does dim yn well na chanu neu adrodd cerdd dafod - rhaid i gynghanedd gael ei llefaru cyn y caiff ei chlywed ac i gyfeiliant y tannau yw'r dull traddodiadol o ddatgan barddoniaeth Gymraeg erioed. Mae cerdd dafod a cherdd dant yn dawnsio law yn llaw â'i gilydd ac wrth gyfansoddi'r geiriau, rhaid gofalu eu bod yn llyfn ar y dafod ac esmwyth ar y glust.

Un ffordd o wneud hynny ar fesur y cywydd yw amrywio lleoliad y llinell acennog o fewn y cwpled. Os yw un cwpled yn rhoi'r llinell acennog yn gyntaf, yna mae'n syniad go dda anelu fod honno yn olaf yn y cwpled sy'n dilyn. Yn sicr, ni ddylid rhoi mwy na dau neu dri chwpled ar ôl ei gilydd sy'n dilyn yr un patrwm acennu neu bydd y cywydd yn swnio'n gloff ac undonnog. Does dim rhaid cadw'n ddeddfol at frawddegu yn llinellol neu fesul cwpled chwaith. Mae'n beth braf bod brawddeg o farddoniaeth weithiau'n ymestyn dros nifer o linellau gan ddod ag amrywiaeth i fydr a all swnio'n ailadroddllyd os cedwir at symudiad fesul cwpled yn unig. Gan fod iddo draddodiad gwych a nifer o grefftwyr gloyw yn ei drin y dyddiau hyn, does dim amheuaeth mai'r cywydd yw un o fesurau godidocaf, mwyaf hyblyg, mwyaf dychmyglon cerdd dafod. Gall fod yn ddeg llinell o hyd, gall fod yn gant; gall fod yn glasurol, goeth a gall fod yn smala, sionc; gall fod yn drist wylofus a gall fod yn ffraeth ac ysgubol.

Mae'r englyn unodl union, fel y gwelsom, yn gyfuniad o ddau fesur - y toddaid byr (na cheir canu arno fel mesur unigol) a'r cwpled cywydd (y cywydd deuair hirion yw ei derm swyddogol). Mae ugeiniau o filoedd o englynion unigol ar gael yn yr iaith a gorau po fwyaf ohonynt y medrwch eu cadw ar eich cof! Defnyddir yr englyn hefyd fel pennill o gerdd feithach sy'n gyfres o englynion. Weithiau bydd cyfres o englynion yn cael ei galw'n gadwyn gan eu bod wedi'u cysylltu â'i gilydd drwy ailadrodd gair neu ymadrodd ar ddiwedd llinell olaf un englyn ar ddechrau llinell gyntaf yr un sy'n ei olynnu. Ar ben hynny rhaid gorffen yr englyn olaf gyda un o eiriau cyntaf llinell gyntaf yr englyn gyntaf nes bod y gadwyn yn un hollol gron. Saith englyn a geir mewn cadwyn fel rheol ond ychydig iawn o ganu cadwynni a geir bellach a llai fyth o ganu gosteg o englynion, sef cyfres gyfan wedi'i chanu ar yr un odl.

Yn draddodiadol, sonnir am `bedwar mesur ar hugain Cerdd Dafod', sef yr unig fesurau y gallai'r beirdd eu defnyddio er mwyn llunio awdl (sef cerdd faith gynganeddol a gyfyngir bron yn gyfangwbl i gystadlaethau am gadeiriau eisteddfodol erbyn heddiw). Byddai'r hen feirdd yn hoffi dangos ehangder eu gwybodaeth a'u meistrolaeth drwy ganu awdl enghreifftiol o bryd i'w gilydd, sef awdl oedd yn cynnwys pob un o'r pedwar mesur ar hugain. Ond erbyn heddiw, lle bo camp mae rhemp yw hi yn achos rhai o'r mesurau traddodiadol - mae amryw wedi'u caethiwo'n ormodol ac wedi'u goraddurno inni fedru canu barddoniaeth yn rhwydd arnynt ac mae'r beirdd wedi canolbwyntio ar fynegi eu hunain ar ddyrnaid ohonynt.

Er ein bod yn cyfeirio'n fynych at gywydd ac englyn wrth eu henwau syml fel yna, y cywydd deuair hirion yw ein cyfaill mynwesol bellach ond perthnasau agos ato yw'r awdl-gywydd, y cywydd deuair fyrion a'r cywydd llosgyrnog. Ychydig iawn o ganu a glywir ar y cefndryd hyn heddiw ond ni ddylid anghofio'n llwyr amdanynt serch hynny. Canodd Emyr Lewis ganiad trawiadol ar y cywydd deuair fyrion yn ei awdl i'r llanc ar sgwâr Tiananmen a daflodd ei hun o flaen tanciau'r fyddin:

Maes Tiananmen
wylo halen:
rhua'r awyr
yn dân a dur,
damsang angau
brwnt y plant brau,
hyrddio harddwch
i'r llaid a'r llwch.
Wylo halen
maes Tiananmen.

Fel y gwelwch, mae'n dilyn yr un egwyddorion yn union â'r cywydd deuair hirion - cwpledi'n odli gydag un yn acennog a'r llall yn ddiacen, dim ond bod hyd y llinellau yn bedair sillaf yn hytrach nac yn saith sillaf. Ni chaniateir cynghanedd Lusg yn ail linell cwpledi'r cywydd deuair fyrion chwaith.

Mae mwy o ddefnydd yn cael ei wneud ar deulu'r englyn unodl union. Dyma'r rhai mwyaf poblogaidd:

Englyn penfyr

Y cyfan yw'r mesur hwn yw englyn unodl union heb y llinell olaf. Gall y drydedd llinell ddiweddu'n acennog neu'n ddiacen. Mae gwraidd y mesur yn ôl yng nghanu Llywarch Hen a chanu Heledd er mai englynion heb gynghanedd gyflawn ynddynt oedd y rheiny. Mae rhywbeth yn derfynol chwithig ynddynt a gallant gyfleu hiraeth a chwerwedd yn effeithiol. Mae enghraifft o ddefnydd da ohonynt tua diwedd awdl Cwm Carnedd gan y Prifardd Gwilym R. Tilsley. Dyma un:

Yn y Foelas a'r Villa  -  onid oes
      neb dyn a breswylia?
   `Neb ond Saeson hinon ha.'

Englyn milwr

Englyn tair llinell arall yw'r englyn milwr ac mae'i wreiddiau yntau yn ôl yn y canu cynnar. Yn y mesur hwn, mae'r tair llinell yn seithsill o hyd ac nid yw o bwys sut y maent yn diweddu - gallant fod yn acennog neu'n ddiacen. Er mwyn amrywiaeth mydryddol, fodd bynnag, bron yn ddieithriad bydd o leiaf un o'r llinellau ym mhob pennill yn diweddu'n acennog gan y beirdd sy'n trin y mesur hwn. Fel yr englyn penfyr, mesur i'w ddefnyddio mewn cyfres yw hwn fel rheol ac fe'i ceir o dro i dro yng nghorff awdlau eisteddfodol. Mae enghraifft ar ddiwedd awdl `Y Gwanwyn' gan Dic Jones, a dyma un arall am gêm rygbi rhwng y gwynion a'r cochion ar y Maes Cenedlaethol:

Rhoi un 'nôl i'r hen elyn,
un trosol trwy ei rosyn
gyda hwrdd ein pymtheg dyn.

Englynion eraill

Eraill o berthnasau'r englyn yw'r englyn unodl crwca (englyn unodl union o chwith gyda'r cwpled yn gyntaf a'r toddaid yn dilyn); englyn toddaid; englyn deugyrch; cyrch a chwta; englyn cyrch; englyn pendrwm; englyn proest cyfnewidiog ac englyn proest cadwynog. Dim neu brin ddim defnydd sydd gan y beirdd i'r rhain bellach ond mae un arall wedi cael anadl newydd - a honno'n un fywiog iawn - i'w hen esgyrn yn ddiweddar. Yr englyn cil-dwrn yw hwnnw a oedd yn hen fesur y tu allan i'r pedwar mesur ar hugain ond caiff ei ddefnyddio'n effeithiol gan feirdd y talwrn erbyn hyn i ddychan neu i greu doniolwch. Caiff ei lunio drwy ychwanegu llinell ddeusill neu drisill at doddaid byr. Nid oes cynghanedd ynddi ond mae'r sillaf olaf yn cynnal prifodl yr englyn. Pwy a w^yr na welir rhai eraill o'r hen fesurau segur hyn yn cael ailwanwyn rhwy dro neu'i gilydd. Dyma enghraifft o englyn cil-dwrn o Bigion Talwrn y Beirdd 5:

Sgwrs rhwng dau yn y nefoedd
(Pedr yn cyhoeddi'r rheolau)

`Iaith y nef ar bob gwefus, adenydd
     amdanoch yn daclus . . .'
         -  `Wossis?!'

`Cut it out mate, thass Greek to me!  -  Come on,
     communicate prop'ly . . .'
        -  `Hegla hi!'

Ifor ap Glyn a Twm Morys (Beirdd y Byd)

Toddaid a thoddaid hir

Brodyr mawr y toddaid byr a geir mewn englyn yw'r toddaid a'r toddaid hir. Y mae llinell gyntaf y rhain yn ddecsill fel mewn toddaid byr gyda'r gynghanedd gyntaf yn saith neu wyth sillaf, yna'r gwant yn cael ei ddilyn gan y gair cyrch, sy'n deirsill neu'n ddeusill yn ôl cyfri'r rhan gyntaf. Y gwahaniaeth rhyngddynt a'i gilydd a'r toddaid byr yw bod yr ail linell yn naw sillaf mewn toddaid ac yn ddeg sillaf mewn toddaid hir. Ar ben hynny, mae'r ail linell yn gynghanedd Groes, Draws neu Sain gyflawn (ni chaniateir y gynghanedd Lusg). I gwblhau'r mesur mae odl rhwng diwedd y gynghanedd gyflawn yn y llinell gyntaf a diwedd yr ail linell ac odl arall rhwng sillaf olaf y gair cyrch a sillaf olaf yr orffwysfa (neu'r rhagodl a'r orodl os mai cynghanedd Sain ydyw) yn yr ail linell. Dyma'r tro cyntaf inni ddod ar draws y gynghanedd naw neu ddeg sillaf - gall y rhain ddiweddu'n ddiacen neu'n acennog ond y duedd gyffredinol bellach yw ei bod yn diweddu'n ddiacen. Mae'r beirdd yn dal i amrywio'r sillaf olaf ar ddiwedd y gynghanedd gyflawn yn y llinell gyntaf serch hynny - bydd weithiau'n acennog ac weithiau'n ddiacen.

Dyma enghraifft o doddaid:

Gwae fi eleni flined  -  ei golli! (10)
Gwae fi o'm geni'r awr y'm ganed! (9)
                                       		Dafydd Nanmor

ac enghraifft o doddaid hir:

A thebyg byth yw hebog  -  Mathrafal (10)
I Frân ap Dyfnwal a'r wyneb diofnog. (10)
						Tudur Aled

Gwawdodyn byr

I lunio gwawdodyn (a elwir erbyn heddiw yn wawdodyn byr) mae angen dwy linell o gyhydedd nawban (sef llinellau o gynghanedd naw sillaf) yn odli â'i gilydd yn cael eu dilyn gan doddaid sy'n cynnal yr un brifodl. Caniateir cynghanedd Lusg yn unrhyw un o'r ddwy linell gyntaf. Dyma enghraifft:

Mawr y sych gwynt helynt hwyliad, (9)
Mawr y gwlych y glaw pan ddel cawad, (9)
Mawr gryfdwr yw'r dw^r ar doriad  -  gweilgi, (10)
Mwy yw'r daioni ym mro Danad. (9)
						Wiliam Lly^n

Gwawdodyn hir

Yr unig wahaniaeth rhyngddo a'r gwawdodyn byr yw bod bedair cyhydedd nawban, yn hytrach na dwy, o flaen y toddaid.

Hir a thoddaid

Y tro hwn rhoddir llinellau deg sillaf o flaen toddaid hir gan gynnal yr un prifodl. Gellir cael hir a thoddaid pedair llinell neu wyth a deg llinell hyd yn oed - ond y mwyaf cyffredin o ddigon yw pedair llinell ddeg sillaf yn diweddu'n ddiacen (er nad yw hynny'n rheol) yn cael eu dilyn gan doddaid hir. Dyma enghraifft:

Gleisiad o Risiard, a Glosedr osog,
Glewach yw d'anian na'r gwalch adeiniog;
Gwrol oll ydwyd ar gweryl llidiog,
Gwrol, o thrawant, gw^r o lwyth rhywiog;
Gwrol, tra gwrol, trugarog  -  wrol,
Ni bu dra gwrol na bâi drugarog.
					Tudur Aled

Mae rhyw gerddediad urddasol a mydryddiaeth gref yn perthyn i'r gwawdodyn a'r hir a thoddaid. Mesurau awdlau yndynt yn amlach na pheidio erbyn heddiw er y ceir ambell bennill hir a thoddaid unigol yn ogystal. Mae symudiad llyfn a gosgeiddig i'r llinellau, gyda'r undonedd yn cael ei dorri gan y toddaid ar ei ddiwedd i roi clo da i bob pennill. Gwrandewch arnynt yn cael eu canu ar gerdd dant - maent fel cyfres o donnau'n torri trosoch ac yna'r un don fawr yn dod bob hyn a hyn i'ch sgubo i frig yr ewyn.


y wers flaenorol cynnwys

addasiad Gwasg Aredig o ddeunydd hawlfraint (h) Gwasg Carreg Gwalch